Yr heriau amrywiol sy'n wynebu busnesau Cross Hands
- Cyhoeddwyd
Mae Covid-19 yn taro busnesau mewn amrywiol ffyrdd - rhai'n poeni'n ddybryd am eu dyfodol, ac eraill yn ymdopi'n well na'r disgwyl.
A dyna'r sefyllfa'n un o barciau busnes y gorllewin.
Roedd stad ddiwydiannol Cross Hands yn arfer bod ymhlith y prysuraf yn y rhanbarth. Wrth yrru ar ffordd ddeuol yr A48 o Gaerfyrddin, mae un lôn ynghau oherwydd gwaith cynnal a chadw.
Fel arfer, mae hynny'n achosi oedi, gyda thagfeydd am filltiroedd. Ond nid mwyach.
Ac wrth gyrraedd y cylchdro sy'n arwain i mewn i'r parc busnes, mae'r gwylltineb arferol wedi diflannu - a'r 30,000 o gerbydau, sy'n arfer teithio arni'n ddyddiol, yn segur.
Mae cannoedd o bobl yn gweithio ym Mharc Busnes Cross Hands, a'r mwyafrif yn byw yn lleol.
Maes parcio'r ganolfan arddio yw'r unig un sy'n hanner llawn. Mae'r rhan fwyaf o'r siopau ynghau, a rheolwyr yn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd yn yr unedau busnes, gyda nifer fawr o'r gweithwyr i ffwrdd o'u gwaith ar y cynllun ffyrlo.
I gwmni Carafit, sy'n cynnal a chadw carafanau, mae'n gyfnod brawychus.
"'Sa i'n gweld lot o feysydd carafanau'n agor yn fuan iawn, a 'sa i'n gweld lot o bobl yn defnyddio carafanau eleni a bod yn onest," meddai Andrea Holley, cyd-berchennog y busnes.
"Mae tipyn yn defnyddio nhw yn y gaeaf ond dim digon i gadw ni i fynd. Falle wrth fynd ymlaen o fan hyn, bydd pobl yn dechre edrych mwy ar wylie yng Nghymru neu Brydain yn hytrach na mynd dramor.
"A fi'n credu y galle fe fod yn beth da i'n industry bach ni, ond mae'n mynd i fod yn sbel fowr cyn i ni gyrraedd y man yna, yn anffodus."
Brwydr i gadw'r busnes i fynd
Mae Carafit yn gwmni bychan teuluol, a gafodd ei sefydlu 30 mlynedd yn ô, ac mae Andrea yn bendant ei barn taw hwn yw'r cyfnod mwyaf heriol eto.
"Ni 'di bod trwy'r recession, ni 'di bod trwy dostrwydd, farwodd fy mrawd ddwy flynedd yn ôl, a des i mewn i'r gwaith y bore ar ôl hynny, achos taw busnes ni yw e. Ni'n gorfod talu pawb.
"Ma'r busnes yn golygu shwt gymint i ngŵr a finne, achos ei rieni fe 'nath setio popeth lan 'ma, a ni'n ymladd jyst i gadw fe i fynd rili, a 'sai'n gwbod shwt y'n ni'n mynd i 'neud hynny. Mae'r dyfodol yn scary ar hyn o bryd."
Oherwydd natur eu gwaith yn y diwydiant adeiladu, mae cwmni Hurley yn ymdopi'n weddol, yn ôl rheolwr y cwmni yn Cross Hands, Euan Jones.
"Ni 'di bod yn cwpla gwaith off yn Ysbyty Treforys, neonatal Glangwili a gorffen off ward yn Ysbyty Llwynhelyg, so ni 'di bod yn cadw'n brysur yn gwneud hynny.
"Stopon ni am wythnos jyst i neud yn siŵr bo' ni'n gallu dilyn y rheolau i gyd, ac unwaith o'n i'n deall beth o'dd ishe 'neud, mae 'di bod yn weddol o rwydd, achos ma' maint y sites yn fawr a ni'n gallu symud rownd a ma' llai o filders 'da ni mewn un man."
'Y staff fel teulu'
Ymateb i heriau Covid-19 yn y dyfodol agos mae cwmni Morgan & Morgan. Ac maen nhw bellach yn gwerthu teclyn i fesur tymheredd y corff.
Mae'r perchennog, Michael Morgan yn gobeithio y bydd modd iddo gael ei ddefnyddio mewn swyddfeydd, cartrefi gofal, a mannau cyhoeddus eraill, wrth i bobl ddechrau dychwelyd i weithio. Mae'n ymwybodol y bydd pryder ymhlith pobl sy'n rhannu ystafelloedd.
Yn gwerthu pob math o gyfarpar swyddfa, mae Mr Morgan yn gobeithio croesawu ei weithwyr yn ôl yn fuan.
"Ni mo'yn rhoi gwaith 'nôl i'n staff cyn gynted ag y gallwn ni, ni'n gweld nhw fel ein teulu ni," meddai.
"Ma' nhw mo'yn dod 'nôl ond mae ma' rhan fwyaf o'r swyddfeydd ar gau, felly so ni'n gallu cal nhw'n ôl. Ond 'na be ni'n trio 'neud - cael nhw 'nôl mor glou ag y gallwn ni."
Mae e'n dal i ryfeddu at y tawelwch y tu allan i'w ffenestr ar y stad ddiwydiannol.
"Neithiwr, o'dd neb yn dreifio heibio a 'sa i byth 'di gweld hynny o'r blaen ac o'n i'n dod mewn bore 'ma, ac o'dd neb obiti'r lle. Little eerie fydden i'n galw fe!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020