Newidiadau i ofal fasgwlar yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
glan clwyd

Mae un o benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i gleifion yn dilyn cyhoeddiad adroddiadau beirniadol o'r uned Fasgwlar yno.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dr David Fearnley mae'n "ymddiheuro am unrhyw beth sydd wedi digwydd" ac am y ffaith nad yw pobl yn teimlo bod modd cwyno'n uniongyrchol.

Roedd hefyd am ymddiheuro am "broblemau technegol" wnaeth rwystro'r cyhoedd rhag gwylio cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd Iechyd yn dadansoddi'r adroddiadau hyn, ddydd Iau.

Bellach mae arolwg i gynlluniau dadleuol i ganoli gofal fasgwlar yn y gogledd wedi argymell nifer o newidiadau yn sgil pryderon am ddiogelwch cleifion.

Dywedodd Dr Fearnley, eu bod weithiau wedi cael pethau yn anghywir "a phan rydym yn darganfod hyn rydym yn agored am hyn ac yn bwriadu ei gywiro".

Yn 2018, fe wnaeth y bwrdd iechyd benderfynu creu "Canolfan Ragoriaeth" fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan - roedd hynny yn dilyn ymgynghoriad gafodd ei gynnal yn 2012.

Cafodd y cynllun ei feirniadu gan gleifion a hefyd gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru - y corff sy'n goruchwylio'r bwrdd.

Yn yr adroddiad gan y Cyngor Iechyd Cymuned a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn fe ddaeth i'r amlwg fod nifer o staff yn teimlo "nad oes modd iddyn nhw gwyno" am fethiannau'r adran gan y byddai'n "ddinistriol i'w gyrfa".

Roedd nifer yn dweud nad oedd yna ddigon o fanylion yn y cynlluniau.

Dywedodd Dr Fearnley fod hyn yn 'siomedig' i glywed.

Fe wnaeth y Cyngor Iechyd Cymuned gynnal arolwg ei hun ymhlith cleifion oedd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Dr Fearnley fod o'n bwysig "i bobl deimlo bod modd trafod ac rydym yn gwahodd adborth".

Roedd nifer o'r farn fod y driniaeth o'r safon uchaf, ac yn poeni na fyddant yn gallu teithio i Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

Bellach mae'r Bwrdd Iechyd wedi ystyried eu hadroddiad mewnol a hefyd adroddiad y CHC ac wedi sefydlu tasglu i ofalu am weithredu'r newidiadau sy'n cynnwys:

  • Gweithio gyda chanolfannau eraill i ddysgu ymarfer gorau;

  • Monitro amseroedd aros ar gyfer triniaeth fasgwlar;

  • Gwella cyfathrebu gyda chleifion.