Penwythnos 'pwysig' creu system olrhain cysylltiadau

  • Cyhoeddwyd
Graffeg tracio cysylltiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r penwythnos yma yn un "pwysig" o ran datblygu system olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi'i heintio gyda'r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Bydd pedwar treial "ar raddfa fechan" yn "mynd rhagddynt yn gyflym" dros y penwythnos yr ardaloedd byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Powys, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

Bydd staff chwe chyngor sir hefyd yn rhan o'r cynllun - Ceredigion, Merthyr Tydfil, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd "tua 60 o weithwyr olrhain cysylltiadau" mewn gwahanol rannau o Gymru.

Eu gorchwyl, meddai, fydd "profi pethau fel y sgriptiau sydd angen i olrhain cysylltiadau, er mwyn gallu egluro i bobl ben arall y ffôn neu'r keyboard, beth rydych yn ei ofyn er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol".

Ychwanegodd: "Mae hwn yn benwythnos pwysig oherwydd bydd yn caniatáu i ni, dan amodau bywyd go iawn, i dreialu rhai o'r pethau bydd rhaid eu gosod yn eu lle...

"Bydden ni wedyn yn gallu cyflymu ein gallu i sicrhau nifer y bobl... pobl gyda'r hyfforddiant angenrheidiol, a'r sgiliau yn barod i wneud y job rydyn angen iddyn nhw wneud."

Yn ôl Mr Drakeford, mae swyddogion yn dal i gredu bydd angen 1,000 o weithwyr "yn nyddiau cynnar y system" a bydd y mwyafrif o'r rheiny'n cael eu symud o'u dyletswyddau arferol o fewn y cynghorau.

Ychwanegodd: "Mae gan yr awdurdodau lleol staff sydd methu gwneud eu swyddi arferol, cryn dipyn yn bobl sy'n aros adref oherwydd cyflyrau iechyd, ond yn gallu bod yn rhan o'r drefn tracio cysylltiadau...

"O'r hyn rwy'n ei glywed gan arweinwyr awdurdodau lleol, yn aml maen nhw'n awyddus iawn i wneud hynny."