Cwblhau marathon Mai mewn bygi i godi arian i elusen

  • Cyhoeddwyd
ElainFfynhonnell y llun, Bridget Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elain yn cael gofal cyson yn Nhŷ Hafan

Mae merch o ardal Aberystwyth ar fin cwblhau marathon rhithiol a hynny er mwyn codi miloedd o arian i Dŷ Hafan - elusen sydd wedi bod o gymorth mawr iddi hi a'i theulu.

Cafodd Elain Gwawr, sy'n 10 oed, ei geni â chyflwr prin ar ei chalon - cyflwr nad oes gwella iddo.

Mae Tŷ Hafan, ymhlith nifer o elusennau, sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws ac maen nhw'n annog pobl i wneud marathon ym mis Mai er mwyn dod ag arian i'r coffrau.

"Allen ni ddim peidio g'neud rhywbeth," meddai Bridget Harpwood, mam Elain "Mae Tŷ Hafan wedi ein helpu gymaint.

'Ei gwên yn codi fy nghalon'

"Ry'n ni'n mynd i aros yno am wythnos ddwywaith y flwyddyn er mwyn cael seibiant ac eleni roedden ni fod i fynd ddechrau mis Mai ond doedd hynny, wrth gwrs, ddim yn bosib.

"Dwi i ac Elain yn colli hynny yn fawr. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i ni ond mae Tŷ Hafan yn parhau i'n cefnogi drwy'r we.

"Mae gan Elain anghenion dwys - cyflwr y galon ac awtistiaeth - ac mae'n bwysig iawn ei chadw hi rhag yr haint.

"Dyw hi ddim yn deall be sy'n digwydd ond mae'n gwybod bod yna 'annwyd cas iawn' o gwmpas."

Ffynhonnell y llun, Bridget Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gweld y wên ar wyneb Elain yn codi fy nghalon," medd ei mam Bridget

Doedd dim syniad gan y teulu faint o arian fyddai ymgyrch Elain yn ei godi, ond mae'r ymgyrch eisoes bron â chyrraedd £5,000.

"Mae lot o ffrindiau wedi bod yn 'neud hyn hefyd sy'n ffantastig," medd Bridget.

O ran Elain ei hun - mae hi'n ceisio cwblhau'r marathon yn ei bygi newydd a'i mam yn ei gwthio.

"Mae'n rili anodd - ry'ch chi'n sôn am wthio oddeutu 60kg. Mae 'da ni ryw 10 milltir ar ôl - mae'r darn olaf ger ein cartref i fyny allt a dwi wir allan o wynt pan dwi'n cyrraedd."

Ffynhonnell y llun, Bridget Harpwood
Disgrifiad o’r llun,

Elain yn ei bygi newydd

Dyw rhedeg marathon ddim yn rhywbeth dieithr i Bridget Harpwood - mae hi bellach wedi rhedeg oddeutu 10, ac yn cynnal nifer o sesiynau boot camp.

"Mae gwthio Elain y peth anoddaf dwi wedi'i wneud," ychwanegodd, "ond mae gweld y wên ar ei hwyneb hi wrth fynd lawr yr allt 'na wir yn codi fy nghalon i - mae hi'n chwerthin ac yn joio.

"Ar ddiwedd y filltir olaf, dwi'n gobeithio y bydd Elain yn gallu cerdded rhywfaint at y drws - mae cyflwr ei chalon yn golygu na fedr hi gerdded yn bell iawn."

Colli £2m o gyllid

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd cyfarwyddwr codi arian Tŷ Hafan, Julian Hall bod ymdrech Elain yn ysbrydoliaeth.

"Mae ei hymdrechion hi ac eraill i godi arian i Dŷ Hafan wir yn werthfawr," meddai.

"Mae'n costio £4.5m y flwyddyn i ni weithredu gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer plant sâl a'u teuluoedd ac eisoes ry'n ni wedi colli £2m o gyllid wrth i ni orfod cau ein siopau a chanslo digwyddiadau codi arian.

"Ry'n ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ond ry'n ni'n parhau i fod yn ddibynnol iawn ar yr arian sy'n cael ei godi gan y cyhoedd.

"Ry'n ni fel arfer yn helpu Elain a'i theulu ond ry'n ni'n falch iawn ei bod hi nawr yn ein helpu ni yn y cyfnod anodd hwn."