Diwedd cyfnod gyda newid enw gorsaf radio Sain Abertawe
- Cyhoeddwyd
Am 06:00, 30 Medi, 1974, o stiwdios newydd sbon yn Nhre-gŵyr, aeth gorsaf radio annibynnol cyntaf Cymru, Sain Abertawe, ar yr awyr.
Fis Medi eleni, bron i 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mi fydd yr enw Swansea Sound yn diflannu.
Greatest Hits Radio fydd yr enw newydd wrth i gwmni Bauer Media ail-frandio 49 o'r gorsafoedd a brynwyd ganddyn nhw y llynedd.
Mi fydd enw chwaer-orsaf Sain Abertawe, 96.4FM The Wave, yn aros, ond ar wahân i'r rhaglen frecwast, bydd yr orsaf yn rhannu rhaglenni rhwydwaith Hits Radio, o Fanceinion.
Ymgynghori gyda staff
Dydy hi ddim yn glir a fydd swyddi'n cael eu colli yn y stiwdios yn Nhre-gŵyr ond mae'r cwmni wedi dechrau cyfnod ymgynghori gyda staff a'r rheiny sydd a chytundebau llaw-rydd.
Mae ymgyrch ar-lein #SaveSwanseaSound yn galw ar Bauer i ailystyried y penderfyniad ynglŷn ag enw'r orsaf.
Yn 1974 dim ond chwech o orsafoedd masnachol eraill oedd yn bodoli cyn i Sain Abertawe ennill y seithfed drwydded.
Roedd 'na dair blynedd cyn i Radio Cymru ddechrau gwasanaeth llawn, a chwe blynedd arall cyn i ail orsaf annibynnol Cymru - CBC Darlledu Caerdydd - ddod ar yr awyr.
"Dwi'n cofio'r jingles yn glir," meddai Vicky Ellis o Lanelli. "Two fifty-seven, Swansea Sound!"
"Roedd gen i gwpl o sticeri yn ffenest gefn fy nghar, fel pawb arall yn yr ardal yma: un Swansea Sound a'r llall o Barc Anifeiliaid Penscynor!"
"Am drueni," meddai Terry Sinet o Borthcawl. "Roedd llawer o glod yn y dyddiau cynnar a sôn am ddechrau cyfnod newydd ym myd darlledu. Dwi'n cofio ennill record ar raglen Doreen Jenkins!"
Dywedodd Tim Douglas: "Dwi'n cofio mynd ar drên arbennig oedd wedi'i drefnu gan yr orsaf i Reading, gyda'r DJs yn cynnal cwis ar y trên. Mi enillais i gopi o'r albwm All Funked Up gan y band Snafu."
Pan sefydlwyd yr orsaf, un o ofynion yr Awdurdod Darlledu Annibynnol (IBA) oedd ei bod yn darlledu 13% o raglenni trwy'r iaith Gymraeg a bod 3% o elw'r cwmni yn cael ei ddefnyddio ar gyfer talu am gerddoriaeth fyw.
Dywedodd Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg Sain Abertawe ar y pryd: "Ynghyd â chorau, bandiau ac unawdau lleol, defnyddiwyd yr arian yma i recordio grwpiau pop lleol ar gyfer y rhaglen boblogaidd, 'Mynd am Sbin gydag Aled Glynne'.
"Aled oedd un o'r nifer o gyflwynwyr gychwynnodd eu gyrfa yn Sain Abertawe - Glynog Davies, Sian Thomas, Richard Rees, Sian Sutton, a nifer eraill ond heb anghofio y diweddar annwyl Willie Bowen."
Erbyn hyn Ofcom sy'n gyfrifol am reoleiddio rhyw 300 o drwyddedau radio masnachol drwy'r DU, ond mae Llywodraeth San Steffan wedi caniatáu dadreoleiddio'r diwydiant.
O ganlyniad mae nifer o orsafoedd, fel Red Dragon FM, Real Radio a Sain-y-Gororau, wedi mynd gyda chyflwynwyr yn Llundain yn llenwi amserlenni ar Capital, Heart a Smooth Radio.
Mae'n rhaid i orsafoedd sy'n darlledu ar AM gynhyrchu 10 awr o raglenni'r wythnos yn y wlad ble mae'r orsaf wedi'i lleoli ac mae trwydded Sain Abertawe yn nodi bod rhaid darlledu 12 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg ar ben hynny.
Mae Bauer yn dweud na fydd unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth Gymraeg.
Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod y newyddion diweddaraf yn "rhan o batrwm lle mae gorsafoedd radio masnachol yn darlledu llai a llai o gynnwys Cymreig a Chymraeg".
"Maen nhw'n llai lleol nag erioed o'r blaen," meddai.
"Mae'n amlwg bod y drefn ddarlledu Brydeinig yn hollol anaddas i'n hanghenion fel gwlad. Mae'n bryd i ni gael y pwerau dros ddarlledu yma yng Nghymru."
Llai yn hysbysebu
Mae'r diwydiant yn dweud bod rhaid addasu gan fod llai o arian hysbysebu, a mwy yn ffrydio cerddoriaeth o wasanaethau fel iTunes a Spotify.
Mae Bauer wedi dweud na fyddan nhw'n newid enwau rhai gorsafoedd fel Pirate FM yng Nghernyw oherwydd natur unigryw'r ardal honno.
"Dwi'n credu bod e'n hynod sarhaus o'r cwmni i ailenwi ac ail frandio Swansea Sound i Greatest Hits radio," meddai Bethan Sayed AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn Senedd Cymru.
"Mae'n dangos diffyg parch i'r gymuned, gyda'r orsaf o dan yr enw Swansea Sound, yn rhan o DNA yr ardal," meddai.
Mae hi wedi gofyn i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i apelio ar Lywodraeth San Steffan i ddeddfu rheoliadau llymach.
"Mae Bauer yn dweud bydden nhw'n cadw'r cynnwys iaith Gymraeg, ond dwi'n poeni y byddent yn ceisio lleihau hwn yn yr hir dymor."
Colli 'dolen gyswllt bwysig'
Mi fydd enw Swansea Sound yn diflannu ddechrau Medi, wythnosau cyn pen-blwydd yr orsaf yn 46 oed, ond mae rhybudd gan un o'r rheiny oedd yno ar y diwrnod cyntaf:
"Cymerwyd Sain Abertawe drosodd gan gwmnïau heb fawr o wybodaeth am yr ardal na'r iaith Gymraeg," meddai Wyn Thomas.
"Yn awr daw dyddiau Swansea Sound i ben i wneud lle i jukebox a chyflwynwyr na fydd yn gwybod ble yn union mae Abertawe, Llanelli, Castell-nedd na Phort Talbot.
"Trist ydy gorfod ffarwelio â dolen gyswllt bwysig i'n cymdogaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019