Poen cryd cymalau yn gwaethygu heb help yn y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae elusen llid y cymalau yn dweud bod cynnydd syfrdanol yn nifer y dioddefwyr sy'n gofyn am gymorth ers dechrau'r cyfyngiadau coronafeirws.
Mae Versus Arthritis yn dweud bod 'na gynnydd o dros 80% yn nifer y galwadau am gymorth o bob cwr o Brydain yn ystod y deufis diwethaf.
Mae nifer y bobl sy'n troi at wefan yr elusen wedi cynyddu 320%.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, cafodd apwyntiadau arferol eu canslo ar ddechrau'r pandemig, gyda galwadau ffôn neu alwadau fideo yn cael eu cynnig yn eu lle.
Mae llid y cymalau yn achosi poen, chwyddo a thyndra yn y cymalau, yn arbennig y dwylo, y traed a'r arddyrnau.
Yn ôl Mary Cowern, cyfarwyddwr Cymru Versus Arthritis, mae'r cyfyngiadau cymdeithasol yn sgîl Covid-19 wedi achosi heriau ychwanegol i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.
Ymhlith rhai o'r problemau, meddai, mae poen cynyddol, unigrwydd a gwasanaethau sydd wedi'u canslo.
Mae gwasanaethau llid y cymalau wedi gorfod addasu dros yr wythnosau diwethaf.
Dim ond mewn achosion difrifol mae rhai apwyntiadau a thriniaethau wedi eu cynnal, ac mewn sefyllfaoedd eraill mae cleifion wedi cael cymorth dros y ffôn neu dros alwad fideo.
'Yr unig beth sydd gen i yw gobaith'
Mae gan Cari Davies, athrawes 28 oed o Abertawe, arthritis psoriatic.
Mae ei chyflwr yn effeithio ar ei bysedd a'i dwylo yn bennaf ac yn golygu ei bod hi mewn poen parhaol.
Fe gafodd Cari ddiagnosis ddwy flynedd yn ôl. Ers iddi ddysgu am ei chyflwr, mae ei bywyd wedi newid yn llwyr.
"Dwi'n cael trafferth yn gwneud pethau syml fel ysgrifennu am amser hir neu deipio. Mae pethau fel pigo pethau trwm lan yn achosi llawer o niwed am ddiwrnodau," meddai.
"Os ydw i tu fas ar y buarth yn edrych ar ôl y plant, am yr awr nesaf dwi'n cael llawer o broblemau."
Mae'r sefyllfa bresennol wedi cael effaith enfawr ar ei chyflwr.
"Dwi'n meddwl bod y pethau sy'n mynd 'mlaen ar hyn o bryd, yn enwedig gyda lockdown, wedi effeithio ar fy nghyflwr," meddai.
"Dwi methu mynychu'r therapi dwi fel arfer yn cael ddwywaith y mis. Mae hwnna, fel arfer, yn helpu cryfder fy nwylo. Mae'n helpu fi i symud a chadw'n actif.
"Dwi'n gallu gweld yn ddyddiol bod fy nwylo a fy mysedd yn gwaethygu. Mae'n achosi lot o straen a dwi'n poeni lot."
Fe fydd Cari yn mynd i apwyntiad brys yr wythnos hon, ar ôl aros am wythnosau.
"Dydy hi ddim yn fai unrhyw un. Doedd neb yn gwybod neu yn disgwyl i coronafeirws ddigwydd," meddai.
"I fi, ac efallai i bobl eraill yn sefyllfa fi, mae e'n bryder enfawr a rhywbeth sy'n achosi lot o straen.
"Oll chi'n gallu gwneud yn y sefyllfa 'ma yw gobeithio. Ar hyn o bryd, yr unig beth sydd gen i yw gobaith."
Mae'r rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru wedi siarad â nifer o gleifion arthritis yng Nghymru sydd ddim yn gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb yn sgîl y pandemig.
Er bod y gefnogaeth ar gael o bellter, dywedodd nifer eu bod yn gweld eisiau'r cyfle am ofal ysbyty neu feddygfa er mwyn gweld yr arbenigwyr yn bersonol.
Dywedodd un fenyw wrth y rhaglen ei bod hi'n amhosib egluro'r boen i rywun dros y ffôn.
Yn ôl Dr Rhian Goodfellow o Brifysgol Caerdydd, mae meddygon a nyrsys sy'n arbenigo yn y maes wedi addasu yn effeithiol i gynnal gwasanaethau i gleifion o bellter.
Mae'r gwasanaethau ar gael i bobl sy'n dioddef o hyd, er gwaetha'r cyfyngiadau, meddai.
Mae Dr Goodfellow yn annog pobl sydd yn dioddef i ofyn am gymorth.
"Mae rhaid cofio bod pawb dal yn gweithio, ry'n ni dal yma i helpu cleifion," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013