Pandemig wedi cael 'effaith negyddol' ar chwaraeon
- Cyhoeddwyd
Mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi clywed bod pandemig coronafeirws wedi "cael effaith anhygoel o negyddol" ar bob camp yng Nghymru "o lawr gwlad i'r brig".
Dywedodd Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru wrth y pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Cyfathrebu bod ei sefydliad wedi cael dros 600 o geisiadau am gyllid brys ers dechrau'r pandemig.
Mae 280 o geisiadau wedi bod yn llwyddiannus tra bod 280 wedi'u gwrthod a'r gweddill yn dal i gael eu hystyried.
Ychwanegodd Mr Davies hefyd fod Chwaraeon Cymru wedi cadw £9m o'i gyllideb i wario ar ymateb i effeithiau'r pandemig.
"Mae pob camp wedi gweld effaith anhygoel o negyddol," meddai Mr Davies.
"Yr hyn sy'n amlwg yw bod tymhoroldeb chwaraeon wedi golygu bod rhai chwaraeon wedi ei deimlo ar unwaith, maen nhw yng nghanol eu tymor neu roedd eu tymor ar fin cychwyn.
"Felly iddyn nhw mae'r effaith wedi bod ar unwaith ac yn sylweddol."
Galw am ganiatau cefnogwyr
Yn ystod yr un sesiwn bu prif weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Jonathan Ford, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu cefnogwyr i fynychu meysydd pêl-droed, ond gyda'r niferoedd wedi'u cyfyngu.
Dywedodd Mr Ford y byddai'n golygu fod clybiau yn gallu sicrhau ffynhonnell ariannol.
Fe benderfynwyd dod â thymor cynghreiriau Cymru i ben, gan gynnwys Uwch Gynghrair Cymru, ym mis Mai oherwydd y pandemig.
Hyd yn hyn nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer dechrau'r tymor newydd.
"Pe bai chi'n ystyried clwb Y Barri, sy'n enghraifft dda, maen nhw'n chwarae ym Mharc Jenner sy'n gallu dal 2,500," meddai .
"Ond maen nhw'n debygol o gael tua 500 o bobl, byddant wrth eu bodd gyda 500 o gwsmeriaid yn talu drwy'r gatiau.
"Mae 500 yn glwstwr mawr mewn lle cyfyng, ond mewn lle mwy, a gyda rheolau ymbellhau, mae modd dadlau y gellid ac y dylid ei ganiatáu."
Mewn ymateb i sylwadau Jonathan Ford fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mesurau mewn lle yng Nghymru i gyfyngu lledaeniad y feirws ac i arbed bywydau.
"Mae Gweinidogion yn adolygu'r cyfyngiadau sydd mewn lle pob 21 diwrnod - yna mae nhw'n penderfynu os oes unrhywbeth all newid.
"Bydd newidiadau on yn digwydd pan fo hi'n ddiogel gwneid hynny."
Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, wrth y pwyllgor bod effeithiau'r coronafeirws ar eu cyllideb wedi bod yn "drychinebus".
Roedd gohirio'r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a'r Alban ar y funud olaf yn mis Mawrth wedi costio £10m i'r Undeb meddai.
Ychwanegodd Mr Davies mai £90m yw trosiant blynyddol yr Undeb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020