Rheolwr Caernarfon Huw Griffiths yn osgoi cyfnod dan glo
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed Caernarfon, Huw Griffiths wedi derbyn dedfryd o garchar wedi'i gohirio ar ôl pledio'n euog i achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad mewn tafarn yn Wrecsam y llynedd.
Mae ei wraig, Siân Griffiths, hefyd wedi'i dedfrydu i garchar wedi'i ohirio ar ôl iddi bledio'n euog i achosi niwed corfforol, ymosod ar ddynes arall, ac ymosod ar heddwas.
Roedd y cyhuddiadau'n deillio o ddigwyddiad yn nhafarn y Llew Coch ym Marford ger Wrecsam, lle mae'r ddau'n byw, ar 13 Gorffennaf 2019.
Cafodd Mr Griffiths, 43, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i chwe mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn, tra bod Mrs Griffiths wedi cael dedfryd o ddwy flynedd wedi'i gohirio am flwyddyn a naw mis.
Bydd yn rhaid i Mr Griffiths gyflawni 100 awr o waith yn y gymuned, tra bod rhaid i Mrs Griffiths, sydd hefyd yn 43, gyflawni 200 awr a thalu £500 i'r dioddefwyr.
Colli ei swydd gyda Derwyddon Cefn
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod y dafarn "yn eithaf prysur ar y pryd" a bod Mrs Griffiths wedi ymddwyn mewn modd "ymosodol iawn".
Fe blediodd hi'n euog i anafu Jessica Waterhouse, ymosod gan achosi niwed corfforol i Anna Short, ac ymosod ar swyddog heddlu, Lauren Halliwell.
Clywodd y llys fod Mrs Griffiths yn dioddef o or-bryder ac iselder ar y pryd yn dilyn marwolaeth ei thad, a'i bod wedi yfed potel o win ar y noson dan sylw.
Dywedwyd fod Mr Griffiths wedi taro dyn arall gyda'i ben pan geisiodd hwnnw ymyrryd i ddod â'r ffrwgwd i ben.
Clywodd y llys hefyd bod Mr Griffiths wedi colli ei swydd fel rheolwr Derwyddon Cefn o ganlyniad i'r digwyddiad.
Cafodd ei benodi fel rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon ym mis Chwefror eleni, a dywedodd y clwb heddiw nad oedden nhw am wneud unrhyw sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020