Ffoaduriaid o Syria yn bwydo eu cymuned yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Ahmed a Latifa
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Ahmed a Latifa i Gymru o dan y Rhaglen Ailsefydlu Syria yn 2016

Mewn digwyddiad i nodi Wythnos Ffoaduriaid, mae grŵp o ffoaduriaid o Syria sydd bellach yn byw yng Ngheredigion wedi paratoi prydau bwyd ar gyfer aelodau'r gymuned lle maen nhw wedi gwneud cartrefi newydd i'w hunain.

Mae'r ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth wedi dechrau busnes o'r enw Syrian Dinner Project ac maen nhw o dro i dro yn gweini bwyd traddodiadol mewn bwytai pop-up yn y dref.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, roedd y digwyddiad diweddaraf ar gyfer prydau i'w casglu yn unig.

Fe gafodd y bwyd ei baratoi yn eu cartrefi ac roedd pobl a oedd eisoes wedi archebu'r prydau yn eu casglu ar amser penodol o Gaffi Cymunedol Cletwr yn Nhre'r Ddol.

Cyrhaeddodd y ffoaduriaid cyntaf Aberystwyth yn 2015. Roedd Ceredigion ymhlith y siroedd cyntaf yng Nghymru i groesawu ffoaduriaid o Syria.

Bum mlynedd yn ddiweddarach mae mwy na 50 o ffoaduriaid o Syria yn byw yn y sir ac maen nhw wedi ymgartrefu'n dda i'w cymunedau newydd.

'Mwy na ffoaduriaid'

Y llynedd enillodd Cyngor Ceredigion wobr am ei waith yn croesawu ffoaduriaid.

Enillodd Wobr yr Awdurdod Lleol mewn seremoni yn Llundain a gynhaliwyd gan y Gwobrau Nawdd Cymunedol.

Latifa, Rula a Khitem - ffrindiau sy'n byw yn Aberystwyth - wnaeth ddechrau'r Syrian Dinner Project.

Fe wnaethon nhw benderfynu sefydlu busnes i goginio bwyd traddodiadol o Syria fel ffordd o addysgu pobl leol am eu mamwlad a'i diwylliant ac, meddai Latifa, dangos eu bod yn fwy na ffoaduriaid ac y gallan nhw wneud cyfraniad i'w cymuned newydd.

Y llynedd enillodd y prosiect Wobr yr Entrepreneur Gorau yng Ngwobrau Cenedl Noddfa a drefnwyd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Syrian Dinner Project yn gweini bwyd traddodiadol mewn bwytai 'pop-up' yn Aberystwyth

Dywedodd Latifa: "Mae pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw'n hapus gyda'r bwyd a'i fod yn flasus iawn.

"Rwy'n mwynhau coginio i'r bobl yma - rwy'n coginio o fy nghalon."

Yn wreiddiol, fe wnaeth Latifa a'i gŵr Ahmed ffoi o Syria i'r Aifft ac yna daethon nhw i Gymru o dan y Rhaglen Ailsefydlu Syria yn 2016.

Cawson nhw eu cefnogi gan Gyngor Ceredigion a'r Groes Goch wrth iddyn nhw ymgartrefu yn eu cartref newydd yn Aberystwyth.

'Bywyd da'

Dywedodd Ahmed: "Pan ddaethon ni yma gyntaf roedd popeth yn anodd oherwydd ei fod yn fywyd gwahanol, yn system wahanol - popeth yn wahanol.

"Roedd yn anodd yn gyntaf ond nawr mae'n well - dwi'n deall popeth.

"Dwi wedi dod o hyd i waith ac mae fy mhlant yn mynd i'r ysgol. Nawr rydyn ni'n cael bywyd da."

Mae Cyngor Ceredigion wedi pasio ei darged o groesawu 50 o ffoaduriaid o Syria - mae'r cyngor wedi helpu 54 i ymgartrefu yn y sir bellach.

Yn ogystal, mae dau grŵp cymunedol - Croeso Teifi yn Aberteifi ac Aberaid - wedi helpu 20 o ffoaduriaid eraill i wneud cartrefi newydd yn y sir.

Dywedodd Latifa: "Mae Aberystwyth yn lle hyfryd gyda phobl hyfryd. Rwy'n ei hoffi gymaint.

"Does gen i ddim geiriau i gyfleu sut rwy'n teimlo ond rwyf wrth fy modd ag Aberystwyth, ac rwy'n coginio i'r bobl yma o fy nghalon."