Chwiban olaf i'r dyfarnwr pêl-droed Kevin Parry
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddyfarnwyr pêl-droed mwyaf profiadol Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp.
Mae Kevin Parry, 53 oed o Lanfairpwll yn wyneb cyfarwydd i sawl un sy'n dilyn gemau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae'r parafeddyg wedi bod yn dyfarnu ar y lefel uchaf yng Nghymru ers i'r uwch gynghrair gael ei sefydlu 'nôl yn 1991.
"Mae gen i gymaint o atgofion melys iawn. Mae hi'n anodd dod â phethau i ben, yn enwedig yn y cyfnod yma," meddai.
"Doeddwn ddim yn gwybod fy mod wedi dyfarnu fy ngêm olaf pan ddaeth y tymor i ben oherwydd Covid-19."
'Clod gan Orig yn hwb mawr'
Yn wreiddiol o Drefriw yn Sir Conwy, fe ddechreuodd ddyfarnu gemau yng nghynghrair Dyffryn 'nôl yn 1986.
"Dwi'n cofio fy ngêm gyntaf fel dyfarnwr rhwng Llanrwst a Llansannan," meddai.
"Ar ddiwedd y gêm, roeddwn yn sefyll yn y canol, a dyma 'na uffar o foi mawr yn dod tuag ata i.
"Doeddwn ddim yn siŵr be i neud, os taw aros yno neu redeg i ffwrdd.
"A phwy oedd y dyn ma' ond Orig Williams, oedd ar y pryd yn Gadeirydd Llansannan.
"Roedd o eisiau canmol fy mherfformiad yn hytrach na fy nwrdio ac roedd hynny'n hwb mawr."
Yn nhymor 92/93 cafodd ddechrau dyfarnu yn Uwch Gynghrair Cymru wrth iddi newid strwythur, a hyd heddiw mae'n dal y record am y dyfarnwr sydd wedi bod yno am y cyfnod hiraf.
"Mae'r gynghrair wedi newid llawer ers y dyddiau cynnar," meddai Parry
"Mae pethau'n llawer mwy proffesiynol erbyn hyn, gyda safonau gweinyddol y gynghrair wedi gwella.
"Mae'r holl strwythur wedi elwa, o'r chwaraewyr, i'r clybiau, i'r dyfarnwyr."
Gwneud lle i waed newydd
Yn ôl Parry, y rheswm dros ymddeol ydy ei fod o'n 53 oed ac eisiau gwneud lle i waed newydd a phobl ifanc i ddod i'r gêm.
Wrth gofio gemau cofiadwy, mae'n nodi cael dyfarnu rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng y Seintiau Newydd a'r Derwyddon Cefn yn 2012.
"Dyma binacl gyrfa unrhyw ddyfarnwr o Gymru ac roedd cael gwneud y gêm yma'n brofiad arbennig i mi," meddai.
Un gêm arall sy'n dod i'w gof yw gêm yn Bordeaux, Ffrainc ar ddechrau'r 1990au.
"Roedd cael teithio dramor i wneud gemau yn wych a dwi'n cofio rhedeg y lein yn Bordeaux yn gynnar yn y 90au a phwy sgoriodd y gôl fuddugol yn y gêm yna oedd chwaraewr ifanc doedd prin neb ar y pryd yn ymwybodol ohono," meddai Parry.
"Zinedine Zidane, prin oedden ni'n gwybod bryd hynny y base fo'n troi allan yn un o chwaraewyr gorau yn hanes pêl droed."
'Ymateb anhygoel'
Wrth edrych yn ôl dros ei yrfa mae'n hynod ddiolchgar o'r gefnogaeth a'r cyfeillgarwch mae wedi ei gael drwy fod yn ddyfarnwr.
"Ers i mi gyhoeddi fy mod yn rhoi'r gorau iddi mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel," meddai.
"Dwi wedi cael sawl neges gan reolwyr a chwaraewyr o Uwch Gynghrair Cymru a gan rai sydd bellach wedi ymddeol o'r gêm.
"Mae hynny'n dangos i mi fod 'na gysylltiad clòs a bod gan reolwyr a chwaraewyr barch tuag at ddyfarnwyr a'u bod nhw'n werthfawrogol o'r gwaith."
'Rhannu fy mhrofiadau'
Ond mi fydd yn parhau i fod yn ymwneud â dyfarnu drwy asesu perfformiadau dyfarnwyr ar y lefel uchaf yn wythnosol.
"Dwi'n edrych ymlaen at asesu ond yn fwy na dim i rannu fy mhrofiadau a rhoi cyngor i rai ifanc sydd â'u bryd i ddyfarnu ar y lefel uchaf yng Nghymru," meddai.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn i aros ar y lefel yna am flynyddoedd a dyna rŵan ydy fy nod, i weld dyfarnwyr ifanc yn cael yr un cyfleodd a ges i drwy fy ngyrfa.
Dywedodd rheolwr dyfarnwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Phil Thomas: "Mae'r gwasanaeth mae Kevin Parry wedi ei roi i bêl-droed yng Nghymru yn gwbl anhygoel.
"Mi fydd hi'n anodd iawn i unrhyw un efelychu ei gamp o ddyfarnu ar y lefel uchaf am bron i 30 mlynedd.
"Mae'n ysbrydoliaeth i unrhyw ddyfarnwr ifanc sy'n dringo'r ysgol.
"Rwy'n falch iawn ei fod am barhau i ymwneud â dyfarnu fel asesydd ble fydd modd iddo rannu ei wybodaeth a'i brofiadau gydag eraill ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017