Brawd a chwaer yn 'dringo Everest' heb adael y tŷ

  • Cyhoeddwyd
Morgan a Ffion Pickstock ar y grisiau yn eu cartrefFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Morgan a Ffion Pickstock ar ôl cwblhau eu camp

Mae brawd a chwaer o Sir y Fflint wedi codi cannoedd o bunnoedd wrth ddringo Everest... yn eu cartref.

Fe ddringodd Morgan a Ffion Pickstock 89,000 o risiau yn eu cartref yn Nhreffynnon - sy'n cyfateb i 8,848m neu 29,029 troedfedd, sef uchder Everest - i godi arian i'w hysgolion yng nghanol y pandemig.

Llwyddodd y ddau i gyflawni'r gamp mewn llai na 24 awr, gan godi bron i £800 i Ysgol Maes Garmon Yr Wyddgrug ac Ysgol Cae'r Nant yng Nghei Connah.

Dagrau ac anafiadau

Er bod y sialens wedi bod yn un heriol iddynt, dywedodd eu Mam, Caroline Pickstock, ei bod hi'n falch iawn ohonyn nhw.

"Mi oedd o'n sialens anodd iawn iddyn nhw, mae gan y ddau ohonyn nhw lawer o egni fel arfer, ond roedd y sialens yma yn eithriadol o anodd," meddai.

"Mae Morgan yn 11 oed a Ffion yn naw oed ac rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw am benderfynu codi arian i'w hysgolion.

"Roedd 'na ddagrau ac anafiadau ar y ffordd, ac roedd 'na adegau lle nad oedden nhw'n gwybod os oedden nhw am gwblhau'r sialens mewn 24 awr - ond roedd y negeseuon o gefnogaeth a cherddoriaeth wedi caniatáu iddynt i lwyddo."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwobr haeddiannol i'r ddau ar ôl gorffen

Dywedodd Bronwen Hughes, Pennaeth Ysgol Maes Garmon bod ymdrechion y ddau wedi bod yn anhygoel.

"Mae dringo Everest yn dipyn o gamp wrth ddringo i fyny ac i lawr grisiau'r tŷ, maen nhw wedi gweithio mor galed ac maen nhw wedi dangos beth sy'n bosib i'w wneud," meddai.

"Rydyn ni mor browd ohonyn nhw, a dwi eisiau diolch i'w rhieni am eu cefnogi nhw, ond mae'r diolch yn bennaf i Morgan a Ffion am fod mor feddylgar ac am fod yn barod i ddyfalbarhau ac i godi arian at achos sydd yn agos iawn at eu calonnau."