Llyfrgell Gen yn annhebygol o agor yn llwyr tan 2021

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llyfrgell wedi colli 95% o'i hincwm masnachol

Dyw hi ddim yn debygol y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gallu ailagor yn llwyr tan y gwanwyn flwyddyn nesaf, meddai Prif Weithredwr y sefydliad.

Dywedodd Pedr ap Llwyd wrth bwyllgor diwylliant y Senedd bod y llyfrgell wedi colli 95% o'i hincwm masnachol o achos y coronafeirws.

"Rydyn ni wedi bod yng nghau am fisoedd lawer a phan fyddwn ni yn ailagor dyw hi ddim yn ymddangos y gallwn ni agor yn llwyr tan tua'r gwanwyn o achos strwythur yr adeilad - mae'r siop yn fach, mae'r bwyty yn gul."

Ychwanegodd bod y llyfrgell mewn sefyllfa ariannol ansicr hyd yn oed cyn i'r pandemig ddechrau.

"Doedd neb ohonom ni yn barod ar gyfer Covid-19. Doedden ni ddim yn barod fel sefydliadau diwylliannol," meddai.

Cyd-fynd gyda'i sylwadau wnaeth David Anderson, Prif Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Anderson na fyddai'n debygol y byddai modd agor yr amgueddfeydd yn llawn am fisoedd

"Mae gyda ni ddiffyg strwythurol hefyd ac mae hyn wedi dod yn annisgwyl iawn wrth gwrs. Rydyn ni yn darogan y byddwn ni yn gwneud colled o tua £1.8m o incwm masnachol y flwyddyn ariannol yma."

Roedd y ddau oedd yn rhoi tystiolaeth o flaen y pwyllgor yn croesawu'r gefnogaeth roedden nhw wedi derbyn gan Weinidogion Cymru yn ystod y cyfnod yma a'r arian ychwanegol i'r maes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dim ailagor buan

Dywedodd Mr Anderson bod hi'n anodd darogan faint o weithwyr fyddai yn dod yn ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol erbyn diwedd y cynllun seibiant o'r gwaith ym mis Hydref.

"Rydyn ni yn gwybod na fyddwn ni yn gallu ailagor ein safleoedd yn llawn, mae'n siŵr hyd yn oed yn yr hydref chwaith.

"Mae yna gwestiwn ynglŷn â faint o staff ddylai fod ar y safle, a pha mor saff fyddai iddyn nhw fod ar y safle hefyd."

Dywedodd Mr Llwyd bod chwarter staff y Llyfrgell Genedlaethol ar y cynllun seibiant o'r gwaith ond eu bod yn cael cyflog llawn, gyda Llywodraeth y DU yn rhoi 80% o'r arian a'r llyfrgell yn rhoi'r gweddill.

"Fe fydd yna yn bendant swyddi i weithwyr sydd ar y cynllun ffyrlo pan ddaw hwnnw i ben," meddai, "pan fydd hi'n bosib iddynt ddod yn ôl i'r gwaith."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth cwnsela mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi ei gynnig wedi cael ei ddefnyddio gan y staff, meddai Pedr ap Llwyd

Ychwanegodd bod y sefydliad wedi bod yn cynnig gwasanaeth cwnsela annibynnol i'r gweithwyr yn ystod y pandemig a bod y staff yn ei weld yn "fuddiol iawn".

Mae dros hanner y mudiadau sydd yn gwneud cais am nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn defnyddio'r cynllun ffyrlo, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y gronfa.

Dywedodd bod yna bosibilrwydd y bydd swyddi yn cael eu colli yn y sector treftadaeth o achos y rhwystrau sydd yn bodoli i agor yn llawn ac i wneud elw.