Llacio'r cyfyngiadau: Beth sy'n ailagor yng Nghymru a phryd?

  • Cyhoeddwyd
peint plisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yw'r rhan olaf o'r DU i roi dyddiad ar gyfer pryd fydd caniatâd i dafarndai a bwytai allu gweini dan do

Bydd atyniadau twristaidd dan do, sinemâu, safleoedd gwersylla a pharciau chwarae yn ailagor yn yr wythnosau nesaf.

Mae prif weinidog Cymru wedi cyhoeddi nifer o newidiadau fel rhan o'r adolygiad tair wythnosol o'r cyfyngiadau coronafeirws.

Am y tro cyntaf, daeth cyhoeddiad y bydd tafarndai, caffis a bwytai yn cael agor tu fewn ar 3 Awst, cyn belled â'u bod wedi llwyddo i agor yn "saff ac yn llwyddiannus" yn yr awyr agored.

Fe gadarnhaodd Mark Drakeford y newidiadau yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru amser cinio ddydd Gwener.

Pwysleisiodd y byddai'r newidiadau'n dod i rym ar yr amod bod nifer yr achosion positif o coronafeirws yn parhau i ostwng.

Dyma'r newidiadau a'r dyddiadau gafodd eu cadarnhau:

Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf

Dydd Llun, 13 Gorffennaf

  • Siopau trin gwallt i gael agor unwaith eto gydag apwyntiadau

  • Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor yn yr awyr agored yn unig

  • Atyniadau twristaidd dan do yn cael agor eto

  • Addoldai yn cael dechrau cynnig gwasanaethau yn raddol pan maent yn barod

  • Chwaraeon awyr agored, yn cynnwys hyd at 30 o bobl, yn cael dechrau eto

Dydd Llun, 20 Gorffennaf

  • Parciau chwarae, campfeydd awyr agored a chanolfannau cymunedol yn cael agor eu giatiau a'u drysau

Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf

  • Safleoedd gwersylla a llety gyda chyfleusterau sy'n cael eu rhannu yn cael croesawu ymwelwyr eto

Dydd Llun, 27 Gorffennaf

  • Y farchnad dai yn agor yn llawn eto - bydd gan bobl yr hawl i ymweld â thai sydd ar werth

  • Sinemâu, orielau ac amgueddfeydd hefyd yn ailagor

  • Siopau tatŵs a busnesau eraill o fewn y diwydiant harddwch yn cael ailagor "os bydd amodau yn caniatáu hynny"

Dywedodd Mr Drakeford bod trafodaethau'n parhau ynghylch ailagor y sector lletygarwch dan do.

Bydd opsiynau yn cael eu hystyried ar gyfer ailagor o 3 Awst ymlaen, os yw'r amgylchiadau'n caniatáu hynny.

Dywedodd bod trafodaethau'n parhau ynghylch campfeydd dan do, canolfannau hamdden a phyllau nofio.

Bydd y gyfraith sy'n gorfodi'r rheolau pellter cymdeithasol 2m yn cael ei newid i ganiatáu ar gyfer y ffaith na fydd rhai diwydiannau fel trin gwallt yn gallu cydymffurfio, meddai Mr Drakeford.

Mae disgwyl i fesurau eraill, gan gynnwys gwisgo masgiau, gael eu defnyddio yn lle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Drakeford: "Gyda'n gilydd rydyn ni'n gwneud cynnydd da wrth atal y feirws rhag lledaenu.

"Mae oherwydd yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud gyda'n gilydd ein bod yn gallu codi'r cyfyngiadau ac ailagor rhagor o'n cymdeithas a'n heconomi."

Ond ychwanegodd bod "bygythiad coronafeirws ddim wedi mynd", a bod angen i bawb "ymddwyn mewn modd cyfrifol" drwy "barhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus am lle rydyn ni'n mynd a pham".

Dywedodd hefyd y byddai'n gwneud cyhoeddiad ddydd Llun ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Beth yw'r ymateb?

Mae undebau wedi galw am ddyddiad ar gyfer ailagor y sector lletygarwch - tra bod tafarndai wedi galw am lacio'r rheolau yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi galw am lacio y rheol dau fetr, a galw am gynllun i ailagor safleoedd gwersylla, tafarndai, caffis a thai bwyta.

Dywed y blaid fod Llywodraeth Cymru wedi dilyn chwech allan o'u 10 argymhelliad ond bod "oedi diangen" wedi bod cyn gwneud y cyhoeddiad ddydd Gwener.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod angen "strategaeth gliriach i ddefnyddio'r capasiti profi sydd ar gael" i gyd-fynd â'r llacio rheolau.

"Heb y gallu i fynd i'r afael ag achosion pellach, mae'r system rhybudd cynnar yn cael ei thanseilio, ac mae'n peryglu dychwelyd at fesurau'r cyfnod clo."

Mae undeb TUC Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad am lacio'r cyfyngiadau ar fusnesau dros y tair wythnos nesaf.