£250,000 o grantiau yn cael ei rannu gan Mudiad Meithrin
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin yn credu bydd mwyafrif y cylchoedd meithrin wedi ailagor erbyn diwedd mis Medi, os y byddan nhw'n cael yr un grantiau roedden nhw'n eu derbyn cyn y pandemig.
Mae cylchoedd meithrin wedi cael caniatad i ailagor ers Mehefin 22, ac mae'r mudiad yn dweud bod niferoedd plant yn cynyddu bob wythnos.
Ond, mae nifer o rwystrau wedi bod, fel bod y gweithwyr wedi gorfod edrych ar ôl eu plant eu hunain am nad yw'r ysgolion wedi ail agor yn llawn.
Problem arall yw bod tua 5% yn cael trafferth cael mynediad i'r adeilad am eu bod yn rhannu'r safle gyda'r ysgol.
Ond mae'r brif weithredwraig, Dr Gwenllian Lansdown Davies yn hyderus y bydd y problemau hynny wedi'u datrys erbyn mis Medi.
Mwyafrif yn ailagor
"Lle dwi'n rhagweld y byddai yna broblem ydy os yw staff yn gorfod gwarchod eu hunain oherwydd cyflwr aelod o'r teulu neu gyflwr eu hunain.
"Tu hwnt i hynny bydden ni yn rhagdybio y bydd y mwyafrif wedi gallu ailagor a dyna fydden ni yn ei annog ac yn ei argymell fel mudiad."
Mae'r mudiad meithrin yn hyderus y bydd nawdd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei glustnodi eto.
"Byswn i yn darogan erbyn diwedd mis Medi," medd Dr Lansdown Davies, "gan gymryd y bydd y grantiau arferol fel y Grant Cynnig Gofal Plant, Grant Cynllun Dechrau yn Deg, Addysg Gynnar ac yn y blaen wedi ail gychwyn yn llawn ac yn normal, y bydd mwyafrif y cylchoedd meithrin wedi ailagor."
Pryder arall y mudiad yw effaith posib y cyfnod clo ar iaith plant bach.
Yn ôl y Prif Weithredwr, mae mwyafrif y plant sydd yn mynychu'r cylchoedd yn siarad Saesneg fel mamiaith.
Dros y misoedd diwethaf, cynnig gwasanaethau ar y we mae'r mudiad wedi'i wneud i geisio helpu teuluoedd di-Gymraeg.
"Mae rhywun yn bryderus," medd Dr Lansdown Davies. "Ond ar y llaw arall ry'n ni'n gobeithio ein bod wedi gallu lliniaru rhywfaint ar y sefyllfa, drwy fod yn cynnig y math yna o wasanaeth.
"Ond 'dan ni'n derbyn ar yr un pryd bod hi yn anodd iawn i unrhyw beth ar-lein fod wir yn cymryd lle neu wneud yn iawn am y diffyg cyswllt rhwng person a pherson, ag oedolyn a phlentyn o ran trochi a defnyddio'r Gymraeg ar lawr y cylch."
Mae canllawiau hefyd wedi eu cyhoeddi gan y llywodraeth ar gyfer ailagor addoldai a neuaddau cymunedol, lleoliadau eraill lle mae cylchoedd meithrin yn cael eu cynnal sydd yn "gwneud pethau llawer yn haws".
Er bod llai o blant nag arfer wedi bod yn mynychu'r cylchoedd sydd wedi ail-agor dros yr wythnosau diwethaf, mae'r mudiad yn dweud bod y niferoedd yn cynyddu yn wythnosol.
Ond mae Dr Gwenllian Lansdowne Davies yn cydnabod ei bod hi'n anodd rhagweld sut fydd rhieni yn ymateb ac a fyddan nhw'n teimlo'n ddigon hyderus i anfon eu plant i'r cylchoedd meithrin yn sgil y pandemig.
"Mae 'na rhai wedi awgrymu neu hawlio y bydd yna lai o alw am ofal plant mewn unrhyw gyfrwng, tra bod yna eraill yn hawlio ac yn dadlau y bydd yna fwy o alw am ofal plant, oherwydd bod rhieni wir wedi gweld pa mor anodd yw hi i fod yn darparu gofal neu addysg i'ch plant eich hunain.
Mae'r mudiad yn credu bod y twf diweddar yn nifer yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo hefyd yn ffactor allai gael dylanwad ar y niferoedd.
"'Da ni hefyd yn gwybod bod y galw am ddarpariaeth dysgu Cymraeg wedi mynd trwy'r to i oedolion. Felly mae'n anodd gwybod beth fydd teimladau rheini wrth i ni symud ymlaen."
Er hynny mae'n credu erbyn cyfnod y Nadolig y bydd y niferoedd yn ôl i'r lefelau y bydden nhw yn eu disgwyl ar gyfer yr adeg hynny o'r flwyddyn.
'Risg sylweddol' o oroesi wedi cilio
Ym mis Ebrill fe rybuddiodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, oedd yn siarad ar ran y Mudiad Meithrin a chyrff eraill yn y sector, fod yna "risg sylweddol" na fyddai rhai meithrinfeydd yn goroesi.
Y rheswm meddai oedd nad oedden nhw yn gymwys ar gyfer rhai cynlluniau cefnogi busnesau.
Erbyn hyn mae'n glir bod modd i feithrinfeydd rhoi eu gweithwyr ar y cynllun saib o'r gwaith, neu ffyrlo.
Ond i wneud hynny roedd yn rhaid peidio derbyn unrhyw grantiau eraill meddai.
Mae'n parhau i ddadlau bod yna angen am grantiau bach i ofalwyr plant gan ddweud nad yw'r mwyafrif yn y maes wedi gallu manteisio ar unrhyw arian busnes.
"Mae'r costau ynghlwm ag ailagor yn mynd i fod yn uchel oherwydd bod yna ofynion glanhau mwy dwys, efallai yr angen i brynu canopi i annog y plant i fod yn treulio mwy o amser tu allan ac yn y blaen.
"Felly dydy'r drafodaeth yna ymhell o fod wedi dod i ben ac mae'r trafod yn parhau efo'r llywodraeth."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd fod ystod eang o gefnogaeth y gallai darparwyr gofal plant fod yn gymwys ar ei gyfer.
Un cam ymarferol mae'r Mudiad Meithrin yn ei wneud ydy rhoi grantiau eu hunain i'r cylchoedd gydag o leiaf £250,000 yn gallu cael ei gynnig eleni o achos y feirws. Mae £90,000 yn barod wedi ei rannu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020