Cylchgronau Cymraeg am ddim i blant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn darllen cylchgrawn CIP arlein
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhifyn Cip Haf 2020 ar gael i'w lawrlwytho am ddim

Bydd cylchgronau yr Urdd yn cael eu rhannu am ddim i blant am y flwyddyn ysgol nesaf, ar ôl i'r mudiad sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru.

Doedd dim modd dosbarthu'r rhifynnau oedd fod cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo, yn hytrach cawson nhw eu cyhoeddi ar y we.

Mae'r mudiad yn cynhyrchu tri gwahanol gylchgrawn - Cip, Bore Da a IAW - ac o fis Medi ymlaen fe fyddan nhw ar gael i bob plentyn ysgol i'w lawrlwytho adref yn ogystal ac yn y dosbarth.

Wedi cyfres o fideos poblogaidd 'Criw Celf' Huw Aaron yn ystod y cyfnod clo, bydd ei gylchgrawn, Mellten, nawr yn dod yn rhan o 'Cip' sy'n targedu plant o'r un oedran.

Dywedodd Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu'r Urdd: "Rydyn ni yn ofnadwy o falch y byddwn ni yn gallu cynnig ein cylchgronau am ddim i blant ac ysgolion Cymru flwyddyn nesaf a bod y Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'r cynllun newydd.

"Mae hyn yn golygu bod gennym y potensial i gyrraedd pob un plentyn yng Nghymru gyda chylchgrawn Cymraeg apelgar a lliwgar, am ddim."

Ffynhonnell y llun, Huw Aaron
Disgrifiad o’r llun,

Y dylunydd Huw Aaron sy'n gyfrifol am y cylchgrawn Mellten, a fydd nawr yn cael ei gynnwys yn Cip

Mae Mellten wedi bod yn gylchgrawn annibynnol ers 4 blynedd, ond yn ôl y cartwnydd Huw Aaron, mae cyd-weithio a'r Urdd yn gwneud synnwyr, "O safbwynt rhywun sy'n creu cynnwys i blant dros y 4 blynedd dwetha, a trio creu cynnwys o safon uchel a rhoi parch i blant gyda cynnwys Cymraeg gwreiddiol, sy'n ddoniol hwyl a cyffrous yng nghomig Mellten - mae'n neud sens i gydweithio a'r Urdd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗

"Yn amlwg 's'dim corff sy'n cysylltu mwy a phlant na'r Urdd a felly mae'n syniad i ni ddod at ein gilydd a dod a'r gorau o Mellten a Cip a neud cylchgrawn sy'n well fyth na'r rhai blaenorol ac yn gallu mynd mas i bawb."

"Mae'n ffantastig ein bod ni'n gallu arbrofi gyda mynd mas i bawb am ddim yn ddigidol. Rwy'n ei weld e fel cam hynod gyffrous a dwy ffili aros i ddechrau."

Er mwyn cymryd mantais o'r cynnig yma, mae'r Urdd yn dweud y bydd angen i bobl danysgrifio er mwyn derbyn y rhifynnau diweddaraf, "'Dan ni isho rhannu fo drwy ebyst," medd Mari Williams, "Felly 'dan ni'n gofyn i bobl fynd i wefan urdd.cymru a tanysgrifio."

Mae'r Cyngor Llyfrau yn helpu ariannu'r cylchgronau ac yn ôl Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau Cyhoeddi'r cyngor bydd y cylchgronau yn adnodd hynod werthfawr i blant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hapus iawn i gadarnhau byddwn yn parhau i gefnogi cyhoeddi'r cylchgronau yn ddigidol yn ystod 2020-21.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyhoeddi cartŵn a gweithgareddau Seren a Sbarc yng nghylchgronau'r Urdd er mwyn helpu plant Cymru i gyrraedd targedau'r Siarter Iaith."