System newydd o ffonio cyn mynd i adran frys Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Non Smith gallai'r newid i'r drefn ar gyfer yr adran frys aros yn y dyfodol

Bydd disgwyl i bobl ffonio o flaen llaw cyn mynd i adran achosion brys mwyaf Cymru o dan system allai ddechrau erbyn diwedd y mis.

Mae'n golygu y bydd unigolion â salwch neu anaf sydd ddim yn peryglu bywyd yn cael eu hasesu dros y ffôn ac, os oes angen, yn cael cyfnod amser penodol i ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn ôl prif feddyg yr adran, Dr Katja Empson - byddai dychwelyd i ffordd "normal" o weithio, sy'n aml yn gweld yr adran yn orlawn, yn creu risg "annerbyniol" i gleifion oherwydd Covid-19.

Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar bobl ag anafiadau neu salwch difrifol fel trawiadau ar y galon neu strôc - gan na fydd unrhyw newid i'r ffordd y maen nhw'n ymdrin â galwadau 999.

Pan ddechreuodd achosion o Covid-19 ddod i'r amlwg yng Nghymru - roedd yn rhaid i adran achosion brys yr ysbyty ehangu i adrannau cyfagos.

Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod yn rhaid ei rannu'n ddwy ran - un ar gyfer gofalu am gleifion oedd o bosib â Covid-19 - gyda staff yn gweithio mewn cyfarpar diogelwch llawn.

Roedd y rhan arall ar gyfer cleifion oedd yn cael eu hystyried o fod â risg isel o fod â'r salwch.

Pryder am gadw pellter

Yn ystod yr argyfwng Covid-19 gostyngodd nifer y bobl oedd yn ymweld â'r adran achosion brys yn sylweddol - yn enwedig y rhai â salwch neu anafiadau llai difrifol.

Ond mae'r niferoedd bellach wedi dychwelyd i lefel fwy arferol - gan ysgogi pryderon bod ystafelloedd aros yn yr ardaloedd ar gyfer cleifion sydd ddim yn debyg o fod â Covid-19 yn dod yn rhy llawn, gyda chleifion yn methu â chadw pellter cymdeithasol.

Cyn y pandemig gallai cymaint â 120 o gleifion fod yn yr adran yn ystod oriau brig, gyda phobl yn gorfod sefyll mewn ystafelloedd aros, ar nosweithiau Sadwrn, er enghraifft.

Er bod staff eisoes yn sgrinio cleifion wrth iddyn nhw gyrraedd, mae meddygon yn dweud bod risg o hyd y gallai claf heb symptomau heintio eraill pe bai'r adran yn mynd yn rhy llawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Katja Empson: Dychwelyd i ffordd normal o weithio'n creu risg annerbyniol i gleifion

"Flwyddyn yn ôl, cyn Covid, ar nos Sadwrn, byddai ein huned frys yn orlawn gyda chleifion â llawer o wahanol broblemau," meddai Dr Empson.

"Yn aml byddai nifer fawr o gleifion yn ein mannau aros. Dy'n ni'n cydnabod nad yw hynny'n fodel da o ofal ar gyfer gwasanaeth brys ar yr adegau gorau.

"Ond yn benodol nawr, gyda Covid yn endemig yn ein poblogaeth a'r risg bod Covid gan un o'r bobl hynny yn yr ardal aros ac nad yw'n ymwybodol ohono - mae'r risg o drosglwyddo'r haint, o bosib i gleifion bregus eraill yn y grŵp hwnnw - yn annerbyniol."

Yn y cyfamser mae rhannau Covid-19 o'r adran achosion brys bellach yn llawer llai prysur - gan fod nifer yr achosion wedi gostwng.

Ond mae angen rhannu'r adran o hyd - oherwydd bod y feirws yn dal o gwmpas ac oherwydd ofnau "ail frig" o achosion yn ddiweddarach eleni.

"Mae'n mynd yn dawelach yn yr ardal non-Covid ond rydyn ni'n disgwyl brig ar ryw adeg," meddai Non Smith, nyrs damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty.

"Rhaid i ni eu cynnal nhw ar yr un pryd - cynnal yr un safonau diogelwch i gleifion."

Sut fyddai'r system yn gweithio?

Mae'r manylion yn dal i gael eu trafod gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - ond mae disgwyl i'r system newydd gael ei gyflwyno erbyn diwedd y mis.

Mae meddygon a nyrsys wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu'r system.

Bydd disgwyl i gleifion â salwch neu anafiadau llai difrifol ffonio ymlaen llaw, yn fwy na thebyg ar y rhif sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu â'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau lleol.

Bydd ar gael 24 awr y dydd.

Yna byddan nhw'n cael eu hasesu gan feddyg neu nyrs.

Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, bydd cleifion naill ai'n cael amser i fynychu'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu'n cael eu cyfeirio at wasanaethau eraill.

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn edrych ar fodelau gwahanol o bob cwr o'r byd, yn ôl Dr Empson.

Cafodd system o ffonio gyntaf cyn mynd i adran achosion brys ei chyflwyno yn Nenmarc sawl blwyddyn yn ôl.

"Rydyn ni'n ystyried sicrhau bod nifer o apwyntiadau ar gael trwy gydol cyfnod o 24 awr, lle gall pobl ddod ar adeg pan maen nhw'n disgwyl cael eu gweld," meddai Dr Empson.

"Yn y ffordd honno, gallan nhw ynysu gartref yn ddiogel ac aros yng nghysur eu cartref eu hunain ac ymweld â'r uned frys pan ry'n ni'n gwybod fod y gallu gyda ni i'w derbyn."

Bydd pobl sy'n ymweld â'r adran heb ffonio yn cael gwybod bod angen iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn.

Yn y cyfamser dywedodd Dr Empson fod gwaith yn mynd rhagddo i leihau'r risgiau i bobl a allai fod yn profi digartrefedd, sydd â phroblemau yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol neu'r rhai sydd yn methu siarad Saesneg a allai gael anhawster i ddefnyddio'r system newydd.

"Rydyn ni'n ymwybodol bod yr uned frys wastad wedi bod yn lle i rai grwpiau bregus gael mynediad at ofal iechyd," meddai.

"Mae hyn i gyd yn ymwneud â bod yn ddiogel a sicrhau bod meddygaeth frys a gofal brys yn ddiogel ac nid yn ymwneud â chreu rhwystrau i'r bobl fwy agored i niwed hynny.

"Rydyn ni'n ceisio adeiladu'r system honno i sicrhau ei bod hi'n gallu ymateb i anghenion y bobl hynny.

"Yr hyn 'dy'n ni'n feddwl mewn gwirionedd yw, trwy ddefnyddio'r system hon, byddwn yn gallu canolbwyntio ein sylw ar y grwpiau bregus hynny pan fyddan nhw yn bresennol."

Ateb tymor hir?

Pe bai'n llwyddiannus, fe allai'r system ddod yn ateb tymor hir i leihau pwysau ar feddyginiaeth frys, meddai Dr Empson.

"Dyw adrannau achosion brys gorlawn, ry'n ni'n gwybod ers amser maith, ddim yn amgylchedd diogel i ddarparu gofal i bobl.

"Roedd pobl yn ymddwyn yn wahanol yn ystod Covid, roedden nhw'n deall y risg ac yn deall efallai bod yr uned frys yno ar gyfer grŵp sâl o bobl. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi hyder inni gario'r model hwnnw o weithio ymlaen."

Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi bod yn annog y GIG i ail-ddylunio adrannau damweiniau ac achosion brys yn sgil argyfwng Covid-19.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru fod byrddau iechyd ledled y wlad yn ystyried dulliau newydd o ddarparu gofal brys a allai gynnwys system ffôn yn gyntaf ar gyfer damweiniau ac achosion brys er mwyn osgoi rhesi o bobl yn aros a goresgyn materion pellhau cymdeithasol.

Ond mynnodd y byddai gwasanaethau brys bob amser ar gael i bobl sydd angen gofal a thriniaeth achub bywyd.