Y celfyddydau yn cydnabod fod lle i wella cydraddoldeb

  • Cyhoeddwyd
theatr

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi cyfaddef ei fod "wedi methu cyrraedd y nod" wrth gyfeirio at gydraddoldeb o fewn y sector.

Daw ar ôl i dasglu gafodd ei sefydlu gan artistiaid unigol ynghyd â sefydliadau ddweud y bydd sector y celfyddydau yng Nghymru "yn anorfod yn colli pobl" pe na bai diffyg amrywiaeth yn cael ei ddatrys.

Mae 28 o sefydliadau, gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales yn rhan o Dasglu Cymru, Diwylliant a Hil.

Dywed y tasglu y dylai'r celfyddydau "adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw ynddi".

Yn ôl data CCC ar gyfer 2019/20, dim ond 17 o bobl BAME allan o 349 oedd yn aelodau ar fyrddau rheoli sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan y cyngor.

Dyw'r holl ddata ar gyfer y 67 o sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r cyngor ddim ar gael ar gyfer 2019/20.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abdul Shayek yn poeni y bydd pobl talentog yn gadael Cymru

Dywedodd Abdul Shayek, prif weithredwr theatr Fio ac un o aelodau'r tasglu: "Fe fydd pobl dalentog yn gadael Cymru achos nad yw'r cyfleoedd ar gael iddynt, os nad yw sefydliadau yn fodlon newid, ac nad yw cyfleoedd ar gyfer bod yn arweinydd yn cael eu cynnig."

Yn ôl Rahil Sayed, perchennog Silveredge Films ac sy'n gyfrifol am drefnu Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caerdydd, mae'r sector yng Nghymru "yn parhau yn brin o ran cefndiroedd gwahanol, a chymunedau gwahanol".

Ychwanegodd fod cael arian ar gyfer prosiectau o'r fath yn gallu bod yn anodd.

Ffynhonnell y llun, Gianmarco Bresadola
Disgrifiad o’r llun,

Nicole May: "...pam nad yw hyn wedi newid?"

Un arall sy'n dweud fod y celfyddydau yng Nghymru yn rhy araf wrth geisio sicrhau mwy o amrywiaeth o ran cefndiroedd pobl yw Nicole May, cynhyrchydd theatr a chydweithwyr celfyddydol gyda CCC.

"Fe wnes i ddod i Gymru pan oeddwn yn 18 a 10 mlynedd wedyn rwyf dal mewn sefyllfa debyg, lle dwi'n meddwl wrthyf fy hun 'pam nad yw hyn wedi newid?'" meddai.

Mae'r tasglu nawr yn penodi 12 o artistiaid llawrydd i helpu llunio cynllun ar gyfer sefydliadau, cyrff cyllido a'r llywodraeth gydag awgrymiadau ynglŷn â sut i wella amrywiaeth.

'Sicrhau newid'

Dywed Cyngor Celfyddydau Cymru, y corff sy'n gyfrifol am ddarparu cyllid i unigolion a sefydliadau, ei fod wedi sefydlu rôl newydd i uwch swyddog gyda mandad i "sicrhau newid" o fewn y sefydliad.

Dywedodd y bydd hefyd yn dal sefydliadau i gyfrif pan ddaw hi'n bryd ar gyfer adolygu trefniadau ariannol.

"Rydym yn ymwybodol ers sbel bod gyda ni beth ffordd i fynd ein hunain o ran cydraddoldeb," meddai cadeirydd CCC, Phil George.

"Rydym yn cydnabod anghydraddoldebau strwythurol o fewn ein sefydliad ein hunain ac o fewn sector y celfyddydau. Dyna pam rydym yn mynd ati i wneud rhywbeth yn ei gylch nawr mewn ffordd fwy brys.

"Rydym eisiau dysgu [o'r bobl sydd wedi profi anfantais} ble mae'r rhwystrau yn eu bywyd gwaith, a'r rhwystrau wrth ddelio gyda ni."

Ychwanegodd fod CCC yn rhoi neges hefyd i'r 67 sefydliad y maen nhw'n eu hariannu, fod angen "llawer iawn yn fwy o amrywiaeth" o fewn y gweithlu, ar fyrddau rheoli ac yn nhermau eu gweithgarwch.