Sŵ Borth yn cael mwy o amser i dalu bil treth o £75,000
- Cyhoeddwyd
Mae sŵ sy'n wynebu bil treth gwerth £75,000 wedi cael mwy o amser i'w dalu.
Mae Borth Wild Animal Kingdom yng Ngheredigion yn ymchwilio i weld a oes ganddyn nhw hawl i £85,000 gan Gyllid a Thollau EM, a fyddai'n talu am eu dyled.
Fe hawliodd y sŵ y penawdau yn 2017 pan fu farw dwy lyncs o dan eu gofal, ac am dorri amodau trwyddedu cynghorau.
Yn gynharach eleni, fe gaeodd y sŵ yn dilyn beirniadaeth o'u trefniadau diogelwch wrth ymwneud â'u hanifeiliaid mwyaf peryglus.
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau EM ddeiseb i'r cwmni gael ei ddirwyn i ben dros yr ôl-ddyledion ac ers hynny bu tri gwrandawiad llys.
Doedd neb yn bresennol i gynrychioli'r cwmni yn y gwrandawiad ar-lein ddydd Mercher o Uchel Lys Llundain.
Ond rhoddodd y barnwr ohiriad tan 26 Awst i "setlo" yr achos.
Nôl ym mis Tachwedd 2017 cafodd y sŵ eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod ar ôl i lyncs lwyddo i ddianc.
Fe benderfynodd Cyngor Ceredigion ar y pryd fod bai ar y sŵ am beidio â dal Lilleth y lyncs cyn iddi roi'r cyhoedd mewn perygl.
Cafodd y lyncs ei difa yn ddiweddarach gan swyddog arbenigol.
Daeth hi i'r amlwg wedyn bod ail lyncs wedi marw drwy gael ei mygu wrth iddi gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.
Ym mis Ionawr eleni, cafodd y sŵ gyfarwyddyd i gau llociau eu hanifeiliaid mwyaf peryglus oherwydd "trefniadau annigonol" pe bai anifail peryglus yn dianc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017