Rhybudd bod barbeciwiau tafladwy yn achosi tanau gwair

  • Cyhoeddwyd
Tân gwairFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau brys wedi gorfod delio â mwy o danau gwair yn ystod y cyfnod clo

Wrth i fwy o'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio, mae ymwelwyr â mannau prydferth yn cael eu hannog i beidio defnyddio barbeciwiau tafladwy i atal tanau gwair.

Dywedodd gwasanaethau tân Cymru eu bod eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau gwair sy'n cael eu cynnau mewn camgymeriad ers dechrau'r cyfnod clo.

Wrth i fwy o bobl ymweld â mannau prydferth a chefn gwlad, mae pryder y bydd cynnydd ymhellach yn nifer y tanau.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod peidio cael gwared ar farbeciwiau yn briodol yn achos cyffredin o danau gwair.

'Anodd eu cael dan reolaeth'

Daw ple y corff amgylcheddol cyn i ragor o gyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd o CNC bod "barbeciwiau tafladwy yn achos cyffredin o danau gwair sy'n anodd eu cael dan reolaeth yng Nghymru".

"Peidio diffodd barbeciwiau yn llwyr, peidio cael gwared arnyn nhw yn briodol a pheidio eu cymryd nhw adref ydy'r prif achosion o danau gwyllt damweiniol."

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod barbeciwiau tafladwy yn un o'r "prif achosion o danau gwyllt damweiniol"

Daw'r rhybudd yn dilyn cyfres o danau ers dechrau'r cyfnod clo.

Ym mis Mai dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod dros 1,000 o danau wedi bod ar draws Cymru mewn wyth wythnos.

Mae'r gwasanaeth yn credu bod y mwyafrif o'r rheiny wedi cael eu cynnal yn fwriadol.

Cynnydd ym mhob ardal

Mae'r tri gwasanaeth tân yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau gwair dros y misoedd diwethaf o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod wedi gweld cynnydd o 52%, tra bod cynnydd o 24% wedi bod yn y canolbarth a'r gorllewin.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wrthod darparu ffigyrau, ond dywedon nhw fod cynnydd yn nifer y tanau gwair yno hefyd, a bod nifer o'r rheiny wedi cael eu cynnau gan farbeciwiau.

Dywedodd Richard Owens o CNC: "Dyw pobl ddim yn sylweddoli pa mor hawdd yw hi i ddarn bach o farbeciw neu goelcerth, neu daflu sigarét sydd heb ei ddiffodd, ddatblygu i fod yn rhywbeth llawer mwy."