'Mae fy ngŵr ar yr un ward â chleifion Covid-19'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn o'r Wyddgrug yn dweud ei fod wedi cael ei drin ar yr un ward â chleifion Covid-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam er nad oedd ganddo'r haint.
Cafodd Huw Roberts ei gymryd i'r ysbyty ar 21 Gorffennaf gyda phoen yn ei abdomen.
Er ei fod wedi cael ei symud i ward arall bellach, mae ei wraig Susan yn dweud y bu ar yr un ward â chleifion coronafeirws am gyfnod.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod pob claf sydd â coronafeirws yn cael eu symud i wardiau penodol.
Ysbyty Maelor ydy canolbwynt y feirws yng Nghymru ar hyn o bryd yn sgil nifer o achosion yn ardal Wrecsam.
"Ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf cafodd ei symud o Ward Fleming i Ward Mason," meddai Ms Roberts.
"Ar y dydd Llun fe welodd staff yn dod i mewn gyda visors a PPE i weld dau neu dri dyn oedd yn wael yr olwg.
"Fe wnaeth Huw a chlaf arall glywed staff nyrsio yn dweud eu bod [y dynion oedd yn wael] â Covid. Roedd Huw yn wallgo' ac yn ceisio cael ei symud.
"Dydw i ddim yn cwyno am y gofal - roedd y staff yn grêt - ond 'da ni'n gwybod bod nifer o gleifion Covid yn yr ysbyty."
Mae Mr Roberts wedi bod yn cael profion cyson am coronafeirws, gyda phob yn un negatif.
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn dweud na ddylid diystyru gosod cyfyngiadau lleol ar yr ardal.
"Yn anffodus mae'r niferoedd yn cynyddu yn Wrecsam," meddai wrth Radio Wales fore Iau.
"Dydy'r pethau sylfaenol ddim yn cael eu gwneud yn iawn ar y funud - y system brofi a'r canlyniadau, gorchuddio wynebau mewn ysbytai, a gwahanu cleifion o fewn yr ysbyty.
"Ry'n ni'n clywed adroddiadau bod achosion yn ymddangos yn rhai o'r ysbytai cymunedol hefyd, felly mae'n tyfu i fod yn broblem fwy yn ardal Wrecsam, ac mae'n rhaid rhoi ystyriaeth wirioneddol i gyfyngiadau mwy llym o fewn yr ardal i reoli'r feirws."
'Canfod mwy o gleifion positif'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg Ysbyty Maelor, nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol ond bod pob claf sydd â coronafeirws yn cael eu symud i wardiau penodol.
"Mae cleifion sy'n cael prawf positif am Covid-19 yn cael eu trosglwyddo i'n wardiau Covid-19," meddai Gill Harris, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd iechyd.
"Ry'n ni wedi canfod mwy o gleifion positif wrth i ni gynyddu nifer y profion ar draws y safle.
"Canlyniad hyn yw ein bod wedi canfod cleifion sydd wedi bod o amgylch y feirws ond oedd ddim â symptomau.
"Mae'r cleifion hynny yn cael eu trin ar wahân nes ein bod yn gallu cadarnhau a oedd ganddyn nhw'r feirws ai peidio.
"Mae pob achos positif yn cael ei symud i wardiau Covid-19 ac mae'r cleifion negatif yn parhau ar y ward arferol ac yn cael eu profi pob pum diwrnod, yn unol â chyfarwyddyd Iechyd Cyhoeddus Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020