'Falch o fod 'nôl' yn ymarfer hefo CPD Nantlle Vale

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Clwb Pêl-droed Nantlle Vale yn falch o fod nôl yn ymarfer

Wrth i gyfyngiadau'r pandemig gael eu llacio, mae rhai o'r clybiau pêl-droed ar lawr gwlad yn falch o gael dechrau cynnal ymarferion unwaith eto.

Ers pythefnos bellach, mae Clwb Pêl-droed Nantlle Vale yng Ngwynedd wedi bod yn ymarfer yn Stadiwm Maes Dulyn ym Mhenygroes.

Er bod pobl bellach yn cael ymarfer corff mewn grwpiau yn yr awyr agored, roedd yn rhaid i CPD Nantlle Vale gyflwyno nifer o newidiadau i'r ffordd yr oeddynt yn ymarfer.

Mae pob chwaraewr yn teithio i'r ymarferion ar eu pen ei hunain, gan arwyddo cofrestr ar ôl cyrraedd a defnyddio hylif glanhau yn rheolaidd.

Hefyd, nid oes gan chwaraewyr hawl i gyffwrdd y peli ymarfer gyda'u dwylo na'u pennau, nac i gael cyswllt uniongyrchol gyda chwaraewyr eraill.

Dywedodd un o gyd-reolwyr y clwb Daniel Bell, fod y tîm yn "falch o fod 'nôl yn ymarfer a chael bod yn ôl yn yr awyr agored".

"Mae wedi bod yn bedwar neu bum mis go anodd, yr hogia' yn ansicr efo gwaith a ballu.

"Hefyd y social side ohoni, yr hogia' ddim yn cael gweld ei gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyd-reolwr Siôn Eifion Jones wedi bod yn gyrru rhaglenni ffitrwydd i'r chwaraewyr yn ystod y cyfnod clo

Yr un fu'n bennaf gyfrifol am sicrhau fod gofynion Llywodraeth Cymru â'r Gymdeithas Bêl-droed yn cael eu cwrdd ydy ysgrifennydd y clwb, Kim Warrington.

"Roedd yn rhaid i ni sticio i ganllawiau y cafon ni gan y Gymdeithas Bêl-droed. O ganlyniad i hynny, roedd yn rhaid i ni baratoi asesiad risg," meddai.

"Ac o fewn yr asesiad risg yna, roedd 'na dipyn o bethau roedd yn rhaid i ni wneud cyn dod yn ôl. Cael arwyddion o gwmpas y maes, cael cofrestr i gael pobl i arwyddo i mewn, cael hand sanitizer o gwmpas y maes, a chael pobl yn gyfrifol am lanhau offer rhwng sesiynau hyfforddi."

Dywedodd Ms Warrington hefyd fod yr hyfforddwyr wedi gorfod derbyn hyfforddiant arbennig am ddiogelwch Covid-19, a bod y tîm bellach yn gorfod rhannu i fyny yn griwiau o bump, ac wedyn yn ymarfer mewn gwahanol rannau o'r cae.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "neis cael bod yn ôl efo'r hogia'" meddai Siôn Wyn Williams

Un sy'n hynod falch o fod yn ôl yn ymarfer ydy Siôn Wyn Williams o Lanwnda.

"Mae wedi bod yn tough ar y cychwyn ond mae'n neis cael bod yn ôl efo'r hogia'," meddai.

"A chwarae bob dydd Mawrth a bob dydd Iau, mae'n grêt.

"'Da ni'n trio cadw bob dim yn two metres ac yn iach ond mae'n gallu bod yn anodd gwneud hynny."

'Cadw strwythur'

Yn ôl y cyd-reolwr Siôn Eifion Jones, roedd wedi bod yn heriol i'r chwaraewyr geisio cynnal eu ffitrwydd yn ystod y cyfnod clo, ond roedd y clwb yn paratoi ymarferion i'r chwaraewyr allu wneud adref.

"Mi oeddan ni'n gyrru rhaglenni ffitrwydd allan i'r chwaraewyr i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw ar ben eu ffitrwydd," meddai.

"O ran eu hiechyd meddwl yn fwy na dim byd hefyd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cadw at rhyw fath o strwythur.

"A gwneud yn siŵr pan maen nhw'n dod yn ôl eu bod nhw'n barod i fynd ati eto efo'r pêl-droed."