Hiliaeth wedi gwneud rhai yn 'fwy agored' i Covid-19
- Cyhoeddwyd
Fe allai hiliaeth sefydliadol fod wedi cyfrannu at effaith anghymesur Covid-19 ar bobl o gefndiroedd ethnig yng Nghymru, yn ôl barnwr blaenllaw.
Dywedodd y Barnwr Ray Singh, arweinydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r mater, y gallai bywydau fod wedi cael eu hachub pe bai asesiad risg ar-lein wedi bod ar gael yn gynt.
Mae undeb wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn ceisio mynd i'r afael â hiliaeth strwythurol.
Mae ymchwil rhaglen Wales Investigates yn dangos fod o leiaf 10 adroddiad wedi tanlinellu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn yr 20 mlynedd diwethaf, gyda llawer yn amlygu anghydraddoldeb hil strwythurol.
Mae dadansoddiad o'r data swyddogol yn dangos fod pobl o gefndiroedd ethnig yng Nghymru yn fwy tebygol na phobl wyn o fyw mewn ardaloedd ble mae amddifadedd wedi gwaethygu ers 2011.
Mae preswylwyr y 5% o lefydd mwyaf difreintiedig Cymru'n ddwywaith yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na'r rhai yn y 5% o ardaloedd lleiaf difreintiedig, yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael cytundebau oriau sero neu waith gydag asiantaethau, sy'n golygu eu bod dan bwysau i barhau i weithio er gwaethaf peryglon y feirws.
Wrth i'r feirws ddechrau lledu ym mis Mawrth, roedd y rheolwr warws Raza Ghulam, 54, yn gofalu am ei rieni ar y dyddiau pan nad oedd yn gweithio.
Doedd ei gymar, Nicola Mincher, o Gasnewydd, ddim eisiau iddo fynd i'r gwaith ond dywedodd na allai fforddio peidio.
Cafodd y ddau eu taro'n wael ychydig cyn y cloi mawr ac o fewn deuddydd bu'n rhaid i Nicola alw am ambiwlans am fod Raza'n cael trafferth anadlu.
"Wrth adael, dywedodd 'dyw pobl ddim yn dod adre o hyn'," meddai Nicola. "Dywedais 'paid â siarad fel'ny' a rhoi cusan iddo.
"Dyna'r tro olaf imi siarad ag e."
Cafodd Raza brawf coronafeirws positif yn yr ysbyty a'i roi ar beiriant anadlu.
O fewn dim roedd ei frawd Ghulam Abbas, gyrrwr tacsi 59 oed o Gasnewydd, wedi ymuno ag e yn uned gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl cael Covid-19.
Ar 22 Ebrill, cafodd Nicola ei galw i'r ysbyty i weld Raza.
"Rois i gusan iddo ac ro'n i'n cydio yn ei ddwylo gyda'i fwclis gweddi ac o fewn pum munud roedd ei galon wedi stopio," dywedodd. "Fe gwympodd fy myd yn deilchion."
Bu farw Ghulam 12 awr yn ddiweddarach.
"Roedden ni yn ei garu gymaint," meddai ei weddw, Shamim Abbas. "I fy merched, nid eu tad oedd, ond eu harwr.
Yn nhon gyntaf Covid-19, bu farw 16 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd 10 o leiafrifoedd ethnig, a saith o'r rheiny o'r Ffilipinau.
Aeth y gweithiwr cefnogaeth gofal iechyd Julius Sana i'r ysbyty gyda thwymyn ym mis Ebrill. Ddiwrnod wedyn, ar ben-blwydd ei ferch yn bump oed, roedd ar beiriant anadlu.
Roedd wedi hebrwng claf i'r ysbyty aeth ymlaen i gael prawf coronafeirws positif. Dywedodd ei chwaer, Jovelyn Villareal, ei fod yn falch o'i swydd ac "yn berson oedd ddim am i bobl feddwl ei fod yn ddiog."
Roedd diabetes ar Julius, ac er bod ganddo offer diogelwch personol, roedd yn gymharol sylfaenol, yn unol â chanllaw'r llywodraeth ar y pryd.
"Yn y dechrau roedden ni'n gofyn - ydi hynny'n ddigon?" meddai Jovelyn.
"Welson ni ar y teledu, mewn llefydd fel China neu'r Ffilipinau, roedden nhw'n gwisgo PPE llawn fel tase'n nhw'n ofodwyr."
Roedd Julius yn cael ei gynnal trwy diwbiau am 18 o ddiwrnodau cyn i'w wraig, Maricar, gael galwad i ddweud ei fod yn cael ataliad ar y galon.
Bu farw o fewn 10 munud, yn 40 oed.
'Roedd rhaid i bobl weithio'
"Dywedodd llawer yn agored o'r dechrau eu bod wirioneddol yn ofnus pan welson nhw gydweithwyr yn marw, "meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, "ac roedden nhw'n gwybod, wrth weld lluniau ar y teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol, eu bod yn cael eu heffeithio'n anghyfartal.
"Ond fe ddywedon nhw 'Rhaid dewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd a thalu biliau'."
Dywedodd fod llawer o weithwyr o gefndir lleiafrif ethnig â gofynion fisa i weithio nifer benodol o oriau neu mewn sefyllfa o orfod gweithio shifftiau ychwanegol.
Mae Ms Taj yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i ddarganfod pam fod lleiafrifoedd ethnig wedi'u heffeithio'n anghyfartal.
"Mae llawer o bobl wedi colli anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr. Rhaid i ni wybod a ellid fod wedi osgoi hynny."
Mae ystadegau eraill yn amlygu ffactorau risg yn achos bobl BAME. Mae un o bob tri o staff meddygol a deintyddol Cymru o gefndiroedd ethnig.
Mae tlodi wedi taro rhai cymunedau'n waeth wrth i fusnesau orfod cau
Mae dynion o dras Pacistanaidd, du Affricanaidd a du Caribïaidd yn fwy tebygol o weithio mewn diwydiannau a ddaeth i stop yn y cyfnod clo.
Mae dynion Bangladeshaidd yn bedair gwaith mwy tebygol na dynion gwyn o weithio yn y diwydiannau hyn.
Ym mis Ebrill, sefydlodd Llywodraeth Cymru adolygiad i ddarganfod pam fod mwy o risg i leiafrifoedd ethnig wrth i'r feirws ledu, dan arweiniad y Barnwr Ray Singh.
Comisiynodd yntau asesiad risg ar-lein sy'n ystyried ffactorau fel ethnigrwydd, rhyw a salwch.
Credai'r Barnwr Singh y gallai adnodd o'r fath fod wedi gwneud gwahaniaeth petai wedi bod ar gael yn gynt.
"Byddai wedi helpu lot," meddai, "Gallai gymaint o'r bobl hynny fod dal yn fyw heddiw.
"Mae hiliaeth yn cael ei amlygu yn fan hyn. Ac mae angen i ni weithredu nawr, neu fydd hi'n rhy hwyr."
Strategaeth
Yn y ddau ddegawd diwethaf, mae o leiaf 10 adroddiad wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, gyda llawer yn cyfeirio at yr effaith ar leiafrifoedd ethnig.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru: "Wyddwn ni ddim beth fyddai effaith Covid-19 fel feirws, ond gwyddwn am anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol.
Mae'r adroddiad hefyd yn tanlinellu diffyg cynrychiolwyr BAME ar lefel gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Mrs Hutt fod Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wneud penodiadau cyhoeddus cyn y cyfnod clo.
Pan ofynnwyd a fyddai'n cefnogi ymchwiliad cyhoeddus, atebodd y dylid gweithredu cynllun dan y strategaeth honno.
"Rhaid derbyn bod yna anghydraddoldebau strwythurol a bod yna hiliaeth," dywedodd. "Does dim ffordd o gwbl y dylem ni fod yn hunanfodlon neu feddwl nad ydy hyn yn berthnasol i ni yng Nghymru."
BBC Wales Investigates: Under the Skin of Covid-1920:30 3 Awst BBC One Wales
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020