Canlyniadau profion ychwanegol Wrecsam yn 'galonogol'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan brofi symudol Covid-19 ym Mharc Caia, Wrecsam ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Un o ganolfannau profi symudol Covid-19 ardal Wrecsam ym Mharc Caia

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod canlyniadau profion torfol am haint coronafeirws yn ardal Wrecsam yn galonogol.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod cafodd 1,400 o bobl eu profi mewn canolfannau cymunedol yn Hightown a Pharc Caia, ac fe gafodd 11 achos newydd eu darganfod.

Cafodd y canolfannau cymunedol eu sefydlu yn dilyn pryderon fod cynnydd yn nifer yr achosion yn y gymuned.

Fe wnaeth dros 80 o bobl ddal yr haint yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, ac roedd ffatri Rowan Foods yn y dref wedi ei gysylltu â 289 o achosion.

Dywedodd Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydyn ni wedi ein calonogi gan y niferoedd, sy'n ymddangos fel pe bai'r trosglwyddiad yn sylweddol is na'r hyn a oedd wedi ei ofni."

"Mae hefyd yn bwysig nodi ei bod yn bosibl olrhain cadwyn drosglwyddo debygol mewn llawer o'r achosion.

"O ganlyniad, nid ydym yn credu bod llawer iawn o drosglwyddo cudd yn y gymuned."

Ddiwedd Gorffennaf dechreuodd aelodau'r cyhoedd ymweld â'r ddwy ganolfan brofi symudol, heb orfod gwneud apwyntiad o flaen llaw.

Mae 1,400 o bobl wedi cael eu profi hyd at ddydd Mawrth.

'Pawb â rôl hanfodol'

"Rydyn ni am ddiolch i'r gymuned am eu hymateb", meddai Dr Chris Johnson.

"Nid yn unig y rhai a ddaeth ymlaen ar gyfer profi, ond hefyd unigolion y cysylltwyd â nhw i olrhain cysylltiadau a ddangosodd barodrwydd i ddilyn y cyngor a gwarchod eu cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Nifer y marwolaethau wedi prawf Covid-19 positif hyd at 4 Awst

"Rydym yn atgoffa'r cyhoedd a pherchnogion busnes, er gwaethaf y niferoedd isel hyn, fod coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned.

"Mae gan bob un ohonom rôl hanfodol wrth atal coronafeirws rhag lledaenu trwy gadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol - mae hynny'n aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, a golchi dwylo'n rheolaidd.

"Tra bod profion wedi dod i ben yn y ddwy uned profi symudol, os ydych chi'n dangos symptomau - hyd yn oed os yw'r symptomau hynny'n ysgafn - dylech chi gael eich profi o hyd."

'Ffigyrau calonogol'

Wrth ymateb, dywedodd yr aelod o Senedd Cymru dros Wrecsam, Lesley Griffiths, bod yr ystadegau diweddaraf yn "galonogol".

"Rwy'n deall na fu unrhyw achosion newydd yn Rowan Foods ers bron i bythefnos ac mae'r mesurau atal rhagweithiol a gyflwynwyd gan y Tîm Rheoli Achosion yn Ysbyty Maelor wedi helpu i sefydlogi cyfraddau trosglwyddo.

"Er ei bod yn ymddangos bod y darlun yn gwella a bod yr arwyddion a'r ystadegau diweddaraf yn galonogol, nid yw'n golygu y bydd yr awdurdodau'n ymlacio."

Cafodd un farwolaeth ychwanegol ei chofnodi yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf ICC.