Starmer yng Nghymru yn galw am ymestyn y cynllun ffyrlo

  • Cyhoeddwyd
Syr Keir Starmer yn Airbus ddydd Iau 6 Awst
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer yn Airbus ddydd Iau

Mae Syr Keir Starmer wedi ymweld â Chymru ddydd Iau am y tro cyntaf ers iddo gael ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur.

Ymwelodd ag adnodd ymchwil a gweithgynhyrchu awyrofod yn Sir y Fflint yn dilyn y cyhoeddiad am golli 1,435 swyddi yn ffatri Airbus ym Mrychdyn ym mis Gorffennaf.

Cyn yr ymweliad, dywedodd y dylai gweinidogion Llywodraeth y DU wyrdroi'r penderfyniad i ddod â'r cynllun ffyrlo i ben er mwyn gwarchod swyddi Cymru.

Mynnodd y Trysorlys eu bod wedi rhoi arian i weinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn "creu eu cynlluniau cefnogaeth eu hunain".

Mae Syr Keir yn dymuno gweld cynllun ffyrlo diwygiedig sy'n cefnogi'r sectorau o'r economi sydd wedi cael eu taro waethaf gan coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ddechrau Gorffennaf daeth y newyddion y bydd bron 1,500 yn colli'u gwaith yn ffatri Airbus

Cafodd y cynllun ffyrlo gwreiddiol ei gyflwyno gan y Trysorlys ar ddechrau'r pandemig er mwyn ceisio atal colli swyddi, ac roedd i fod i bara tan ddiwedd Gorffennaf, ond cafodd ei ymestyn hyd diwedd mis Hydref.

Ers dechrau Awst, rhaid i gyflogwyr dalu Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn i'w gweithwyr, ac yna 10% o'u cyflogau i fis Medi gan gynyddu i 20% ym mis Hydref.

Dywedodd Syr Keir: "Mae tynnu'r cynllun ffyrlo cyfan yn ôl yn gamgymeriad gan lywodraeth y DU a fydd yn bygwth swyddi Cymru.

Disgrifiad,

Mae'r grym i addasu'r cynllun ffyrlo yn nwylo Llywodraeth y DU, meddai Mark Drakeford, oedd gyda Syr Keir Starmer ym Mrychdyn ddydd Iau

"Mae'r golled ofnadwy i swyddi yn Airbus yn dangos pa mor bwysig yw hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer i gefnogi busnesau, ond gall y weithred angenrheidiol ar y cynllun ffyrlo ond ddod o San Steffan."

Galwodd ar aelodau seneddol Ceidwadol Cymru i ymuno gydag ymyrch Llafur i orfodi gweinidogion yn Llundain i newid eu safbwynt.

'Cynllun eu hunain'

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Roedd y cynllun ffyrlo yn ddigynsail, a hyd yma mae wedi cefnogi cyflogau mwy na 378,000 o bobl yng Nghymru a bydd yn rhedeg am gyfanswm o wyth mis.

"Rydym hefyd wedi cyhoeddi'n ddiweddar ein cynllun bonws £1,000 i gadw swyddi er mwyn sicrhau ein bod yn gwarchod cymaint o swydd ag sy'n bosib.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwarant o £4bn o leiaf eleni ar ben y cyllid a gyhoeddwyd yng nghyllideb y gwanwyn, gan roi'r sicrwydd iddyn nhw greu eu cynlluniau cefnogi eu hunain dros y misoedd nesaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau gwahanol ar draws y DU o ran gwisgo masgiau mewn siopau

Yn ystod ei ymweliad â Sir Y Fflint, dywedodd Syr Keir fod hawl i lywodraethau Cymru a'r DU benderfynu dros eu hunain a ddylid gorfodi pobl i orchuddio'u hwynebau mewn siopau.

Mae wedi cefnogi polisi llywodraeth Geidwadol San Steffan sy'n gwneud gwisgo masgiau mewn siopau'n statudol, ond dyw'r polisi heb ei weithredu yng Nghymru.

Ond ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn well i'r argyfwng Covid-19 na gweinyddiaeth Boris Johnson yn Lloegr.

Honnodd hefyd fod mwy o ffydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru ym mesurau coronafeirws nag ymhlith pobl yn Lloegr.

Ailgysylltu gyda phleidleiswyr

Cafodd Syr Keir Starmer ei ethol i olynu Jeremy Corbyn ym mis Ebrill yn dilyn etholiad cyffredinol a welodd Llafur yn colli chwe sedd yng Nghymru i'r Ceidwadwyr.

Mae'r arweinydd newydd wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd rhithiol gyda phleidleiswyr yn y gogledd ddwyrain fel rhan o ymdrech i ailgysylltu gyda phleidleiswyr Llafur traddodiadol a gollwyd bryd hynny.

Daw ei ymweliad cyn etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf lle mae ei blaid yn gobeithio cael eu hethol i fod yn blaid lywodraethol am y chweched tro.

Mae Llafur wedi bod mewn grym ers datganoli yn 1999, gan gynnwys dau dymor gyda chefnogaeth pleidiau eraill.