Cynnydd 'rhyfeddol' cleifion cartrefi gofal preifat
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder am gynnydd "rhyfeddol" yn nifer y cleifion sy'n byw gydag anhwylderau iechyd meddwl sydd yn cael eu hanfon i fyw mewn cartrefi gofal preifat.
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi gweld drafft o ddatganiad blynyddol Uned Gomisiynu Cydweithredol Cenedlaethol - yr adran sy'n gyfrifol am gomisiynu i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ôl y ddogfen honno, roedd 10 claf oedd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn byw mewn cartrefi gofal yn 2017.
Erbyn 2019/20 roedd y nifer wedi codi i 195.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y ffigyrau yn dangos cynnydd yn y defnydd o gartrefi gofal drwy fframwaith y GIG ond nad yw hyn o reidrwydd yn golygu bod mwy o bobl yn mynd i gartrefi gofal yn gyffredinol.
Yn ôl gwefan elusen Hafal, nhw yw'r brif elusen yng Nghymru i bobl ag anhwylderau iechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr.
Mae eu prif weithredwr, Alun Thomas, yn gofidio am y cynnydd.
"Ein prif ofid yw bod y rhain yn leoliadau preifat. Mae'r bobl sy'n mynd yna'n dod ag arian i'r lleoliad," meddai.
"Os y'n nhw felly yn gwella ac yn mynd gartref, mae hynny'n golygu llai o arian i'r cyfleuster gofal.
"Ry'n ni wedi bod yn symud oddi wrth pecynnau gofal lle roedd gyda ni niferoedd mawr o bobl mewn canolfannau caeedig i leoliadau tymor byr gyda phwyslais ar adferiad mewn ysbytai cyn symud nôl i fyw yn y gymuned.
"Mae hyn yn edrych fel cam yn ôl ac yn golygu y gallai pobl golli eu hannibyniaeth."
'Cartrefi gydol oes drud iawn'
Yn 2017, agorodd Hafal ysbyty eu hunain yn ardal Gellinudd yng Nghwm Tawe.
Fel elusen, maen nhw'n dweud nad ydyn nhw - yn wahanol i gwmnïau masnachol - yn gorfod canolbwyntio ar wneud elw.
Maen nhw hefyd yn poeni bod llai o staff nyrsio ar gael mewn nifer o gartrefi gofal.
"Ry'n ni'n gweithredu ar gost o £122,000 y flwyddyn [fesul gwely]. Cost cyfartalog y cartrefi gofal yw £100,000 [fesul gwely]. Does dim staff nyrsio dydd-i-ddydd gan 171 o'r 195 lleoliad," meddai Mr Thomas.
"Yma, ry'n ni'n gweithio gyda nyrsys, seiciatryddion, seicolegwyr, occupational therapists a physios. Mae safon gofal uchel wedi ei ffocysu ar gyfnod byr.
"Elusen y'n ni. Dy'n ni ddim angen gwneud elw. Ry'n ni'n gofidio bod y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol yn anfon arian i'r sector breifat, i ariannu gofal i bobl yn y tymor hir-ac y gallen nhw fod yn cael gwell gofal.
"Mae'n rhaid ystyried bod £100,000 y flwyddyn dros 10 mlynedd yn mynd i gostio lot mwy na £120,000 dros ddwy flynedd ac wedyn anfon pobl nôl i'r gymuned i fyw gyda tham' bach o gefnogaeth.
"Bydden ni'n dymuno gweld yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Cenedlaethol yn edrych yn fanwl ar y lleoliadau yma a gofyn 'am ba mor hir mae pobl am fod yno? A fydd y rhain yn gartrefi gydol oes?' Os yw hynny'n wir, maen nhw'n gartrefi gydol oes drud iawn."
Monitro parhaus
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Uned Gomisiynu Cydweithredol Cenedlaethol wedi cadarnhau er bod yr adroddiad yn dangos bod cynnydd yn y defnydd o gartrefi gofal drwy fframwaith y GIG, dyw hynny ddim yn golygu bod mwy o bobl yn mynd i gartrefi gofal yn gyffredinol."
Roedden nhw hefyd yn dweud bod monitro parhaus o hyd ymweliadau yn digwydd.
Pan ofynnwyd am wir nifer y bobl ag anhwylderau iechyd meddwl sydd yn cael eu rhoi mewn cartrefi gofal, ni roddwyd ateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020