Covid-19: Nifer y bobl â dementia sy'n marw yn 'syfrdanol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae "llawer o gwestiynau'n mynd drwy fy mhen bob dydd" meddai Ceri Higgins

Mae ffigyrau sy'n amlygu effaith y pandemig ar bobl â dementia yng Nghymru wedi'u disgrifio fel rhai "arswydus".

Roedd dros un o bob pum person fu farw gyda Covid-19 yma yn byw gyda'r clefyd.

Nawr mae galwadau'n cael eu gwneud i sefydlu tasglu dementia penodol rhag ofn bod ail don.

Mae elusennau, arbenigwyr a theuluoedd wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid eu cynnwys yn ffurfiol mewn ymdrechion i gynllunio ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cyfarfod "yn gyson" gyda grwpiau dementia.

'Bywydau allan o reolaeth'

Ar ôl colli ei thad gyda coronafeirws ym mis Ebrill, dywedodd Ceri Higgins o Donteg yn Rhondda Cynon Taf fod ganddi "lawer o gwestiynau'n mynd drwy fy mhen bob dydd".

Roedd David Williams, 82 oed, wedi derbyn prawf positif ddyddiau'n unig ar ôl dychwelyd adref yn dilyn cyfnod byr o ofal seibiant mewn cartref nyrsio lleol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw David Williams gyda coronafeirws ym mis Ebrill

Golygai'r cyfyngiadau ar y pryd i'r cyn-beiriannydd gyda'r awyrlu a ffigwr amlwg yn ei gymuned dreulio wythnosau yn yr ysbyty heb unrhyw gysylltiad â'i deulu.

"Roedden ni'n teimlo bod ein bywydau allan o reolaeth gan nad oedden ni'n gallu cyfrannu at yr hyn oedd yn bwysig iddo fe ac aton ni," meddai Ms Higgins.

Ar ôl treulio'r 11 mlynedd ddiwethaf yn gofalu am ei thad "bron a bod 24 awr y dydd", dywed eu bod wedi datblygu eu hiaith eu hunain a ffordd o siarad i'w helpu i gyfathrebu a deall.

Llwyddodd "nyrs hyfryd iawn" - a'i ffoniodd i ddweud ei fod yn marw - ddefnyddio rhai o'r ymadroddion a siarad am ei deulu a'i gariad at gŵn yn yr eiliadau olaf.

Er bod hynny wedi bod yn gysur mawr, dywedodd Ms Higgins fod bywyd ers marwolaeth ei thad wedi bod fel "bod ynghanol drysfa", yn methu cynnal yr angladd y byddai wedi bod ei eisiau ac yn poeni'n gynyddol nad oedd digon yn cael ei wneud i ymchwilio i'r rheswm pam bod pobl â dementia wedi'u heffeithio mor wael, meddai.

"Gwyliais gynhadledd gan y llywodraeth lle'r oedd Andrew Goodall [Prif Weithredwr y GIG] yn sôn am ddod â phobl flaenllaw ym myd canser at ei gilydd i drafod ffordd ymlaen a sut y byddai hynny'n helpu pobl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Williams yn gyn-beiriannydd gyda'r awyrlu ac yn ffigwr amlwg yn ei gymuned

"A feddylies i y dylai hyn fod yn digwydd i bobl sy'n byw gyda dementia - mae angen tasglu dementia arno' ni.

"I weld y fath ystadegau ar gyfer y cyfnod pan wnaeth fy nhad farw - mae'n gwneud i mi feddwl bod hynny'n sgil-effaith o'r holl broblemau oedd yn effeithio ar bobl sy'n byw gyda dementia cyn y pandemig hefyd. Mae'n syfrdanol.

"Bob wythnos pan y'n ni'n gweld nifer y marwolaethau, [mae'r llywodraeth] yn dweud bod rhaid i ni gofio fod y tu ôl i bob un person sy'n marw mae'n 'na deulu yn galaru. Wel mae dyletswydd arnon ni felly i ddeall pam fuon nhw farw, beth oedd yr amgylchiadau.

"Cyn i ni symud ymlaen, mae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd i bobl â dementia ac mae angen i ni wneud hynny nawr. Oherwydd i lawer mae'n mynd i fod yn rhy hwyr."

Beth mae'r ystadegau yn ei ddangos?

O'r cyfanswm o 2,450 o farwolaethau yng Nghymru a gysylltwyd â coronafeirws rhwng Mawrth a Mehefin, mae adroddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 543 wedi bod yn byw gyda dementia/clefyd Alzheimer.

Mewn cymhariaeth, bu farw 233 o bobl oedd â chlefydau anadlu isaf, 222 gyda phroblemau llif gwaed i'r galon, a 49 gyda diabetes.

Mae'r darlun hyd yn oed yn fwy trawiadol yn Lloegr, lle roedd chwarter o farwolaethau Covid rhwng mis Mawrth a mis Mehefin yn bobl oedd wedi bod yn byw gyda dementia.

Yn ogystal, mae adroddiad ar wahân gan yr ONS ar gofrestriadau marwolaeth nad ydyn nhw'n gysylltiedig â Covid-19 wedi dangos cynnydd o 52.2% yn yr hyn a elwir yn 'farwolaethau ychwanegol' (excess deaths) o bobl â dementia yn ystod y pandemig ledled Cymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dyma'r twf mwyaf mewn marwolaethau o unrhyw gyflwr iechyd ac mae wedi cael ei alw'n "syfrdanol" gan y Gymdeithas Alzheimer.

"Mae'r nifer anghymesur o bobl â dementia sydd wedi marw yn ystod y pandemig yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder i ni i gyd," meddai Cheryl Williams o Gymdeithas Alzheimer Cymru.

"Yn sicr nid oedd gan lawer o gartrefi gofal PPE digonol ar gyfer staff ar ddechrau'r pandemig - efallai nad oedd hyn yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth yn y dyddiau cynnar."

Ond fel Ceri Higgins, mae Ms Williams yn credu bod cwestiynau ehangach y tu hwnt i fesurau rheoli haint o ran pam y cafodd pobl â dementia eu "taro waethaf".

"Diffyg cyswllt wyneb yn wyneb â theulu, ffrindiau, rhyngweithio cymdeithasol - mae wedi cael effaith sylweddol," meddai.

'Arswyd a thristwch'

Dywedodd Dr Charles Musselwhite, o Ganolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe, ei fod wedi darllen yr ystadegau gyda "chymysgedd o arswyd a thristwch".

"Roedden ni bob amser yn gwybod bod pobl hŷn yn llawer mwy agored i niwed, llawer mwy mewn perygl. Ond rwy'n credu ei fod yn dangos sut mae rhai grwpiau yn mynd yn angof.

"Wrth gwrs wrth edrych yn ôl mae'n hawdd pigo ar bethau gallen ni fod wedi eu gwneud yn wahanol a phethau bydden ni'n hoffi eu gwneud yn wahanol eto yn y dyfodol - ond mae hwn yn un grŵp roedden ni'n gwybod oedd yn agored i niwed ac nid ydyn nhw wedi cael eu hamddiffyn mewn unrhyw ystyr difrifol.

"Rwy'n credu bod yn rhaid i ni roi pobl hŷn ac yn enwedig y rhai ag unrhyw broblemau iechyd cronig wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud yn symud ymlaen.

"Mae llawer o grwpiau gwirioneddol dda ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, elusennau, sefydliadau'r trydydd sector, arbenigwyr fel ni - mae angen i ni eu cynnwys yn fwy ynghylch beth i'w wneud os bydd ail don, ar sut i reoli hyn yn llawer mwy gofalus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â Fforwm Partneriaeth Covid-19 Gofal Dementia i "ddeall ffyrdd y gallwn gefnogi unigolion â dementia a'u teuluoedd trwy'r pandemig hwn".

"Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia (DOIIG) Llywodraeth Cymru wedi'i adfer ac mae'n cwrdd yn rhithiol i sicrhau bod y camau a nodir yn y Cynllun Gweithredu Dementia yn cael eu blaenoriaethu yng nghyd-destun Covid-19."