Nyrsys a staff GIG yn protestio am 'ddirmyg' cyflogau

  • Cyhoeddwyd
protest tu allan i'r Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Torf yn protestio y tu allan i'r Senedd ddydd Sadwrn

Mae cannoedd o nyrsys a staff GIG yn protestio ar draws Cymru wedi iddyn nhw gael eu hepgor o godiad cyflog a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Bydd bron i filiwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn derbyn codiad cyflog sy'n uwch na graddfa chwyddiant - gan gynnwys meddygon, deintyddion a'r heddlu - fel diolch am eu "cyfraniad allweddol" yn ystod y pandemig.

Ond ni chafodd nyrsys na meddygon ifanc eu cynnwys am eu bod nhw wedi cytuno ar ddêl tair blynedd yn 2018.

Dywedodd gweinidogion eu bod yn gweithio gydag undebau i sicrhau'r pecyn cyflog "gorau posib" i bob gweithiwr iechyd.

Roedd cynlluniau am brotestiadau fore Sadwrn yng Nghaerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr fel rhan o brotest ehangach drwy'r DU.

Ffynhonnell y llun, Naomi Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd gen i gymaint o ofn, fe wnes i ysgrifennu ewyllys," meddai Naomi Jenkins

Mae Naomi Jenkins yn nyrs 29 oed yn Abertawe. Dywedodd: "Dy'n ni ddim yn dweud nad yw pobl eraill yn haeddu codiad cyflog - ond ry'n ni hefyd.

"Ry'n ni wedi gweithio mor galed ac wedi bod trwy gymaint yn yr argyfwng yma, ac rydyn ni o hyd achos dyw Covid ddim wedi mynd i ffwrdd.

"Mae wedi bod yn gyfnod mor frawychus i bawb yn y GIG... fe wnes i hyd yn oed ysgrifennu ewyllys rhag ofn i rywbeth ddigwydd i mi.

"Bob dydd ro'n i'n dod adre' mewn dagrau am fy mod i'n poeni y bydden i'n dod â'r feirws adre at fy merch fach. Wnaeth rhai o 'nghydweithwyr ddim gweld eu plant am wythnosau, ond wnaeth yr un ohonon ni ddim mynd i'r gwaith.

"Felly mae cael ein gadael allan o'r codiad cyflog yma gan y llywodraeth [y DU] yn ofnadwy - mae'n gic go iawn."

O dan gytundeb yn 2018, bydd nyrsys yn cael codiad cyflog fis Ebrill nesaf, ond mae undebau am i lywodraethau'r DU a Chymru ddod â hynny ymlaen er mwyn dangos gwerthfawrogiad o staff y GIG.

Ffynhonnell y llun, Amy Mainwaring
Disgrifiad o’r llun,

"Mae nyrsys sy'n gwneud penderfyniadau am fyw neu farw yn cael eu talu llai na rheolwyr archfarchnadoedd," medd Amy Mainwaring

Mae Amy Mainwaring yn nyrs arbenigol ac yn un o drefnwyr protest Caerdydd. Dywedodd: "Fe welais i hysbyseb am berson i gasglu sbwriel yn Llundain, ac roedd y cyflog yn uwch na'r hyn dwi'n ei gael.

"Mae yna nyrsys sy'n gorfod mynd at fanciau bwyd.

"Mae 540 o staff y GIG wedi marw o coronafeirws, ac mae nifer ohonom ni wedi colli cydweithwyr. Roedd nifer yn nyrsys oedd wedi ymddeol, ond a ddaeth yn ôl i helpu.

"Felly pan ydyn ni'n cael ein hanwybyddu o'r codiad cyflog, roedd nyrsys a staff yn teimlo ei bod yn bryd peidio sefyll yn ddistaw. Rwy'n gobeithio fod gweinidogion yn gwrando."

'Cefnogaeth y cyhoedd'

Mae'r staff yn gobeithio y daw cefnogaeth gan y cyhoedd a fu'n cymeradwyo i'r GIG yn ystod y cyfnod clo.

Mae arolwg gan undeb Unsain yn awgrymu bod 69% o'r cyhoedd yn credu y dylai staff y GIG gael codiad cyflog cynnar oherwydd coronafeirws.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai dêl newydd i staff y GIG yng Nghymru yn cael ei gytuno drwy adolygiad cyhoeddus annibynnol.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn cydnabod y "gwaith anhygoel" sy'n cael ei wneud bob dydd gan weithwyr y GIG, a'u bod yn gweithio gydag undebau i gael y pecyn cyflog "gorau posib" i bob gweithiwr iechyd.