Ymchwiliad i lofruddiaeth Kirsty Jones wedi dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kirsty Jones ei threisio a'i thagu yng Ngwlad Thai yn 2000

Mae ymchwiliad, sydd wedi para am 20 mlynedd, i lofruddiaeth y deithwraig Kirsty Jones wedi dod i ben.

Bellach yn unol â chyfraith Gwlad Thai, does dim modd erlyn neb am dreisio na thagu y ddynes 23 oed o Dredomen ym Mhowys.

A hithau'n ugain mlynedd union ers ei llofruddiaeth, dywedodd ei mam Sue Jones ei fod "yn gyfnod hynod o drist i ni fel teulu".

"Ry'n wedi gweithio'n galed gydol y blynyddoedd i gadw diddordeb yr awdurdodau yng Ngwlad Thai yn yr achos er mwyn ceisio canfod y rhai oedd yn gyfrifol am ei llofruddiaeth," dywedodd.

Ychwanegodd mai megis cychwyn ei bywyd oedd ei merch "ddisglair, clyfar ac annibynnol".

"Mae Kirsty wedi diflannu o'n bywyd am byth," meddai, "tra bod y rhai a'i llofruddiodd yn rhydd.

"Petaent wedi cael eu herlyn, mi fyddai'r tristwch a'r gwacter yn parhau ond mi fyddai achos cyfreithiol wedi rhoi rhyw fath o glo ar y cyfan.

"Gobeithio y byddai hi wedi bod yn falch ein bod wedi ceisio cael cyfiawnder."

Roedd Ms Jones wedi ymweld â Singapore a Malaysia cyn symud i Chiang Mai yng Ngwlad Thai ym mis Awst 2000.

Roedd hi wedi cyrraedd hostel yn y ddinas cyn mynd i gerdded yn y mynyddoedd i weld golygfeydd a chyfarfod â phobl.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y deithwraig yn aros mewn hostel yn Chiang Mai

Yn ystod oriau mân 10 Awst, 2000 wedi noson yng nghwmni ffrindiau cafodd Ms Jones ei llofruddio yn ei hystafell.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Phillips o Heddlu Dyfed Powys: "Does neb wedi'i erlyn am lofruddiaeth Kirsty ac mae Adran Ymchwiliadau Arbenigol Gwlad Thai bellach wedi cau yr achos sy'n glo terfynol i'r ymchwiliad.

"Rydw i a chydweithwyr eraill o'm blaen wedi bod yn cysylltu'n gyson â theulu Kirsty gydol yr ymchwiliad ac ry'n yn rhannu eu siom enfawr nad oes neb erioed wedi cael ei erlyn."