'Masgiau'n orfodol os bydd coronafeirws yn lledu eto'

  • Cyhoeddwyd
Menyw mewn masgFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gorchuddio'r wyneb yn dod yn orfodol dan ragor o amgylchiadau yng Nghymru os bydd coronafeirws yn dechrau lledu eto, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Ar hyn o bryd, mae'n orfodol i wisgo masgiau yng Nghymru wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig.

Mae yna gyngor hefyd i bobl eu gwisgo mewn mannau cyhoeddus pan mae cadw'r rheol pellter cymdeithasol yn amhosib.

Ond mewn sesiwn holi ac ateb byw ar Facebook dywedodd Mark Drakeford na fyddai'n oedi i ymestyn hynny os oes angen.

Anghymesur - fel mae pethau'n sefyll

Dywedodd: "Fe wnawn ni wneud nhw'n orfodol mewn llefydd eraill os fydd coronafeirws yn dechrau lledu eto yng Nghymru.

"Ond ar y foment mae coronafeirws wedi ei reoli mor effeithiol a dydyn ni ddim yn meddwl fod [ymestyn y gorchymyn masgiau] yn gymesur, ac yn deg i ddweud wrth rywun 'gallwch chi ddim mynd i siop oni bai eich bod yn gwisgo un'.

"Mae llawer o bobl sydd ddim yn gyfforddus yn gwisgo gorchudd wyneb. Pobl gyda thrafferthion anadlu, er enghraifft. Neu os ydych chi'n dibynnu ar weld rhywun arall os rydych yn darllen gwefusau - mae'n anodd os mae rhywun arall yn gwisgo masg.

"Ond rydw i eisiau bod yn glir gyda phawb - os yw'r feirws yn dechrau lledu eto yng Nghymru, ac rydym yn meddwl bod e'n gywir i'w gwneud yn orfodol mewn siopau neu amgylchiadau eraill, wnawn ni ddim oedi i wneud hynny."

Mae'n orfodol i orchuddio'r wyneb mewn siopau yn Lloegr a'r Alban, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw am i hynny ddigwydd yng Nghymru hefyd.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi amheuon y byddai pobl yn rhoi llai o bwyslais ar olchi dwylo a chadw'n ddigon pell oddi wrth bobl eraill petawn ni'n gorfod gorchuddio'u hwynebau.

Ym mis Gorffennaf, fe ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton fod y dystiolaeth o blaid gwneud gwisgo masgiau'n orfodol yn "eithaf gwan".