Covid-19: Galw am fwy o gymorth i'r gymuned deithio
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gynghorau "ddatblygu'n gyflym" ffyrdd i gefnogi'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr cyn bod nifer yr achosion o Covid-19 yn cynyddu unwaith eto, yn ôl elusen.
Dywed y Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani yng Nghaerdydd fod y gymuned wedi ei tharo'n waeth gan y pandemig na'r rhan fwyaf o'r boblogaeth.
Daw'r rhybudd ar ôl i'r cwmni amlinellu ei bryderon mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru.
Byddai ail don o'r feirws yn gwneud y gymuned hyd yn oed yn fwy ynysig ac ar yr ymylon, meddai'r elusen.
Mewn llythyr at Mark Drakeford ym mis Ebrill dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Isaac Blake, y gallai'r pandemig "ddim ond gwaethygu'r rhwystrau y mae cymunedau Romani a Theithwyr yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at ysbytai a meddygfeydd".
Ychwanegodd oherwydd bod lefelau iechyd cyffredinol o fewn y gymuned yn "eithaf isel", mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn "fwy bregus".
Mae Mr Blake hefyd yn esbonio bod y mwyafrif o Roma yn byw mewn amgylchiadau ble mae mesurau pellhau cymdeithasol "yn amhosibl eu cynnal".
Mae yna bryderon hefyd y gallai addysg plant "ddioddef yn drychinebus" oherwydd diffyg mynediad at ddeunydd dysgu ar-lein, a bod y gymuned yn "hollol agored i gwymp yr economi hunan-gyflogedig".
Yn ogystal, dywed Mr Blake yn ei lythyr fod y rhai sy'n byw ar safleoedd teithwyr yn dibynnu ar docynnau maen nhw'n eu prynu gan wardeiniaid safle i gael rhai gwasanaethau sylfaenol ond "gan nad yw'r staff cyngor hyn ar y safle mwyach, mae hyn yn gadael preswylwyr gyda theuluoedd neu deithwyr oedrannus heb wres, goleuadau a dŵr".
Angen 'canllawiau clir'
Yn sgil rhybuddion bod disgwyl i nifer yr achosion godi eto dros y misoedd nesaf, dywedodd Mr Blake wrth BBC Cymru: "Roedd y gymuned wedi'i hynysu ac wedi'i hesgeuluso i raddau cyn i Covid-19 daro.
"Achosodd y don gyntaf o Covid-19 i'r gymuned dynnu'n ôl ymhellach… a'i gwneud hi'n fwy anodd i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol.
"Dim ond gwaethygu'r ynysu a'r ymyleiddio hyn fydd ail don."
Mae Mr Blake yn galw ar awdurdodau "i ddatblygu canllawiau clir yn gyflym ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar sut i weithio gyda'r gymuned deithio", gan gynnwys gwneud gwybodaeth iechyd cyhoeddus yn haws i'w gael.
Ychwanegodd: "Mae angen i awdurdodau lleol hefyd roi protocolau a systemau clir ar waith i sicrhau nad oes unrhyw beth yn digwydd i atal y gymuned sy'n byw ar safleoedd teithwyr rhag gallu cael tocynnau ar gyfer dŵr a thrydan."
'Gweithio'n agos gyda'r cymunedau'
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau "wedi ymrwymo i'w dyletswyddau cydraddoldeb a'u bod yn gweithio'n agos gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr".
Ychwanegodd llefarydd bod awdurdodau lleol yn adolygu eu trefniadau cynllunio brys ar gyfer mwy o achosion o Covid-19 yn y dyfodol "yn barhaus" a bydd y gymdeithas yn cyfeirio'r pryderon ynghylch cael gafael ar docynnau dŵr a thrydan at awdurdodau lleol "i'w hystyried fel rhan o'r broses yma".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi canllawiau i gynghorau "i helpu i ddiogelu iechyd a llesiant cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr" a'i bod yn "parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy gydol y pandemig a thu hwnt".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2019