Disgwyl canlyniadau Safon Uwch wedi addasiad hwyr

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau

Bydd miloedd o fyfyrwyr yn cael eu canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru ddydd Iau, yng nghanol newidiadau sylweddol munud olaf.

Fe gafodd arholiadau eu canslo oherwydd y pandemig a phenderfynwyd ar y graddau gan ddefnyddio dull oedd yn cynnwys amcangyfrifon gan athrawon a fformiwla oedd yn safoni canlyniadau ar draws ysgolion.

Ond mae tro pedol gan lywodraeth Yr Alban wedi sbarduno newidiadau i'r system raddio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi addo na fydd disgyblion yn cael graddau Safon Uwch is na'u graddau AS.

Daeth y penderfyniad ddydd Mercher yn dilyn cyhoeddiadau tebyg gan weinidogion yn Lloegr a'r Alban.

Sicrwydd graddau

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod am sicrhau nad oedd y newidiadau yn anfanteisiol i fyfyrwyr Cymru ac felly roedd yn addo na fyddai gradd Safon Uwch terfynol yn is na gradd AS disgybl.

"Bydd hyn yn golygu - a dwi wedi cael sicrwydd gan UCAS a phrifysgolion - y gall myfyrwyr siarad yn hyderus â'u darpar brifysgolion ynglŷn â'u graddau Safon Uwch," ychwanegodd.

Er hynny, dywedodd sawl disgybl iddyn nhw dderbyn graddau is na'r disgwyl fore Iau.

Mae Deio Owen wedi bod yn astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe gafodd raddau is na'i safon AS.

"Dwi'm yn siŵr pryd na be'... Dwi'm yn gwbod be' di'r system apêl, felly dwi'm yn gwbod be' dwi am neud rŵan.

"Dyle fo gael ei drwsio ond dwi ddim yn gwbod pryd, felly mae hyn yn peri gofid i fi rwan."

Dywedodd ei fod yn teimlo bod pobl ifanc "wedi ein hanghofio gan y llywodraeth" dros y misoedd diwethaf, a bod "dim lot o arweiniad ar sut 'da ni'n symud ymlaen i'r bennod nesa' yn ein bywydau ni".

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod colegau addysg bellach wedi cael llai o gymorth ac arweiniad nag ysgolion yn ystod cyfnod y pandemig.

Beth yw'r broblem?

Mae'r corff sy'n rheoleiddio cymwysterau eisoes wedi nodi bod y graddau sy'n cael eu hamcangyfrif yng Nghymru wedi bod yn rhy hael.

Dros y ddegawd ddiwethaf mae cyfran y graddau uchaf wedi cyrraedd rhyw chwarter, llynedd roedd tua 27%.

Ond yn ôl Cymwysterau Cymru pe bai wedi dilyn yr hyn oedd wedi ei amcangyfrif ar gyfer yr haf yma - byddai dros 40% wedi bod yn raddau A ac A*.

Roedd y ganran hon yn cael ei gweld yn "hael", felly er mwyn cadw hygrededd yr arholiadau - i gyflogwyr a phrifysgolion - ac i fod yn deg â myfyrwyr, mae'r corff wedi diwygio'r canlyniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff Coleg Merthyr Tudful yn ceisio dathlu llwyddiant myfyrwyr er yr amgylchiadau anodd

Mae'n dweud y bydd mwyafrif y myfyrwyr yn cael yr un peth â'r radd asesu wreiddiol, bydd y gweddill yn cael gradd is gyda "chyfran fach" yn cael graddau sy'n ddau neu fwy yn is na'r asesiad.

Yn ogystal mae'r corff yn dweud ei fod yn cadw llygad ar y sefyllfa i sicrhau bod yr arholiadau'n deg ymhlith grwpiau difreintiedig, a chyrhaeddiad merched a bechgyn.

Does dim bai ar unrhyw un yn ôl Cymwysterau Cymru mae'n dweud bod y sefyllfa o ganlyniad i'r "amgylchiadau eithriadol" ac nad oedd yn synnu bod rhai o'r asesiadau gan athrawon yn "optimistaidd".

Pam bod Cymru'n wahanol i'r Alban a Lloegr?

Yng Nghymru, mae 'na wahaniaethau yn y modd y mae cyrsiau Safon Uwch yn cael eu cynllunio a hefyd y data sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu ar y graddau. Hefyd, yng Nghymru, mae modd defnyddio canlyniadau arholiadau AS - sydd eisoes wedi eu sefyll - fel sail i berfformiad Safon Uwch.

Yn Yr Alban, mae'r ffrae dros israddio canlyniadau arholiadau safon uwch wedi effeithio ar 75,000 o ddisgyblion, gyda honiadau bod y dull wedi cosbi disgyblion mewn ysgolion nad oedd yn hanesyddol wedi perfformio cystal.

Mae llywodraeth Yr Alban bellach wedi addo y bydd pob disgybl yn cael y graddau oedd wedi cael eu hamcangyfrif gan eu hathrawon.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr yn yr Alban yn protestio am y dull o israddio canlyniadau arholiadau safon uwch

Yn Lloegr, mae disgyblion bellach wedi cael addewid na fydd eu canlyniadau terfynol yn is na'u harholiadau ffug - gyda'r dewis yn y system apelio o ail-eistedd yr arholiad yn yr hydref.

Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cymru a Lloegr yw y bydd disgyblion o Loegr yn gallu ail-sefyll arholiad yn yr hydref os ydyn nhw'n anhapus â'u graddau.

Nid oes arholiadau ar gyfer disgyblion Cymru fis Hydref, er bod disgwyl i'r arholiadau TGAU arferol mewn Mathemateg, Cymraeg a Saesneg gael eu cynnal fis Tachwedd.

Sut y bydd disgyblion yn derbyn eu canlyniadau?

Bydd llawer o ddisgyblion yn cael eu canlyniadau Safon Uwch, AS, BTEC a Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau ond gyda mesurau pellhau cymdeithasol a diogelwch ar waith.

Bydd ysgolion eraill yn darparu canlyniadau trwy e-bost neu alwadau ffôn.

Ond bydd y mwyafrif o ddisgyblion yn cael cyfle i wneud apwyntiadau i drafod eu canlyniadau gydag athrawon.

Yn ôl Cyngor Abertawe mae ysgolion wedi dewis rhyddhau'r canlyniadau mewn ffyrdd amrywiol gyda rhai ysgolion yn derbyn disgyblion ar adegau gwahanol er mwyn sicrhau pellter corfforol, ac eraill yn darparu'r canlyniadau ar ebyst.

Ar Ynys Môn, roedd ysgolion yn bwriadu darparu canlyniadau ar y safle gan amddiffyn iechyd a diogelwch staff a dysgwyr.

Gall fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol yn cael cadarnhad o raddau cyn eu derbyn yn swyddogol.

Oes modd apelio?

Bydd yn rhaid apelio trwy ysgol neu goleg yn hytrach na mynd yn uniongyrchol at fwrdd arholi CBAC - ac mae'n broses gyfyngedig er enghraifft y bwrdd arholi'n defnyddio'r data anghywir i bennu gradd terfynol.

Ni fydd ysgolion a cholegau yn gallu ailystyried y graddau yr oedden nhw wedi amcangyfrif yn wreiddiol ac os fydd camgymeriadau yn dod i'r amlwg yn sgil yr apêl, ni fydd disgyblion eraill yn gweld gostyngiad yn eu graddau yn ôl y bwrdd arholi.

Mae 'na bryder wedi bod am y broses safoni sy'n edrych ar ganlyniadau blaenorol ysgolion a cholegau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yng Nghymru, nid yw hyn mor berthnasol ar gyfer Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a rhai pynciau TGAU lle mae llawer o ddata blaenorol yn bodoli, fel lefelau AS.

Ond mae canlyniadau cyfartalog o 2017-19 yn cael eu hystyried wrth safoni'r rhan fwyaf o gyrsiau TGAU.

Gallai ysgolion apelio i CBAC os ydyn nhw'n credu bod amgylchiadau neu ddigwyddiadau o bwys yn y blynyddoedd blaenorol hynny fyddai'n gostwng y cyfartaledd.

Ond ni fydd disgyblion yn gallu apelio yn erbyn y graddau maen nhw wedi eu derbyn gan eu hysgol neu goleg.

Os oes gan ddisgyblion bryder ynghylch rhagfarn neu wahaniaethu, mi fydda nhw'n gallu apelio i CBAC ond mae disgwyl i'r math yma o gwyn fod yn brin.

Mae'r gweinidog wedi cyhoeddi y bydd y broses apelio yn rhad ac am ddim i bob disgybl.

Medi 17 fydd y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno cais i Gymwysterau Cymru am adolygiad, yna bydd yn rhaid i CBAC ddelio gyda'r apêl o fewn 42 diwrnod.