'Poen a gofid' wedi ymateb prifysgol i berfformiad hiliol

  • Cyhoeddwyd
Natasha Chilambo
Disgrifiad o’r llun,

Natasha Chilambo: 'Ni allwn gerdded hyd strydoedd Caerdydd heb deimlo'n anniogel'

Mae cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch y ffordd y deliodd y sefydliad â digwyddiad hiliol.

Roedd Natasha Chilambo, 25, ymhlith wyth myfyriwr du a gwynodd pan beintiodd cyd-fyfyriwr meddygol ei wyneb yn ddu a phortreadu "dyn du ystrydebol, tra-rhywioledig" mewn drama yn 2016.

Dywedodd ei bod yn teimlo'n "ynysig" a "pharanoid" yn sgil ymateb y brifysgol i'r gŵyn, tra bod cyd-fyfyriwr wedi ceisio lladd ei hun ac roedd un arall yn dweud na allai fynd i ddarlithoedd.

Dywed Prifysgol Caerdydd eu bod wedi ymddiheuro am "y boen a'r gofid a achoswyd gan y digwyddiad yma oedd wedi ei arwain gan fyfyrwyr" a'u bod wedi cynnal ymchwiliad annibynnol.

Jôcs 'hiliol, rhywiaethol a homoffobig'

Dywed Natasha, o Swindon, iddi ddioddef insomnia a methu bwyta yn sgil y digwyddiad, gan orfod gadael y brifysgol yn y pen draw a chwblhau ei hyfforddiant yn Llundain.

Roedd ymhlith wyth myfyriwr meddygol du yn nhrydedd blwyddyn Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn 2016 adeg perfformiad blynyddol elusen Anaphylaxis.

Yn y ddrama fe wnaeth un o'r myfyrwyr ddynwared unig ddarlithydd du'r ysgol, gan dduo'i wyneb a gwisgo tegan rhywiol du o amgylch ei ganol.

Roedd y ddrama hefyd yn cynnwys jôcs hiliol eraill, a rhai rhywiaethol a homoffobig.

Cwynodd yr wyth myfyriwr yn breifat i'r brifysgol fel grŵp ym mis Chwefror, a gofyn am ymddiheuriad cyhoeddus.

Cafodd y 31 myfyriwr meddygol oedd yn rhan o'r perfformiad eu gwahardd yn syth o leoliadau clinigol am dorri disgwyliadau ymddygiad y brifysgol, ond fe gawson nhw ddychwelyd maes o law.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prifysgol Caerdydd bod gwaith yn parhau i "sicrhau trawsnewidiad diwylliannol" ar draws y sefydliad

Mae BBC Cymru wedi siarad â thri o'r myfyrwyr oedd yn teimlo na ddeliodd y brifysgol gyda'r gŵyn yn addas na'u cefnogi'n briodol.

Dywed un o'r tri, sy'n dymuno aros yn ddienw, bod y brifysgol drwy ddatgan yn gyhoeddus fod wyth myfyriwr du wedi cwyno wedi datgelu, i bob pwrpas, pwy oedden nhw.

Dywedodd: "O'r 300 myfyriwr meddygol yn y flwyddyn honno, dim ond wyth oedd yn ddu. Fe wnaeth pobl ddechrau ein casáu.

"Ro'n i wedi stopio mynd i ddarlithoedd gan na allwn wynebu cwrdd neu fod mewn ystafell gyda chymaint o bobl roeddwn yn gwybod nad oedd yn fy ngwerthfawrogi neu'n grac [gyda mi] am sefyll dros yr hyn oedd yn gywir.

"Fe allai'r brifysgol fod wedi gallu gwneud llawer mwy i'n gwarchod."

Llythyron cyfrinachol

Dywed Prifysgol Caerdydd fod llythyr yr achwynwyr wedi'i rannu'n wreiddiol fel bod pawb ynghlwm â'r achos yn gweld yr holl honiadau.

Trefnodd y brifysgol i berfformwyr y ddrama ysgrifennu llythyron ymddiheuro, ond dywed yr achwynwyr y mae'r BBC wedi siarad â nhw ei bod hi ond yn bosib iddyn nhw weld [y llythyron] ar adeg ac mewn lle penodol, ar yr amod eu bod yn cadw'r cynnwys yn gyfrinachol.

Roedd yna "wahoddiad agored", medd llefarydd, iddyn nhw ddarllen y llythyron, fel rhan o broses i gefnogi'r achwynwyr a helpu adfer perthnasau ymhlith y myfyrwyr.

Ond mae'r brifysgol, meddai, yn cydnabod "methiant i ragweld dyfnder yr ymateb a'r teimlad ymhlith y myfyrwyr meddygol, ac ein bod wedi methu dylanwadu neu ymyrryd mewn ffordd a fyddai wedi atal gofid dwfn iawn a achoswyd gan dor-cyfeillgarwch a pherthynas ymhlith cyd-fyfyrwyr - pryderon a effeithiodd mor drwm ar rai aelodau o'r grŵp o achwynwyr".

Mae'r brifysgol yn mynnu eu bod wedi darparu "ystod eang o gefnogaeth" i'r achwynwyr gydol y broses, gan gynnwys help i "symud tŷ, newid lleoliad gosodiadau clinigol, cael mynediad i gwnsela a chefnogaeth".

Dywed y tri achwynydd bod yr ymateb i'w cwyn wedi amharu ar eu hiechyd meddwl.

"Ni allwn gerdded hyd strydoedd Caerdydd heb deimlo'n anniogel, heb gael panig pwy fyddwn i'n eu cyfarfod - o bosib, myfyrwyr oedd yn y ddrama," meddai Natasha.

"Ni allwn wneud hynny mwyach a bu'n rhaid imi adael yr ysgol feddygaeth."

Symudodd i Kings College, Llundain i gwblhau ei hastudiaethau. Ond mae'n dweud fod y cyfan wedi dod yn ôl iddi eleni pan ysgrifennodd Prifysgol Caerdydd ar Twitter, wedi marwolaeth George Floyd, fod "dim lle i hiliaeth ac anffafriaeth yn ein cymdeithas fodern".

Dywedodd: "Rwy'n cofio meddwl sut allwch chi wneud datganiad mor hyderus am y pwnc yma pan mae yna fyfyrwyr yna nawr ac yn y gorffennol sydd wedi dweud wrthoch chi am flynyddoedd eu bod yn wynebu hiliaeth?"

Fe'i hysgogodd i ystyried camau cyfreithiol dros ymateb y sefydliad i'w chwyn yn 2016. Mae wedi codi bron £6,000 ar wefan GoFundMe at gostau cyfreithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Natasha Chilambo y bu'n rhaid iddi gwblhau ei hastudiaethau'n Llundain

Dywed Natasha y byddai'n haws i symud ymlaen, ond mae'n dymuno gwella'r sefyllfa i fyfyrwyr du'r dyfodol.

"Rhaid creu diwylliant ble mae pobl yn atebol am weithredoedd sy'n niweidiol, ble mae modd dweud 'fe wnaethoch chi achosi niwed i mi'.

"Rhaid creu diwylliant sy'n galluogi, annog a chefnogi pobl sy'n dweud fod y pethau hyn yn anghywir, neu fel arall maen nhw'n digwydd eto a dyw hynny ddim digon da."

'Mae'r baich arnom ni i ddelio ag e'

Dywed Prifysgol Caerdydd, oedd ddim am roi cyfweliad, eu bod wedi cynnal Panel Adolygu Annibynnol i archwilio sut mae'n ymateb i rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n bodoli ymhlith myfyrwyr a staff o leiafrifoedd ethnig .

Ond dywed rhai myfyrwyr du'r brifysgol bod yna ddiffyg cefnogaeth o hyd, bedair blynedd wedi'r perfformiad.

Mae Yemi Sawyerr, 20 oed ac o Lundain wedi cwblhau ei hail flwyddyn yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd.

"O gymryd fod y brifysgol yn bennaf yn wyn, nid wyf yn meddwl fod myfyrwyr du'n cael digon o gefnogaeth," meddai."

Disgrifiad o’r llun,

Yemi Sawyerr: 'Myfyrwyr du ddim yn cael digon o gefnogaeth'

Mae'n dweud y bu'n rhaid iddi egluro, yn ystod hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth, pam fod hi'n annerbyniol i glaf fod yn hiliol tuag ati.

"Rwy'n credu fod y baich arnom ni i ddelio ag e a brwydro, yn hytrach nag ar y brifysgol."

'Dysgu llawer o wersi'

Yn gynharach eleni, fe gwynodd myfyrwyr Ysgol Ddeintyddiaeth Caerdydd mewn llythyr i'r brifysgol fod yna "ymddygiad hiliol a bias anymwybodol" gan rai staff, cyd-fyfyrwyr a chleifion.

Honnodd yr achwynwyr fod myfyrwyr du a ac o leiafrifoedd ethnig yn cael eu gwatwar ac yn destun iaith hiliol.

Mae'r brifysgol yn cydnabod methiannau wrth ymateb i gwynion am y perfformiad yn 2016, gan ddweud eu bod wedi "dysgu llawer o wersi".

Maen nhw hefyd wedi gweithredu i fynd i'r afael â materion, gan gynnwys sefydlu grŵp canolog i ymateb i achosion a sicrhau "ymateb cyson i gwynion o hiliaeth".

Dywedodd llefarydd: "Cymerodd yr Is-Ganghellor gam digynsail wrth gomisiynu panel arbenigol annibynnol i adolygu'r cwestiwn o hiliaeth o fewn y sefydliad. Cafodd y panel fynediad hollol agored i'r holl wybodaeth oedd ar gael a chefnogaeth i holi staff a myfyrwyr.

"Cafodd adroddiad annibynnol ei gyhoeddi gyda chyfres o argymhellion a dderbyniwyd yn llawn a'u gweithredu, dan arweiniad aelod staff neilltuol sy'n atebol i'r Dirprwy Is-Ganghellor.

"Mae'r materion hiliaeth a godwyd gan y digwyddiad yn cael eu cymryd gyda'r difrifoldeb eithaf ac ar lefel uchaf y sefydliad wrth i ni weithio i sicrhau trawsnewidiad diwylliannol ar draws y brifysgol."