500 limrig Heddwyn Jones i Bore Cothi

  • Cyhoeddwyd
Heddwyn JonesFfynhonnell y llun, Heddwyn Jones

Bob bore Llun a Gwener ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru, mae Shân yn gosod llinell gyntaf limrig, ac yn herio'i gwrandawyr i orffen y bennill.

Mae nifer o bobl yn anfon eu hymgeisiadau i mewn, ond mae hi'n anhebygol fod yr un ymgeisydd mor doreithiog â Heddwyn Jones, sydd newydd gynnig ei 500fed limrig i'r rhaglen!

Ei ddathliad pen-blwydd priodas gyda'i wraig, Delyth, oedd yr ysbrydoliaeth i'r limrig gyntaf, meddai Heddwyn, sy'n enedigol o Rydymain ger Dolgellau, ond yn byw yn Nwygyfylchi ers iddo ymddeol o'r heddlu:

"O'dden ni wedi bod mewn gwesty dros nos i ddathlu pen-blwydd ein priodas 57 mlynedd ar y nos Sul. A glywais i'r linell gynta' gan Shân ar y bore Llun, a sgrifennu limrig:

Mae'n fore dydd Llun unwaith eto

Penwythnos anhygoel aeth heibio;

Wrth ddathlu pen blwydd

Ein priodas mor rhwydd,

Ymlacio yn awr a dadflino."

Dysgu wrth farddoni

Roedd hynny ym mis Medi 2013, a saith mlynedd a 500 limrig yn ddiweddarach, mae Heddwyn, sy'n 89 oed, dal wrthi, ac wedi dod yn dipyn o fardd.

Ond roedd ganddo dipyn i'w ddysgu ar y dechrau, meddai:

"O'n i erioed wedi sgwennu limrig cyn i mi ddechrau eu hanfon at Bore Cothi - o'n i'n gwybod beth oedd o, wrth gwrs, ond ddim yn berffaith.

"Fues i'n eu gyrru nhw i mewn am rhyw dair blynedd. O'dd 'na gyfyrder i mi, Ieuan James, sydd yn gynganeddwr ardderchog, yn clywed y rhai o'n i'n eu sgwennu, a dweud bod 'na wall bach, bob amser, yn y llinell ola'. Mae eisiau odl fewnol yn y llinell ola', i odli efo'r trydydd a'r pedwerydd llinell, meddai.

"Felly dysgais i'r wers, a rŵan bydda i'n trio'u gwneud nhw mor agos i berffaith ag y galla i.

"Do'n i ddim wedi bod yn un am farddoni, ond dwi wrth fy modd rŵan. Dim ond limrigau fydda i'n eu gwneud - dydw i ddim yn gallu gwneud pen na chynffon o englynion!"

Mae ei limrig sydd yn deyrnged i'r limrig, yn dangos gymaint mae Heddwyn yn eu mwynhau!

Hen fesur bach da ydyw'r limrig

I'w ffurfio mae'n nghadw fi'n ddiddig;

Wrth feddwl am eiriau

Yn ôl y rheolau

A rheini yn odlau deheuig.

Ysbrydoliaeth ym mhobman

Mae Heddwyn wedi cadw cofnod o bob un o'i limrigau, ac mae wedi ysgrifennu am ystod eang o bynciau, dros y blynyddoedd:

Rygbi...

Bore Sul bydd pawb yn gweddïo

Bydd rhywun yn rhywle yn curo;

Canys sôn ydwyf fi

Am ein Cymru bach ni

Yn chwarae Awstralia - a'i 'sgubo.

Y tywydd…

Yn sydyn daeth clatshen o daran

Bron union 'run amser â'r felltan;

Mor agos yr oedd hon

I wneud difrod o'r bron,

A drwg yw'r arwyddion sy'n begian.

A'i ddyhead am fywyd cyfforddus…!

Fe hoffwn gael bywyd mwy moethus

Ac eistedd mewn cadair gyfforddus,

I wrando yn astud

Am oriau heb symud,

Ar ganu sy'n hud a moliannus.

Canu clodydd

Mae Heddwyn wedi cyfansoddi limrig yn arbennig i nifer o enwogion gwahanol dros y blynyddoedd, fel Aled Hughes, ar ddiwedd ei daith feics yn 2017 i godi arian i Plant mewn Angen, a Dai Jones, afyddai siŵr o fod wedi siomi eleni oherwydd fod y Sioe Fawr wedi ei chanslo.

Ond, wrth gwrs, Shân Cothi ei hun sydd yn ymddangos amlaf yn ei limrigau, fel yr un yma ganddo:

Cothi ddychwelodd ar ôl teithio

I ail ddechrau'r rhaglen o'r stiwdio;

Mae pawb yn gytûn

Na hi yw yr un

I blesio pob Cymro sy'n gwrando.

Mae ambell i limrig arall yn llawer mwy doniol, ond yn ffodus, mae hi'n gwerthawrogi'r jôc, ac yn "chwerthin o'i chalon" pan mae'n eu darllen i'r genedl, meddai.

Mae Cothi yn dwli ar fwyta

Ac ambell i dro ar ddiota;

Mae'n hoff o Won Ton

A gwin Sauvingon

Ond stêc a gwin coch sy'n dod gynta'.

"Fi 'di'r cocyn hitio yn aml..."

A beth mae Shân ei hun yn ei feddwl o'r holl limrigau sydd yn cael eu cynnig?

"Achos bo' nhw mor dda 'da'r gwrandawyr, dwi'n teimlo bod e'n fraint cal eu darllen," meddai. "Ma'r gwrandawyr yn edrych mla'n i dderbyn y linell agoriadol ddwy waith yr w'thnos a mor driw i'r her o'u cyflawni!

"Ma' fe'n ymdrech, a does 'na ddim gwobr! Dim ond y clod, y parch a'r bri o gael eu clywed ar Bore Cothi a finne'n cal hwyl yn eu darllen!

"Dydw i ddim yn feuryn o bell ffordd ond mae'n hyfryd i gal laff 'da'r gwrandawyr ac ma' ambell i gynnig yn go goch!

"Fi 'di'r cocyn hitio yn aml, ond dwi siŵr o fod yn haeddu'r stick!

Ffynhonnell y llun, Shân Cothi

"Mae limrigau Heddwyn wastad yn gywrain a doeth fel ei gyd-limrigwr Ieuan James o Ddolgellau - sy' wastad yn herio'i gilydd mewn cystadleuaeth iach.

"Diolch o galon i ti Heddwyn am dy ymroddiad a phan fyddi di'n cyhoeddi y llyfryn bach o limrigau rhyw ddydd, cofia amdano ni gyd ar Bore Cothi!"

Efallai nad oes yna gyfrol ar y gweill eto, ond does yna ddim sôn o gwbl am Heddwyn yn arafu ei farddoni. Mae'n edrych ymlaen bob dydd Llun a Gwener i glywed y llinell gyntaf gan Shân, ac i weithio ar limrig newydd.

Er dweud hynny, nid yw wedi bod heb ei gwyn dros y blynyddoedd, fel mae Heddwyn yn ei gofio...

"Roedd ganddyn nhw hen fiwsig yn y cefndir o hyd, tra oedd hi'n darllen y limrigau, felly nes i gwyn iddi:

Oes modd rhoi y gorau i'r miwsig

Pan ydych yn darllen sawl limrig;

Nid pob gair sy'n swnio

Yn glir ac yn gryno,

I lawer sy'n gwrando mor eiddig.

"Gafodd hi laff iawn efo hwnna. Drodd hi'r gerddoriaeth i lawr wedyn!"

Llongyfarchiadau Heddwyn - ymlaen i'r 500 nesa'!

Hefyd o ddiddordeb: