Beirniadaeth i alwad AS i'r Fyddin atal teithiau mudwyr

  • Cyhoeddwyd
Ymfudwyr ger Dover ar 7 Awst
Disgrifiad o’r llun,

Cwch ag arni 17 o bobl oddi ar arfordir Dover ddechrau Awst

Mae cyfreithwyr sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth mewnfudo wedi beirniadu sylwadau AS Ceidwadol Wrecsam ynghylch mudwyr sy'n croesi Môr Udd i gyrraedd y DU.

Awgrymodd Sarah Atherton ar y cyfryngau cymdeithasol y dylid defnyddio'r Fyddin i ddod â'r teithiau "annerbyniol" i ben.

Ond mae rhai wedi disgrifio'i datganiad fel un "camarweiniol" sy'n amlygu anwybodaeth "syfrdanol".

Dywedodd Ms Atherton ei bod yn parchu pobl sydd ddim yn rhannu'r un farn â hi.

Mae nifer y bobl sy'n croesi'r Sianel yn y gobaith o gyrraedd y DU wedi cynyddu'n ddiweddar, gan aildanio'r ddadl dros sut y dylid ymateb.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, fe gyrhaeddodd o leiaf 235 o bobl ar 6 Awst, gan osod record newydd.

'Mae'n bryd paru geiriau llym â gweithredu llym'

Ysgrifennodd Ms Atherton ar Twitter: "Yr hyn rydym yn ei weld ar raddfa anferthol gyda'r cychod yn croesi'r Sianel yw... mudwyr anghyfreithlon a gangiau masnachu pobl, yn hollol amlwg, yn torri ein deddf mewnfudo."

Ychwanegodd Ms Atherton, a gafodd ei hethol i'r Senedd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr: "Dylai Lluoedd Ffiniau'r DU dderbyn pa bynnag gymorth sydd angen gan Luoedd Arfog EM yn hyn o beth.

"Mae'n bryd i baru geiriau llym â gweithredu llym er mwyn adfer tegwch i'n system mewnfudo, a gallai etholwyr Wrecsam wybod yn sicr fod hon yn lywodraeth sydd o'r diwedd yn cymryd pryderon mewnfudo o ddifri'."

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Mae sylwadau Ms Atherton yn "ddideimlad" ac "anwybodus" yn ôl rhai o'r ymatebion ar Twitter

Honnodd Ms Atherton hefyd fod "fframwaith cyfreithiol oherwydd ein haelodaeth flaenorol o'r UE" yn gwneud delio â'r sefyllfa'n fwy anodd.

Ychwanegodd: "Mae'r fframwaith yma'n rhoi grym gormodol yn nwylo cyfreithwyr hawliau dynol anatebol sydd ddim yn poeni am les gorau ein gwlad."

Mewn ymateb, dywedodd Dan Sohege, cyfarwyddwr y grŵp hawliau dynol Stand for All, fod Ms Atherton "yn chwarae gemau gwleidyddol gyda bywydau pobl" ac yn arddangos "lefel syfrdanol o anwybodaeth".

"Nid yn unig yw ei llythyr yn llawn gwallau, ond byddai ei hawgrymiadau ei hun yn achosi'r DU i dorri egwyddorion sylfaenol deddfwriaeth hawliau dynol."

Ychwanegodd y byddai hynny'n "arwain at gamau cyfreithiol rhyngwladol yn erbyn y DU ar adeg pan mae'n ceisio profi y gallai fod yn rhan o'r gymuned ryngwladol ehangach heb fod yn aelod o'r UE".

'Camarweiniol, anghywir, gwrthgynhyrchiol'

Dywedodd Colin Yeo, bargyfreithiwr sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth mewnfudo, fod angen "dwys ystyried sut i atal pobl rhag peryglu eu bywydau fel hyn".

"Mae cyfraniadau camarweiniol fel hyn, sydd yn anghywir yn nhermau cyfreithiol, yn wrthgynhyrchiol," meddai.

Mae tîm pêl-droed cymunedol yn Wrecsam, CPD Bellevue, hefyd wedi beirniadu'r sylwadau.

Dywed y clwb, sy'n dod ag ymfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches at ei gilydd, fod Ms Atherton "ddim yn siarad ar ran" Wrecsam.

'Ecsploetio pobl fregus'

Mewn ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Ms Atherton: "Rwy'n gwerthfawrogi fod hwn yn fater cynhyrfiol a fydd pawb ddim yn rhannu'r un farn, sy'n cael ei barchu.

"Fel AS rwyf yn aml yn helpu pobl yn Wrecsam sy'n ceisio lloches.

"Fodd bynnag mae'r hyn rydym yn ei weld yn y Sianel fawr fwy na phobl fregus yn cael eu hecsploetio gan fasnachwyr pobl ac arweinwyr gangiau.

"Naw mis yn ôl, fe bleidleisiodd pobl Wrecsam yn ddigamsyniol o blaid polisi mewnfudo'r Ceidwadwyr a rhoi diwedd ar system ddrws agored y DU.

"Yr hyn sy'n cael ei gyflwyno rŵan yw system mewnfudo synhwyrol ar sail pwyntiau fel yn Awstralia, sy'n sicrhau fod ceiswyr lloches cyfreithlon, sy'n ffoi rhag cael eu herlid, yn gallu dod yma'n ddiogel i fyw a gweithio.

"Yr hyn rydym yn ei weld yw camddefnydd o'r system, sy'n creu rhwystrau i bobl sydd wir angen lloches."