Angen newid agweddau i ddenu mwy o bobl BAME i'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
swyddogion heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau'r ONS ar gyfer 2019-20 yn dangos faint o amrywiaeth ethnig sydd yn lluoedd heddlu Cymru

Mae pobl o gymunedau BAME (Black, Asian & Minority Ethnic) yn amharod i ymuno â'r heddlu oherwydd drwgdybiaeth a gwahaniaethau diwylliannol sylfaenol.

Dyna farn un person o gefndir BAME sydd wedi cael ei stopio gan yr heddlu sawl gwaith heb "reswm dilys".

Daw ei sylwadau wrth i ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gael eu cyhoeddi.

O'r 6,999 o swyddogion sy'n gweithio yn y pedwar llu heddlu yng Nghymru, dim ond 128 (1.82%) sy'n dod o gefndiroedd BAME yn ôl ffigyrau.

Mae hyn yn is na'r gyfran o'r boblogaeth - 5.9% - sy'n ystyried eu hunain yn rhan o'r gymuned BAME, er fod y ffigwr hwnnw'n amrywio o ardal i ardal, gyda 19.8% yng Nghaerdydd a 1.7% yn Wrecsam.

Yn ôl ffigyrau'r ONS dim ond dau berson o gefndir BAME wnaeth ymuno â Heddlu'r Gogledd, Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent yn 2019-20, gyda saith yn ymaelodi â Heddlu'r De.

Mae Leena Farhat o Aberystwyth yn swyddog amrywiaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae'n credu bod angen goresgyn nifer o broblemau diwylliannol er mwyn annog mwy o bobl o gefndiroedd BAME i ymuno â'r heddlu.

Dywed Ms Farhat ei bod wedi cael ei stopio gan yr heddlu dair gwaith ers symud i Aberystwyth bedair blynedd yn ôl, a "byth am reswm dilys".

"O oedran ifanc mae pobl yn cael eu dysgu mewn ysgolion i "siarad efo'r heddlu os yw rhywbeth ddim yn iawn", ond byddai rhieni BAME yn dweud wrth eu plentyn i beidio ymddiried ynddyn nhw.

"Pam fuasech chi am ymuno â llu o bobl yr ydych yn cael eich dysgu i fod yn ddrwgdybus ohonynt?

"Mae 'na raniad diwylliannol sydd i'w weld yn y nifer o bobl [o gefndir BAME] sy'n ymuno â'r heddlu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leena Farhat isio gweld lluoedd heddlu Cymru'n gwneud mwy i adeiladu ymddiriedaeth

Yn Heddlu De Cymru mae 0.19% (chwe swyddog) yn cyfrif eu hunain yn ddu, 2.6% yn BAME a 96.6% fel pobl wyn.

Mae'r ffigyrau hefyd yn datgelu mai dim ond pedair swyddog benywaidd o'r cefndiroedd hyn sydd wedi cyrraedd rheng uwch na chwnstabl yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ms Farhat iddi gael ei stopio ar hap dair gwaith "a byth gyda rheswm dilys" ers symud i Aberystwyth yn 2016

Yn wreiddiol o'r Swisdir, mae tad Ms Farhat o gefndir Arabaidd a'i mam o ynys Mawrisiws.

"Ers dod i Gymru rwyf wedi cael fy stopio ar hap dair gwaith a byth am reswm dilys," meddai.

"Mae pobl yn datblygu drwgdybiaeth o'r heddlu, yn meddwl eu bod yn ceisio'u tanseilio, ac nad ydyn nhw'n malio am bobl sy'n edrych fel nhw."

Daeth y digwyddiad diweddaraf i ran Ms Farhat, ar noson yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl iddi fod yn stiwdios S4C yng Nghaerfyrddin.

Gadawodd y stiwdio am 06:00 i geisio dal bws i Aberystwyth.

"Roedd gen i got fawr amdanaf a chlustffonau, a daeth dau swyddog ataf i holi am achos o fwrgleriaeth," meddai.

"Fe edrychon nhw trwy fy mag a gofynnwyd i mi fynd i orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin. Pan wrthodais, dywedwyd wrthyf fynd i'r orsaf yn Aberystwyth.

"Ro'n i yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir, ond roedd menyw arall ddim yn bell tu ôl i mi a chafodd hi mo'i stopio."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ddu naw gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u harchwilio na phobl wyn yn ôl ffigyrau llywodraeth y DU

Roedd pobl croenddu yn wynebu digwyddiadau fel hyn yn ddyddiol, meddai, ond nid oedd pobl wyn yn sylweddoli eu bod yn digwydd, a dyna oedd yn chwalu ymddiriedaeth ac yn rhwystro mwy rhag ymuno â'r heddlu, yn ôl Ms Farhat.

Roedd y goblygiadau'n bell-gyrhaeddol, meddai, gyda phobl yn osgoi achwyn am ddigwyddiadau hiliol rhag ofn iddynt beidio cael eu cymryd o ddifrif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Farhat yn galw am drafodaeth ar y mater yn y Senedd, er nad yw plismon'n bwnc wedi ei ddatganoli

Er nad yw'r heddlu a phlismona yn bynciau sydd wedi cael eu datganoli yng Nghymru, mae Ms Farhat yn credu bod angen newid safbwyntiau diwylliannol, a dylai'r Senedd drafod y mater.

Dywedodd y Comisiynydd Cydraddoldeb Joyce Watson fod angen trafod y pwnc.

"Mi fuasai'n well gennyf weld hyn yn cael ei drafod gyda dyfnder meddwl - nid dim ond gyda datganiadau gwleidyddol ond trwy archwilio'r rhesymau a sicrhau gwelliant," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Rydym yn cydnabod ac yn gweld gwerth yn y gwahaniaethau unigryw sydd rhwng unigolion ac rydym am weld Heddlu De Cymru'n parhau i ddatblygu fel corff sy'n cynrychioli ac yn adlewyrchu ein cymunedau.

"Tra'n bod ni wedi gwneud cynnydd, rydym yn derbyn fod gennym waith i'w wneud o hyd, ond rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae heddluoedd Cymru'n ceisio gwella'r amrywiaeth ethnig o fewn eu rhengoedd

Mae gan Heddlu Gwent 50 o wahanol staff sy'n ystyried eu hunain o gefndiroedd BAME - 29 o swyddogion, 10 o staff heddlu, chwe swyddog cefnogol cymunedol, a phum cwnstabl arbennig.

"Rydym wedi cymryd y cyfle yn ddiweddar i siarad gyda phobl o fewn y llu sy'n cyfrif eu hunain yn BAME er mwyn ceisio gweld pa gefnogaeth a chyfleon y gallwn gynnig i'w helpu yn eu gyrfaoedd gyda'r heddlu," meddai'r prif gwnstabl Pam Kelly.

Yn Heddlu'r Gogledd mae 17 o swyddogion (1.06%) o gefndiroedd BAME, gyda dwy yn fenywod, a thri wedi cael eu penodi ers i ffigyrau'r ONS gael eu casglu.

Dywedodd Greg George, ar ran Heddlu'r Gogledd fod amrywiaeth yn gwella ymhlith y staff. Ond roedd dipyn o ffordd i fynd, meddai, ac roeddynt yn gweithio tuag at hynny.