Apêl i ymwelwyr gadw draw o ardal rhaeadrau poblogaidd

  • Cyhoeddwyd
Rhaeadrau yn ardal PontneddfechanFfynhonnell y llun, Geograph/Chris Shaw

Mae Heddlu Dyfed-Powys a swyddogion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhybuddio ymwelwyr i gadw draw o ardal o gwmpas Pontneddfechan.

Mae'r ardal yn adnabyddus iawn am ei phistylloedd prydferth, ond yn ôl pobl leol mae gormod o bobl yn dod i'r ardal ac yn achosi tensiynau gyda thrigolion.

Mae'r awdurdodau yn poeni gymaint am benwythnos Gŵyl y Banc fel eu bod yn cynghori pobl yn uniongyrchol i beidio ymweld â'r ardal.

Yn ôl yr Arolygydd Gwyndaf Bowen o Heddlu Dyfed-Powys, mae'r ardal yn gweld gormod o ymwelwyr ers i'r cyfyngiadau teithio gael eu llacio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r twf yn nifer yr ymwelwyr yn arwain at sawl problem, medd yr Arolygydd Gwyndaf Bowen

"Ers i'r rheolau dod i ben, 'da ni wedi gweld...tair gwaith mwy 'na beth sydd efo ni fel arfer, a mae hynny wedi creu problem mawr," meddai.

"Mae parcio wedi bod yn broblem, mae plant wedi mynd ar goll efo ni ac wedyn mae rhaid i ni rhoi lot o swyddogion i mewn i'r ardal i sortio hynna allan.

Mae gan yr heddlu neges glir i bobl sy'n ystyried ymweld â'r ardal.

"Am y penwythnos hyn mae'n well aros adre," meddai. "Bydd 'na nifer o bobl yma, fydd dim lle i barcio o gwbl. Mae'r heddlu yn dweud a mae'r parciau cenedlaethol yn dweud bod well aros o yma jest rhag ofn."

Mae Richard Tyler yn gweithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

"Da ni'n dwlu ar weld pobl yn dod mas i'r wlad yn mwynhau ei hun," meddai, "ond mae e wedi rhoi pwysau mawr ar y system.

"Mae pobl yn dod yma gyda nifer o geir gwahanol o fewn yr un teulu. Lle bydden ni wedi gweld un car, rydyn ni'n gweld tri neu pedwar car yn dod i'n meysydd parcio."

"Y broblem yw bod y lonydd yma yn gul iawn iawn… os ma' dau car yn cwrdd mae'n achosi problemau mawr achos does 'na ddim lot o lefydd i basio ceir eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Trafferthion parcio ar lonydd cul ardal rhaeadrau Ponetneddfechan

Yn ôl Mr Tyler roedd pob un o'r meysydd parcio yn yr ardal yn llawn dop erbyn 10:00 bore Gwener, a hynny er nad oedd y tywydd yn braf. Mae'n poeni'n arw am sut all bethau fod dros penwythnos Gŵyl y Banc os yw'r tywydd yn braf.

"Da ni'n bryderus iawn dros y penwythnos yma. Da ni'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau i gyd...bydd 80 staff ychwanegol yn gweithio i geisio helpu'r sefyllfa.

"Penwythnos diwethaf roedd rhaid i ni droi pobl eraill i ffwrdd ger Penderyn achos roedd gormod o bobl yma yn gynnar iawn."