Tynnu enw gweithiwr oddi ar y gofrestr gofal

  • Cyhoeddwyd
AppFfynhonnell y llun, Reuters

Mae enw gweithiwr gofal oedd wedi tynnu llun o ben ôl cydweithiwr wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr.

Wrth dynnu'r llun fe ddywedodd Ian Jayne ei bod yn "olygfa hyfryd", a'i anfon i gydweithwyr eraill ar What'sApp cyn ei ddileu wedi i'r ddynes gwyno.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe aeth Jayne at y ddynes eto tra roedd y ddau yn y cartref gofal, cyn gafael yn ei choesau a gwthio ei hun ati gan ddweud "fe fyddwn wrth fy modd yn gwneud hyn i ti".

Wedi'r digwyddiad cyntaf, dywedodd y ddynes - oedd wedi bod yn gweithio yn y lleoliad am dair wythnos yn unig - wrtho: "Os nei di hynny eto fe wnai dy ddyrnu yn dy wyneb." Dywedodd hi ei fod wedi cerdded i ffwrdd gan chwerthin.

Cafodd Jayne, oedd yn weithiwr gofal ar y gofrestr gweithwyr gofal ers 2016, ei ddiswyddo yn dilyn ymchwiliad gan Specialist Intervention Care Services (SICS), perchnogion y cartref gofal, Griffin House yng Nglyn Ebwy.

Mae'r cartref yn cynnig gofal i bobl ifanc bregus gydag anghenion ymddygiad arbennig.

Dau gyhuddiad

Clywodd Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru, lle'r oedd Jayne yn wynebu dau gyhuddiad, fod y ddynes oedd yn cael ei adnabod fel 'Cydweithiwr A' wedi ei chynhyrfu pan welodd y llun yr oedd Jayne wedi ei rannu.

Pan gafodd ei holi am y digwyddiad, dywedodd ei fod yn ffilmio fideo o'r bobl ifanc ond fe stopiodd pan symudodd y ddynes i'r golwg.

Mewn datganiad diweddarach fe ddywedodd: "Fe wnes i ffilmio'r fideo gyda'r bwriad gorau ac ar y pryd nid oeddwn yn meddwl y byddai rhywun yn cael eu tramgwyddo ganddo. Ond pan esboniwyd i mi y gallai fy nghydweithiwr fod wedi ei thramgwyddo fe wnes i gael gwared ohono yn syth."

Nid oedd Jayne yn y gwrandawiad oedd wedi ei gynnal dros gyswllt fideo, ond mewn datganiad fe ddywedodd nad oedd y digwyddiad wedi digwydd o gwbl.

Fe wnaeth y pwyllgor dderbyn yr honiad yn ei erbyn gan ddweud fod Jayne wedi bod yn "ymosodol" a bod cymhelliad rhywiol i'r digwyddiad.

Dywedodd y pwyllgor nad oedd Jayne wedi dangos unrhyw edifeirwch nac wedi ddeall difrifoldeb ei weithredoedd.

Gan orchymyn i'w enw gael ei dynnu oddi ar y gofrestr yn syth, dywedodd y pwyllgor: "Yn ein barn ni mae'n dangos risg tebyg i gydweithwyr ag unigolion bregus lle y gall weithio gyda nhw yn y dyfodol ac lle byddai ganddo ddyletswydd gofal."