'Gwell siawns o osgoi taro cynghorydd trwy arafu'

  • Cyhoeddwyd
Paul JamesFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r cynghorydd Plaid Cymru, Paul James fis Ebrill y llynedd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth cynghorydd ar gyrion Aberystwyth wedi dweud wrth lys y gallai fod wedi'i osgoi pe byddai wedi bod yn gyrru'n fwy araf.

Mynnodd Christopher Jones, 40 oed o Bontarfynach, ei fod wedi arafu i tua 40 mya gan fod yr haul yn ei lygaid.

Mae Mr Jones a gyrrwr arall, Lowri Powell, 44, o Benrhyn-coch, yn gwadu achosi marwolaeth Paul James, trwy yrru'n ddiofal, gan ddweud na welon nhw Mr James am fod yr haul mor llachar.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu achos marwolaeth trwy yrru'n ddiofal ac mae'r achos yn parhau.

Cafodd y cynghorydd 61 oed ei daro oddi ar ei feic i'r ffordd gan ddrych car Ms Powell, cyn i gar Mr Jones ei daro a'i lusgo ar yr A487 rhwng Commins Coch a Waunfawr.

Brecio'n galed

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mr Jones wedi gweithio fel gyrrwr tacsi yng Ngheredigion yn y gorffennol, a gyrru is-gapten bataliwn yn ystod cyfnod gyda'r Fyddin Diriogaethol.

Roedd ei wraig a'u tri phlentyn yn ei Vauxhall Vectra pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 11 Ebrill y llynedd.

"Fe wnaeth yr haul fy nallu," dywedodd wrth y rheithgor. "Sylwais ar siaced felen high-vis yng nghornel chwith y bonet ac yna glywais bang."

Dywedodd iddo frecio'n galed a gadael y car i weld be roedd wedi'i daro.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddau ddiffynnydd - Christopher Jones a Lowri Powell

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr ei hun, dywedodd Mr Jones na fyddai wedi bod yn bosib osgoi'r gwrthdrawiad.

Wrth ei groesholi ar ran yr erlyniad, gofynnodd Jim Davis a oedd yn cofio gweld Ford Galaxy Ms Powell ar y ffordd o'i flaen, ac atebodd bod y cyfan yn frithgof.

Awgrymodd Mr Davis wedyn: "Pe tasech chi wedi bod yn mynd yn arafach, byddech chi wedi bod â gwell siawns o'i osgoi, oni ddim?"

"Byddwn," atebodd Mr Jones.

Mae Ms Powell eisoes wedi disgrifio effaith yr haul ar yr hyn roedd yn ei weld ar y pryd, a'i bod wedi fferru pan welodd Mr James ar y ffordd dan gerbyd Mr Jones.

Mynnodd y byddai wedi gwyro i'w osgoi petasai wedi'i weld.

Barn yr arbenigwyr

Yn ei araith gloi ar ran yr erlyniad, dywedodd Mr Davis wrth y rheithgor fod arbenigwyr yn anghytuno â haeriadau'n diffynyddion nad oedden nhw'n gallu gweld Mr James a'i siaced lachar.

"Mae'n ddamcaniaeth ddiddorol ond nid yw'n cael ei gefnogi gan unrhyw un o'r arbenigwyr yn yr achos," dywedodd.

"Chwaraeodd y ddau ohonyn nhw ran ym marwolaeth Paul James."

Doedd Ms Powell ddim yn canolbwyntio digon ar y ffordd, meddai, ac roedd Mr Jones yn gwybod am botensial haul llachar ar yr A487 a'r posibilrwydd y byddai 'na seiclwyr ar y ffordd.

"Ond ar y diwrnod hwn, yn anffodus, ni roddodd y wybodaeth a'r profiad hwnnw ar waith," meddai.

Mae bargyfreithwyr y ddau ddiffynnydd hefyd wedi rhoi areithiau cloi i'r llys.

Cyfeiriodd bargyfreithiwr Lowri Powell, Virginia Hayton at dystiolaeth arbenigwr, David Winstanley, oedd wedi archwilio'r ddau gerbyd.

Dywedodd yntau y byddai adlewyrchiad dashfwrdd yn ffenestri blaen y cerbydau wedi creu effaith debyg i lewyrch yr haul.

Yn ôl Dyfed Thomas, ar ran Christopher Jones, "damwain" oedd yr achos yma, a bod yr erlyniad yn ceisio darbwyllo'r rheithgor y dylai'r diffynnydd wedi gwneud rhywbeth yn wahanol.

Fe wnaeth y ddau fargyfreithiwr atgoffa'r rheithgor nad oedd yr arbenigwyr yn y fan a'r lle ddiwrnod y farwolaeth, a bod yr unig dyst wedi datgan "na chafodd amser i frecio".

Mae'r rheithgor wedi cael eu danfon adref am y penwythnos ac mae disgwyl i'r barnwr grynhoi'r achos ddydd Llun.