Angen gwaith i glirio camlas hanesyddol Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
Camlas Aberhonddu a Sir FynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gamlas wedi rhedeg o Aberhonddu i Gasnewydd am dros 200 mlynedd

Mae ymgyrchwyr yn mynnu bod swyddogion yn gweithredu i adfer rhan o gamlas hanesyddol.

Maen nhw'n dweud nad oes modd defnyddio rhan dri chwarter milltir o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i'r gogledd o Gwmbrân bellach.

Dywedodd datblygwr tai y byddai'n cytuno i dalu am waredu malurion sy'n rhwystro'r gamlas yn agos at bont sydd newydd gael ei chodi.

Ond mae angen mwy o waith ar weddill y rhan yna sy'n anelu tuag at Gwmbrân.

Yn ôl cefnogwyr y gamlas, Cyngor Torfaen sy'n gyfrifol am y rhan yna ohoni, gan eu cyhuddo o lusgo'u traed dros y gwaith.

Fe wnaeth yr awdurdod gydnabod fod chwyn yn broblem, ond ei fod wedi sicrhau gwerth £2m o grantiau ar gyfer gwelliannau i'r gamlas.

Ffynhonnell y llun, Mark Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwyn a malurion yn golygu nad yw cychod yn medru teithio ar hyd rhan o'r gamlas

Fe ddywed defnyddwyr ei bod yn ddwy flynedd ers i gychod fedru pasio drwy'r ardal i gyrraedd pen pella'r gamlas tua milltir y tu allan i Gwmbrân.

Maen nhw hefyd yn dweud y gallai chwyn gael eu dal yn llafnau gwthio'r cychod, gan eu gadael gyda chostau trwsio sylweddol.

'Dw'r cyngor ddim i weld yn brysio'

Un sy'n berchen cwch yw Ruth Kedward, a dywedodd ei bod yn dechrau colli amynedd.

"Yr hira' bydd hwn yn cael ei adael, y gwaetha' fydd e," meddai.

"Ers i'r rhwystr ymddangos [yn y gamlas] dyw'r cyngor ddim i weld yn brysio i'w hailagor."

Cafodd y gamlas ei hadeiladu tua diwedd y 18fed ganrif er mwyn cludo glo i Afon Gwy a haearn o Gasnewydd.

Ar ôl cau yn swyddogol yn 1962, fe ddechreuodd y gwaith o'i hadfer yn 1968, gyda'r rhan ddiweddaraf yn ailagor yn 1997.

Dywedodd cwmni adeiladu Taylor Wimpey eu bod am weithredu yn dilyn cyfarfod gyda'r cyngor a thrigolion am y bont newydd yn Bevan's Lane ger Sebastopol.

Dywedodd swyddog o'r cwmni: "Wedi'r cyfarfod rydym yn y broses o sicrhau contractwr i sicrhau bod y rhan yma o'r gamlas yn cael ei chlirio cyn gynted â phosib."

'Gwarthus'

Ond dywedodd Mark Sullivan - ymgyrchydd sy'n byw yn lleol - bod diffyg gweithredu'r cyngor i glirio'r chwyn islaw Bevan's Lane yn "warthus".

"Yn anffodus mae'n ymddangos nad oes gan Gyngor Torfaen ddim diddordeb mewn cynnal a chadw rhywbeth sy'n gyfrifoldeb iddyn nhw," meddai.

"Mae'r gamlas o bwysigrwydd hanesyddol, ac mae angen gofalu amdani ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol... mae'n adnodd i'r ardal yma ac i Gymru."

Mae Mr Sullivan ac eraill yn bwriadu dangos cryfder eu teimladau drwy fynd â chychod i lawr at y bont ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Mark Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Mae problemau ymhellach i lawr y gamlas gyda chwyn a brigau'n ei rhwystro

Wrth ymateb i'r honiadau, fe wnaeth swyddogion Cyngor Torfaen gadarnhau y byddai Taylor Wimpey yn gwneud peth gwaith carthu ger Bevan's Lane "er mwyn sicrhau bod bodd mynd drwyddi".

Fe wnaethon nhw hefyd ddweud fod gwaith carthu gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ar rannau eraill o'r gamlas yn golygu bod lefelau'r dŵr "yn addas i'w mordwyo".

Ond roedden nhw hefyd yn cydnabod bod chwyn yn broblem yn y darn o'r gamlas dan sylw.

Dywedodd llefarydd: "Mae angen trafodaethau pellach cyn y byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau y bydd y cyngor yn torri chwyn yn y darn yma."