'Angen cadw pellter er mwyn osgoi cyfnod clo llym arall'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Caerffili yn cael eu rhybuddio i gadw at y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach yn dilyn cynnydd mewn achosion cornafeirws.
Daw sylwadau aelod Caerffili o'r Senedd, Hefin David, wedi i 56 o achosion gael eu cofnodi yn yr wythnos ddiwethaf - y nifer uchaf yng Nghymru.
Mae canolfan brofi dros dro wedi agor tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili ddydd Sadwrn er mwyn i bobl sydd â symptomau gael eu profi.
Daw wrth i 77 o achosion newydd o Covid-19 gael eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn - y mwyaf mewn un diwrnod ers mis Mehefin.
"Yn nwylo'r gymuned mae hyn," meddai Mr David wrth BBC Radio Wales fore Sadwrn.
"Os ydy pobl yn dychwelyd o ddifrif i gadw pellter, golchi dwylo a chyfyngu ar gyswllt â phobl eraill, gallwn ni fynd yn ôl i ble'r oedden ni.
"Mae'n rhaid i bobl gymryd hyn o ddifrif."
'Ddim eisiau cyfnod clo llym arall'
Mae ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghaerffili wedi cael eu hatal er mwyn amddiffyn y trigolion yn dilyn y cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ardal.
Dywedodd Mr David mai canlyniadau'r profion o'r ganolfan brofi dros dro "fydd yn penderfynu beth fydd yn digwydd nesaf a pha benderfyniadau fydd yn cael eu cymryd wedi hynny".
"Dydw i'n bendant ddim eisiau gweld cyfnod clo llym arall, fel ym mis Mawrth," meddai.
"Yr unig ffordd ry'n ni'n mynd i osgoi hynny yw mynd yn ôl at y prosesau disgybledig roedden ni'n arfer eu gwneud mor dda."
Ddydd Gwener dywedodd Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod yn amlwg nad yw rhai pobl yn dilyn y rheolau ar gadw pellter.
"Mae cyfran nodedig o'r achosion positif ymysg oedolion ifanc, ac yn siomedig mae rhai wedi bod yn gyndyn o rannu manylion ynglŷn â lle maen nhw wedi bod a gyda phwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad," meddai.
"Mae'n hanfodol fod gwybodaeth gywir yn cael ei rannu gyda'r timau Profi, Olrhain a Gwarchod.
"Trwy beidio rhoi gwybodaeth gywir i'r timau mae'r bobl hyn yn peryglu eu teuluoedd a'u ffrindiau."
Chwarter holl achosion Cymru
Dros yr wythnos ddiwethaf mae'r gyfradd heintio yng Nghaerffili wedi bod yn 30.9 o bobl ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth - yr uchaf yng Nghymru a llawer uwch na'r cyfartaledd o 7.4 ar draws y wlad.
Cafodd 14 o achosion newydd eu cofnodi yn y sir ddydd Sadwrn.
Mae bron i chwarter yr holl achosion yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yng Nghaerffili.
Bydd y ganolfan brofi dros dro tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili ar agor rhwng 08:00 a 16:00 dros y penwythnos a nes 18:00 ddydd Llun a dydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020