Gwlad beirdd a chantorion – a mathemategwyr o fri?
- Cyhoeddwyd
Mae yna nifer o Gymry wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fathemateg dros y canrifoedd, ond ydyn ni'n gwybod pwy ydyn nhw?
Yma, mae Gareth Ffowc Roberts, awdur llyfr newydd - Cyfri'n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg - yn holi pam nad ydi rhai o'r arloeswyr yma yn cael sylw haeddiannol, er gwaetha'r ffaith fod gwaith rhai ohonyn nhw wedi trawsnewid y byd:
Ai gwlad y gân yn unig yw Cymru? Ydy hi hefyd yn wlad mathemateg a gwyddoniaeth? Sawl mathemategydd Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu henwi? Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig? Yn hollol!
Cymrwch, er enghraifft, un o'n mathemategwyr disgleiriaf, George Hartley Bryan (1864-1928), a dreuliodd ei holl yrfa academaidd ym Mhrifysgol Bangor.
Campwaith Bryan oedd ei lyfr Stability in Aviation (1911). Heb y fathemateg yn y llyfr hwnnw ni fyddai awyrennau modern yn bosibl oherwydd byddent yn plymio i'r ddaear.
Roedd Bryan a'r enwog John Morris-Jones yn gydweithwyr ym Mangor, y ddau wedi graddio mewn mathemateg.
Cyhoeddodd Morris-Jones ei gampwaith yntau, A Welsh Grammar, yn 1913, ac roedd dylanwad ei gefndir mewn mathemateg yn gryf ar ei ddadansoddiad o ramadeg y Gymraeg.
Roedd Bryan yn brin o'r sgiliau cymdeithasol elfennol, heb fawr o glem sut i drin myfyrwyr, a Morris-Jones yn ffigwr cyhoeddus o bwys, yn uchel ei barch ym mywyd ei goleg.
Yn llyfrgell Prifysgol Bangor heddiw, byddech yn cael dim trafferth o gwbl i gael hyd i gopi o A Welsh Grammar, ond hyd at yn ddiweddar iawn byddech yn chwilio'n ofer am unrhyw gopi o Stability in Aviation.
Byddech hefyd yn sylwi ar gerflun trawiadol o Morris-Jones yn un o'r coridorau, ond does dim cerflun na llun o Bryan yn unman. Mae Neuadd JMJ yn symbol gweladwy o Athro y Gymraeg, ond does dim byd tebyg i goffáu Bryan. Diflannodd pob cof amdano.
Mathemategwyr o fri? Oes, digonedd ohonynt ond prin eu bod yn rhan o gof y genedl.
Pei a phensiwn
Mae William Jones (1674-1749) o Ynys Môn yn un o'n mathemategwyr mwyaf adnabyddus, yn bennaf am mai ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (pai) i gynrychioli sawl gwaith y mae'r pellter o amgylch cylch yn fwy na diamedr y cylch, rhyw 3 ac ychydig.
Mae plant ysgol yn meddwl am π fel rhif sydd tua 3.14 ac mae rhai yn gwybod y digidau nesaf 3.141592... Ond roedd William Jones yn sylweddoli nad oedd modd cyrraedd gwir werth π: mae'r digidau'n mynd ymlaen ac ymlaen am byth.
Gyda sêl bendith Llywodraeth Cymru mae camp William Jones yn cael ei ddathlu ar 14 Mawrth yn flynyddol mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad. 14 Mawrth yw Diwrnod Pai Cymru, rhif y mis (3) a rhif y diwrnod yn cyfuno i wneud 3.14, wrth gwrs.
Mae Geraint Løvgreen wedi llunio'r mnemonig gwych yma fel ffordd i gofio saith digid cyntaf π:
Pai. Y gair a guddia ryfeddodau lu
Wrth gyfri nifer y llythrennau ym mhob gair cewch 3.141592, gan gynnwys y pwynt degol! Pai yw draig goch ein mathemateg.
Oes ganddoch chi bolisïau yswiriant a chynllun pensiwn? Beth yw'r fathemateg sy'n penderfynu faint o bremiwm sydd raid i chi dalu?
Richard Price (1723-1791), o Langeinwyr ger Maesteg, a'i fab yng nghyfraith William Morgan (1750-1833) o Ben-y-bont ar Ogwr oedd y ddau a osododd seiliau yswiriant, yn bennaf er mwyn helpu pobl gyffredin.
Daeth eraill i'w dilyn, gan gynnwys Griffith Davies (1788-1855) o'r Groeslon (Arfon), sy'n parhau i gael ei barchu yn ei fro enedigol am ei waith dros y werin bobl.
Roedd fy nain yn hoffi adrodd hanes un o'i chwsmeriaid fyddai'n dod bob wythnos am ei phensiwn i'w swyddfa bost ym Mryncelyn ger Treffynnon, Sir y Fflint. Yn ddiffael, byddai'r hen wreigen yn codi ei llyfr pensiwn i'r awyr gan floeddio "Diolch, Lloyd George!" Go brin fod y bensiynwraig na fy nain yn gwybod am waith y Cymry ddwy ganrif a mwy yn ôl yn gosod trefn fathemategol ar y cyfan.
'Dyn er anrhydedd'
Byddai'r ddwy hefyd wedi hoffi clywed am hanes Mary Wynne Warner (1932-98) o Gaerfyrddin, a ddatblygodd 'algebra fodern' yn arf i ddadansoddi digwyddiadau amhendant, fel y tywydd a daeargrynfeydd.
Fel Professor Warner derbyniodd Mary wahoddiad i agor cynhadledd bwysig ym Mhrifysgol Bahrain. Roedd yn dipyn o sioc i awdurdodau Bahrain pan gyrhaeddodd hi yno i sylweddoli mai merch oedd Professor Warner gan nad oedd caniatâd i unrhyw ferch gael mynediad i'r brifysgol.
Safodd Mary ei thir a chytunwyd y byddai'n cael ei hystyried fel 'dyn er anrhydedd' dros gyfnod y gynhadledd.
A rhaid sôn am Donald Davies (1934-2000) o Dreorci - wedi'r cwbl, mae'n ddigon posib na fyddech chi'n darllen yr erthygl hon ar Cymru Fyw oni bai am ei waith arloesol yn datblygu'r Rhyngrwyd.
Gallwn ychwanegu at y rhestr. Ydy, mae ein mathemategwyr yn bobl liwgar, mae eu hanes yn rhan bwysig o'n treftadaeth a'n diwylliant, ac mae'u dylanwad i'w weld a'i deimlo ar draws y byd heddiw.
Efallai'i bod hi'n bryd i ni yng Nghymru ddathlu a chanu clodydd ein 'mathemategwyr o fri' llawn cymaint â'n 'beirdd a chantorion'.
Hefyd o ddiddordeb: