Cyngor Gwynedd yn gwrthod cais cynllunio dadleuol yn Nefyn
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod cais cynllunio i drawsnewid ac ymestyn tŷ yn ardal Nefyn, a gafodd ei brynu am £330,000 y llynedd.
Roedd y perchnogion yn dweud y byddai'r tŷ yn gartref teuluol yn hytrach na chartref gwyliau, ac y byddan nhw'n defnyddio gweithwyr a deunyddiau lleol pan yn bosib.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell derbyn y cais, ond yn groes i'r argymhelliad hwnnw fe gafodd y cais ei wrthod brynhawn dydd Iau.
Roedd Cyngor Tref Nefyn wedi gwrthwynebu, gan ddweud y gallai agor y llifddorau ar gyfer mwy o ddatblygiadau o'r fath.
Yn gynharach, fe ddywedodd aelod o'r pwyllgor cynllunio, y Cynghorydd Gruff Williams, fod pobl leol yn cael eu "hatal" rhag prynu cartrefi mewn rhan o Wynedd oherwydd rheolau cynllunio'r sir.
Dywedodd Mr Williams bod y rheolau yn annog pobl o du allan i'r ardal i brynu ac adeiladu cartrefi yno, gan godi prisiau a "chrogi" yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae sicrhau cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth, ac mae pob cais cynllunio'n cael ei ystyried yn unigol.
'Abersoch arall'
Dros Wynedd mae tua 5,000 o ail gartrefi, y nifer uchaf yng Nghymru.
Dywedodd Gruff Williams fod cael mwy o gymunedau "fel Abersoch" - ble mae canran uchel o ail gartrefi - yn bosib os na fydd newid i'r drefn.
"Mae canlyniad gor-ddatblygiad twristiaeth yn amlwg yn barod yn yr ardal hon, byddai modd dweud bod pobl leol yn cael eu hatal rhag prynu, a gallwn weld Abersoch arall os nad ydyn ni'n ofalus," meddai.
Ychwanegodd bod yr ardal wedi llwyddo i gadw'r iaith yn fyw hyd yn hyn, ond ei fod yn gweld "patrwm yn ffurfio" ac yn "poeni'n fawr am ganlyniad y cyfrifiad y flwyddyn nesaf".
"Yn anffodus mae'n anodd dychmygu unrhyw senario heblaw cwymp sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Morfa Nefyn, Edern ac Aberdaron."
'Hoelen arall yn arch Cymreictod yr ardal'
Soniodd Mr Williams am achos teulu lleol a wnaeth cais i adeiladu dau dŷ yn ardal Llanengan, Abersoch yn ddiweddar.
Cafodd Nia Ferris - pennaeth ysgol gynradd - wybod na fyddai'n cael byw yn y tŷ gan fod ei hincwm yn uwch na'r trothwy o £45,000 ar gyfer tŷ fforddiadwy.
Honnodd Mr Williams bod pobl leol yn gweld "rhwystrau amrywiol" wrth geisio adeiladu tai, fel cyfyngiad ar faint tŷ tair llofft o 94m².
Dywedodd y byddai'r cynllun sydd dan ystyriaeth ger Nefyn yn treblu maint yr adeilad, ond ei fod wedi ei gymeradwyo.
"Mae'n codi'r cwestiwn os ydy'r polisïau yma yn gweithio er lles neu yn erbyn pobl leol?"
Ychwanegodd: "Yn ystod y pandemig mae prisiau tai wedi saethu i fyny. Cyn hynny byddai modd cael tŷ teras yn Nefyn am £100,000 ond nid bellach. Does prin unrhyw dai ar werth achos y galw.
"Mae gan gynllunwyr gyfrifoldeb yma i amddiffyn cymunedau a pheidio gosod cynsail yn y lle cyntaf dwy agos y llifddorau.
"Does gen i ddim amheuaeth mai'r canlyniad fyddai hoelen arall yn arch Cymreictod yr ardal."
Tai fforddiadwy 'yn flaenoriaeth'
Dywedodd Cyngor Gwynedd bod pob cais cynllunio'n cael ei ystyried yn unigol, ac yn unol â'r gofynion statudol.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae sicrhau tai fforddiadwy sy'n rhoi cyfle i bobl leol fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain yn flaenoriaeth i'r cyngor, ac rydyn wedi gweithredu polisi tai fforddiadwy ers sawl blwyddyn.
"Nod ein polisi ydy cynnig tai fforddiadwy i'r rhai sydd wir ei angen ac sy'n gymwys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2019