Yr awdures Agatha Christie a Chymru

  • Cyhoeddwyd
Agatha Christie

Mi fyddai Agatha Christie wedi dathlu ei phen-blwydd yn 130 mlwydd oed ar 15 Medi ac mae eleni'n nodi 100 mlynedd ers cyhoeddi ei nofel gyntaf, The Mysterious Affair at Styles.

Un sy'n diddori ym mywyd Agatha Christie yw'r adolygydd llyfrau Bethan Mair ac mae'n trafod cysylltiadau Cymreig yr awdures ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru:

line

Heblaw am y Beibl a gwaith Shakespeare, llyfrau Agatha Christie sy' wedi gwerthu orau yn y byd i gyd. Felly ni'n gallu rhoi coron y nofelydd mwya' poblogaidd iddi hi.

Yn Saesneg mae hi wedi gwerthu dros biliwn o lyfrau ac mae wedi gwerthu biliwn arall o'i llyfrau mewn ieithoedd eraill dros y byd i gyd.

Ysgrifennodd hi 66 o nofelau - ac 'oedd 'na ddramâu a straeon byrion hefyd.

Bethan Mair
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Mair

Priodi Cymro

Yn ddiddorol iawn mi briododd unig ferch Agatha Christie, Rosalind, â dyn o Gymru felly mae ŵyr Agatha Christie, Mathew Pritchard, a'i gor-ŵyr, James Pritchard, sy'n gyfarwyddwr Agatha Christie Limited - yn Gymry.

O'n nhw'n byw mewn tŷ tu fas i Ben-y-bont ar Ogwr. Doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg. Y tad oedd y Cymro ac roedd Agatha Christie yn dod yn aml at ei merch i Dregolwyn (Colwilston).

Dim cyfieithiad

Un o'r pethau diddorol am James Pritchard yw, er gwaetha'r holl ieithoedd mae gwaith yr awdures wedi cael eu cyfieithu iddyn nhw, mae e'n difaru fod hi erioed wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.

line

Dywedodd James Pritchard ar bodlediad The Museum of Curiosity: "We've sold over a billion copies in English...we're published in around 100 foreign languages. Bizarrely because I'm Welsh, the one language we don't seem to have managed to publish in is Welsh. Maybe one day..."

line

Bydde cyfieithu un o nofelau Agatha Christie yn dipyn o hwyl.

David Suchet yn chwarae ran Poirot
Disgrifiad o’r llun,

David Suchet yn chwarae ran Poirot yn y ddrama BBC am y ditectif enwog

Llyfr Endless Night

Dyma'r unig un (o lyfrau Agatha Christie) sy' wedi cael ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei nofelau hi mor enwog ac mae ganddi dditectif enwog iawn, sef Hercules Poirot, wedi ei ysbrydoli gan y ffaith ei bod hi wedi gwirfoddoli yn ystod y rhyfel ac oedd 'na filwyr o Wlad Belg wedi eu hanafu yn y lle roedd hi'n gweithio.

Felly dyma be' ysbrydolodd Hercules Poirot.

Nofel gyntaf

The Mysterious Affair at Styles oedd nofel gynta' Agatha Christie, - mae'n ddiddorol iawn achos ysgrifennodd hi hon tua 1916, pedair blynedd cyn iddi gael ei cyhoeddi. Roedd hi wedi cael ei gwrthod gan sawl cyhoeddwr.

Ni'n gwybod am JK Rowling a llyfrau Harry Potter ei bod hi wedi cael naw llythyr gwrthod ond mae'n od meddwl am Agatha Christie a'i holl lwyddiannau, bod hithau hefyd ar ddechrau ei gyrfa wedi cael ei gwrthod gan dri neu bedwar o gyhoeddwyr.

Byddai Agatha Christie a'i ŵyr Mathew a'i gor-ŵyr James yn dweud - 'dyfalbarhewch'.

Mae yna lawer o gysylltiadau annisgwyl â Chymru mewn llenyddiaeth, hefyd o ddiddordeb: