Ateb y Galw: Y Prifardd Guto Dafydd
- Cyhoeddwyd
Y Prifardd Guto Dafydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Anni Llŷn yr wythnos diwethaf.
Mae Guto yn wyneb cyfarwydd i'r rhan fwyaf o Eisteddfotwyr. Flwyddyn ar ôl iddo ennill Coron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014. Yn 2016, ef oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Y Fenni.
Dair blynedd yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019, enillodd y Goron a Gwobr Goffa Daniel Owen am yr eildro.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod ar ysgwyddau Dad yn gwylio'r hen gwt band yn cael ei chwalu yn Nhrefor.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Angharad Mair. Ro'n i'n cael sterics pan oedd unrhyw un arall yn darllen y newyddion. Ro'n i'n gweiddi ar y teledu, "Na, na Dewi Hwyd! Ahad Mai fi isio!"
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mynnu mynd â'r plant am dro i Borthdinllaen ar eu beics. Roedd y lôn i lawr yn llawer mwy serth na'r disgwyl. A thorri stori hir yn fyr, mae fy mab un dant blaen yn brin.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wrth i'r plant fynd nôl i'r ysgol ddechrau Medi. Wrth gwrs, roedd yn wych cael gwared arnyn nhw o'r tŷ; eto i gyd, roedd yn teimlo fel diwedd cyfnod heriol ond hyfryd na welwn ni mo'i debyg eto.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Poeni. Pryderu. Stresho. Panicio.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ar y rhestr fer mae 'na sawl noson yn Nhŷ Newydd Sarn neu Bwllheli pan o'n i yn fy arddegau, a sawl noson yn y Plu a Thŷ Newydd Llanystumdwy ar gyrsiau'r Urdd, ond yn y diwedd mae hi rhwng Gŵyl Gardd Goll, Glynllifon 2008, a'n parti priodas yn Nant Gwrtheyrn - Bob Delyn a Di Pravinho'n canu, a phawb yn dawnsio'n hapus braf.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n perthyn i foi o'r enw Joe Tanner sy'n un o gyn-astronôts NASA. Mae Joe a finnau'n perthyn i'r beirdd Dylan Thomas a Gwyneth Lewis hefyd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae'n anodd curo'r olygfa o gopa'r Eifl. Mae'n bosib gweld o Drefor, lle ces i'n magu, at y chwarel, dros ben Llŷn, ac at Bwllheli lle dwi'n byw; ac ar yr ochr arall o'r Wyddfa a'i chriw i lawr at y Rhinogydd a Chader Idris a Dyfed.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Llwyth dyn diog.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm a pham?
A Place of Greater Safety gan Hilary Mantel ar hyn o bryd. Ond dwi newydd gychwyn ar gynllun fydd yn golygu mod i wedi darllen y Beibl o'r dechrau i'r diwedd mewn blwyddyn - dwy neu dair pennod y dydd. Mae'n reit gyffrous hyd yma. Dwi wedi clywed ei fod yn llyfr poblogaidd iawn.
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân a pham?
Gad mi lithro gan yr Ods am ei bod hi'n crisialu'r profiad o fod yn Gymro; neu Celwydd Golau Ydi Cariad gan Cowbois Rhos Botwnnog, am ei bod hi'n crisialu'r profiad o fod yn ifanc ac yn galon-feddal.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Richard Hughes, Cefnllanfair. Mân uchelwr o Lŷn aeth yn filwr yn Sbaen ac yna'n ffwtman i Elisabeth I. Roedd o'n byw yn Llundain ac yn sgwennu cerddi am y profiadau lliwgar roedd o'n eu cael yn y ddinas, a'r darganfyddiadau a'r dyfeisiadau oedd i'w gweld yno ar y pryd - pistol, baco, sbectol ac ati. Roedd o hefyd yn sgwennu am ei hiraeth am Lŷn, ac am fywyd trefol ym Mhwllheli.
Mi fasan ni'n mynd am gwrw a pheis mewn tafarndai doji yn Llundain.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dringo mynydd yn y bore; bwffe a boild ham efo'r teulu i ginio; darllen a chwarae ar lan y môr efo Lisa a'r plant yn y pnawn; wedyn swper yn Whitehall a gig Cowbois neu Bob Delyn yn Penlan Fawr gyda'r nos. Gorffen y noson yn canu emynau allan o diwn mewn pedwar llais. Gwely toc wedi deg.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Chwadan; venison; tarte au citron.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Unrhyw un sy ddim yn poeni, pryderu na theimlo cywilydd. "Dim cyfrifoldeb, dim math o ddiddordeb," fel dwedodd yr Ods.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Gwenan Gibbard