Perfformiad cryf ond colled i Ferched Cymru yn Oslo

  • Cyhoeddwyd
mreched cymruFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Merched Norwy 1-0 Merched Cymru

Roedd yn berfformiad disglair ar adegau gan Ferched Cymru, ond colli i Norwy oedd eu hanes yn rowndiau rhagbrofol Euro 2021 yn Oslo.

Gyda Sophie Ingle yn ennill ei 100ed cap i'w gwlad, roedd yna hyder yn chwarae Cymru yn y munudau agoriadol.

Ond mae Norwy yn un o bedwar tîm yn unig sydd wedi ennill Cwpan y Byd, a nhw aeth ar y blaen wedi 28 munud.

O gic gornel fer, fe gafodd Guro Reiten ddigon o le i grymanu'r bêl dros ben Laura O'Sullivan i gornel bella'r rhwyd i roi Norwy ar y blaen.

Gallai'r tîm cartref fod wedi ymestyn y fantais cyn yr egwyl, ac roedd Cymru'n ffodus ar adegau i beidio ildio eto.

Ond yna yn yr ail hanner, fe wnaeth Cymru - gyda Jess Fishlock yn dychwelyd wedi cyfnod hir wedi'i hanafu - greu sawl cyfle.

Roedd Fishlock ei hun yn anlwcus i beidio cael cic o'r smotyn, ond pan ddigwyddodd rhywbeth digon tebyg i Kayleigh Green fe welodd y Gymraes gerdyn melyn am ffugio.

Daeth Tash Harding, Rachel Rowe a Fishlock eto yn agos i unioni'r sgôr ond doedd dim yn tycio.

Gall tîm Jayne Ludlow fod yn falch o'r perfformiad, ond mae'r canlyniad yn eu rhoi dan bwysau i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop y flwyddyn nesaf.