Merched Cymru'n cyhoeddi carfan o 27 i herio Norwy

  • Cyhoeddwyd
Sophie IngleFfynhonnell y llun, Kunjan Malde/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sophie Ingle yn ennill ei 100ed cap yn erbyn Norwy

Mae rheolwr tîm Merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 27 chwaraewr i wynebu Norwy ar ddiwedd y mis.

Fydd Cymru yn croesawu nifer o chwaraewyr oedd ddim ar gael ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Estonia ym mis Mawrth.

Mae Jess Fishlock nôl yn y garfan ar ôl bod allan am 18 mis oherwydd anaf, yn ogystal ag Elise Hughes a Gemma Evans.

Mae'r capten Sophie Ingle yn gobeithio ennill ei 100ed cap yn y gêm yn Oslo i goroni blwyddyn wych i Ingle, sydd eisoes wedi ennill tair tlws i'w chlwb Chelsea eleni.

Bydd Poppy Soper, Cerys Jones a Bethan McGowan yn rhan o garfan Cymru am y tro cyntaf.

Mae'r tair wedi chwarae i dimau dan-17 a dan-19 Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ni fydd Megan Wynne ar gael ar ôl cael anaf i'w choes fis diwethaf, ac ni fydd yr amddiffynnwr Loren Dykes ar gael oherwydd rhesymau personol.

20 o'r chwaraewyr fydd yn teithio i Oslo ar gyfer y gêm yn erbyn Norwy ar ddydd Mawrth, 22 Medi.

Mae Cymru yn yr ail safle yn y tabl, pedwar pwynt tu ôl i Norwy gyda phedair gêm yn wedill. Mae UEFA wedi cadarnhau bydd y gemau yn cael eu cynnal heb dorf yn sgil pandemig COVID-19, tan i'r sefyllfa wella.

Bydd y naw tîm sydd yn curo ei grŵp a'r tri thîm gorau yn yr ail safle (heb ystyried gemau yn erbyn y tîm yn y chweched safle) yn cyrraedd cystadleuaeth UEFA EURO Merched 2022.

Fydd y chwe thîm arall yn yr ail safle yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle.

Y garfan yn llawn

Laura O'SULLIVAN (Caerdydd), Claire SKINNER (Caerdydd), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Jess FISHLOCK (Reading - ar fenthyg o OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Lerpwl), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur), Angharad JAMES (Reading), Nadia LAWRENCE (Caerdydd), Rachel ROWE (Reading), Natasha HARDING (Reading), Elise HUGHES (Everton), Helen WARD (Watford), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Ffion MORGAN (Crystal Palace), Charlie ESTCOURT (London Bees), Lily WOODHAM (Reading), Maria FRANCIS-JONES (Caerdydd), Kylie NOLAN (Caerdydd), Carrie JONES (Manchester United), Cerys JONES (Brighton & Hove Albion), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Bethan MCGOWAN (Heb glwb)