Y Ganolfan Ddarlledu: Ffatri freuddwydion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Hiraeth am rai o'r ysbrydion sy'n crwydro'r coridorau'

Mae'n debyg taw fi yw'r unig sy'n gweithio yn y BBC yn Llandaf sy'n cofio'r adeilad oedd yma cyn y Ganolfan Ddarlledu bresennol, neu BH, fel mae pawb yn ei galw.

BH arall oedd hwnnw ond Baynton House nid Broadcasting House oedd ei enw ac i blentyn roedd yr hen blasty Fictoraidd yn lle reit spwci.

Ond os oedd y BH gwreiddiol yn teimlo fel rhywbeth allan o Scooby-Doo roedd yr un newydd â mwy o naws Thunderbirds a Stingray yn perthyn iddi.

Gyda'i muriau gwydr, ei phileri concrit a'i llinellau plaen, diaddurn, doedd dim dwywaith mai perthyn i oes Telstar, Sputnik ac Apollo yr oedd y ganolfan ddarlledu newydd.

Ond oddi mewn iddi roedd pethau ychydig bach yn wahanol gyda hoelion wyth anghydffurfiol a beirdd coronog yn ymgiprys â graddedigion ifanc oedd yn benderfynol ynghylch llusgo Cymru a'r Gymraeg i mewn i ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Roedd hi'n frwydr rhwng "Dechrau Canu" a "Disg a Dawn" os mynnwch chi, a rhyngddyn nhw fe greodd y ddwy garfan y peth agosaf i ffatri freuddwydion y bu gan Gymru erioed.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ganolfan newydd ei chodi ar safle plasty Baynton House - roedd yn cael ei ddefnyddio gan y BBC tan iddo gael ei dynnu i lawr yn 1975

Roedd 'na gyfnod pan fyddai pob un plentyn Cymraeg ei iaith yn gallu adrodd y cod post CF5 2YQ o'u cof ond o gornel y stiwdio newyddion, C2, yr oedd rhaglenni fel Bilidowcar a'r Awr Fawr yn dod. Doedden nhw ddim yn ddigon pwysig i haeddu stiwdio anferthol C1 drws nesaf.

Cartref i bwysigion megis Enoc Hughes a Lloyd George ynghyd â holl gymdogion Cwmderi oedd C1. Ond nid stiwdio ddrama oedd hi'n unig. Hi oedd cartref Ryan a Ronnie, Crimewatch a hyd yn oed Terry and June!

Ond ar gyrion yr adeilad oedd y stiwdios teledu, y rhai radio oedd wrth ei chalon hi gyda'r Neuadd Gyngerdd fawreddog yn gartref i gerddorfa oedd yn newid ei henw byth a hefyd cyn setlo ar fod yn Gerddorfa Genedlaethol Cymru.

Roedd 'na stiwdio fawr arall ar gyfer math o raglen sydd bron wedi diflannu bellach, rhaglenni radio â chynulleidfaoedd byw, rhaglenni cwis, gemau panel a'u tebyg.

Y drws nesaf i honno yr oedd y stiwdio ddrama radio yn llawn bob math o ddrysau, llestri a geriach oedd eu hangen i gynhyrchu effeithiau sain cyn bod y rheiny ar gael ar dap.

Roedd y cynhyrchwyr radio a theledu fel ei gilydd yn gallu bod yn anturus ac yn arbrofol yn y dyddiau hynny.

Gyda chyn lleied o raglenni Cymraeg cyn dyfodiad Radio Cymru ac S4C roedd y Cymry Cymraeg yn fodlon gwylio a gwrando ar bron unrhyw beth yn eu hiaith eu hun. Unrhyw beth ar wahân i Twndish, hynny yw.

Daeth tro ar fyd ac yn ein byd digidol, aml-sianelog mae gweithio yn BH bellach yn teimlo fel teithio ar fwrdd y Queen Mary neu'r Queen Elizabeth yn ei dyddiau olaf. Mae'r rhamant dal yma ond does bron dim byd yn gweithio fel y dylsai a dyw'r lle ddim yn addas at anghenion y ganrif hon.

Fe ddaw henaint i'r Sgwâr Ganolog rhyw ben, bid siŵr, ond am nawr, fel BH hanner canrif yn ôl, mae hi o flaen ei hoes ac mae teimlad o gyffro dros y lle newydd yn trechu hiraeth dros yr hen le.

Serch hynny, wrth i ni freuddwydio'n breuddwydion olaf yn BH cyn cloi drws y ffatri am byth fe fydd 'na ambell i ddeigryn mewn ambell i lygad wrth i ni ffarwelio â hi.