Diwedd cyfnod i adeilad 'arloesol' y BBC yn Llandaf

  • Cyhoeddwyd
BH

Pan agorwyd canolfan ddarlledu BBC Cymru yn Llandaf ym 1966 mi oedd y waliau concrit gwyn yn amgylchynu adeilad arloesol.

Roedd hi yn gyfnod cyffrous yn hanes darlledu i Gymru ac i'r Gymraeg.

Wedi 53 o flynyddoedd, a miliynau o oriau o ddarlledu, mae holl wasanaethau BBC Cymru yn y broses o symud i bencadlys newydd yng nghanol Caerdydd.

Fe fydd yr adeilad yn Llandaf yn cael ei ddymchwel flwyddyn nesaf, a bydd rhaid i'r archif a'r atgofion gadw cartref darlledu Cymru yn y cof.

'Un teulu mawr cytûn'

Hen blasty o'r enw Baynton House oedd ar y safle gwreiddiol yn Llandaf, ac fe ddiflannodd i wneud lle i'r BBC.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r ganolfan yn 1963, gyda'r BBC yn symud i mewn tair blynedd yn ddiweddarach. Roedd ymweliad gan y Dywysoges Margaret yn 1967 i'w hagor yn swyddogol.

Y pensaer o Ferthyr Tudful, Dale Owen, oedd yn gyfrifol am yr adeilad. Roedd eisoes wedi dylunio adeiladau ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, ac yn gyfrifol am y ganolfan i ymwelwyr yn amgueddfa Sain Ffagan.

Roedd y concrit ac onglau cadarn y ganolfan darlledu newydd yn gyfoes ac yn lan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beti George yn cofio'r cyffro oedd yn yr adeilad pan ddechreuodd weithio i'r BBC

Daeth hi'n atyniad i rai oedd eisiau gweithio yn y cyfryngau Cymraeg.

Yn y 1970au dechreuodd Beti George ar ei gwaith yn y ganolfan ddarlledu, neu "BH" - Broadcasting House - fel mae pawb yn ei galw hi.

"Dwi yn cofio pobl yn ymfalchïo yn y ffaith bod nhw'n gweithio mewn lle fel hyn. Achos roedd e mor fodern, ac oedd y dechnoleg ddiweddaraf yno.

"Ac yr hyn o'n i'n teimlo ar y pryd oedd ein bod ni gyd yn un teulu mawr cytûn. Falle bo fi'n edrych drwy sbectol liw, dwi ddim yn gwybod, ond dyna'r teimlad ar y pryd."

Yn y 1970au roedd BBC Cymru yn darlledu rhaglenni teledu Cymraeg a Saesneg ar yr un sianel, a diwedd y ddegawd daeth gwasanaethau Radio Cymru a Radio Wales i'r awyr.

Disgrifiad o’r llun,

Un o stiwdios y ganolfan ddarlledu yn 1973

Roedd Beti George yna i ohebu yn Gymraeg ar y radio a'r teledu.

"Roedd 'na ryw fwrlwm, fel tase ysbryd arloesi yn bod yma. Achos, wrth gwrs, roedd e'n arloesi i raddau helaeth ar yr adeg honno.

"Wi'n cofio sut roedd pawb yn cwrdd amser cinio yn y cantîn fan hyn. Roedd 'na buzz, ac o'n ni'n clywed pobl yn trafod eu rhaglenni, yn cynnig syniadau newydd, ac yn beirniadu gwaith ei gilydd."

"A dyna beth oedd creu, ac roedd yr ysbryd creadigol yna yn gryf iawn ar yr adeg honno.

"Ac roedd y rheini ohono ni oedd yn gweithio ar y rhaglenni Cymraeg, a rheini oedd yn gweithio ar y rhaglenni Saesneg, i gyd gyda'n gilydd yn rhannu syniadau ac ati."

Disgrifiad o’r llun,

Un o stiwdios arloesol y BBC yn 1967

Gyda dyfodiad S4C yn 1982 fe symudodd cartref y rhaglenni ar y sgrin, ond y BBC yn Llandaf oedd dal yn lleoliad gyfer y rhai oedd yn gweithio arnynt.

"Roedd hi'n gyfnod euraidd yn fy marn i, achos roedd gymaint o dalentau. Roedd 'na bobl fel y Dr Meredydd Evans, wnaeth gymaint o gyfraniad i adloniant i Gymru ar y teledu.

"Wedyn roedd yna bobl fel John Hefin, Richard Lewis, Selwyn Roderick, John Ormond. Roedden nhw'n gwneud rhaglenni gwych, rhaglenni swmpus, a rhaglenni oedd yn cael eu dangos ar rwydwaith y BBC. Ar oriau brig, nid yn cael eu gwthio i ryw 11 o'r gloch y nos.

"Ac roedd Cymru yn cael ei adlewyrchu ar rwydwaith y BBC yn gyson. Hynny yw, pobl Cymru, ffordd o fyw Cymru, roedd hynny i gyd yn cael eu dangos ar y rhwydwaith."

Rhai o'r rhaglenni teledu gafodd eu recordio yn y ganolfan yn Llandaf:

Disgrifiad o’r llun,

Ynyr Williams, Angharad Mair ac Emyr Davies yn recordio Bilidowcar yn Llandaf

  • Pobol y Cwm (cyn symud i stiwdios drama y BBC ym Mae Caerdydd)

  • Bilidowcar

  • Can i Gymru

  • Margaret Williams

  • Plant Mewn Angen

  • Rhaglenni Newyddion ac Etholiad BBC Cymru ac S4C

  • The Vision - ffilm i'r BBC gyda Dirk Bogarde a Lee Remick

  • Sioe Peter Karrie - gwesteion fel Joan Collins, Spike Milligan a Harry Secombe

  • Selected Exits - ffilm i'r BBC yn serennu Syr Anthony Hopkins

Y ganolfan ddarlledu newydd oedd y tro cyntaf i adnoddau'r BBC yng Nghymru ddod dan yr un to.

Stiwdios radio oedd yn gweithredu yna'n gyntaf ar ddiwedd y 60au. Yn y 70au diflannodd Baynton House a daeth y stiwdios teledu, ac yn yr 80au fe brynodd y BBC yr adeilad gyferbyn a'r ganolfan darlledu ar Ffordd Llantrisant, sef hen adeilad coleg gafodd ei ail-enwi'n Tŷ Oldfield fel teyrnged i'r cyn-reolwr Alun Oldfield-Davies.

Un arall oedd yna ymysg cyffro'r 70au hwyr oedd Menna Richards, a ddechreuodd fel gohebydd radio a theledu cyn dod 'nôl yn hwyrach fel pennaeth BBC Cymru.

"O'n i ymhlith y gohebwyr newyddion cyntaf gafodd eu penodi ar ôl i'r ddau wasanaeth cenedlaethol gael eu lansio.

"Roedd e'n gyfnod cyffrous iawn wrth gwrs, achos yn sydyn iawn oedd y ddau wasanaeth cenedlaethol ar gael i wrandawyr yng Nghymru. Ac wedyn ar ôl cyfnod yn gweithio yn radio es i weithio ar y teledu, a nes i weithio ar Heddiw ac wedyn ar Newyddion 7."

Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn cyfnod fel gohebydd, daeth Menna Richards yn ôl i'r BBC fel y pennaeth yng Nghymru

Yn swyddfeydd yr adeilad newydd, dynion oedd yn y mwyafrif.

"Roedd yr ystafell newyddion yn le diddorol iawn ar y pryd. Ychydig iawn o fenywod o'n ni. Roedd yna ryw ddwy neu dair ar y dechrau pan ddechreuais i, ond diolch i'r drefn mae pethau wedi newid.

"Oedd bod yn yr adeilad yma, ac yn yr ystafell newyddion oedd mor fyrlymus, yn deimlad bron iawn fel eich bod chi yn teimlo bod chi yn rhan o hanes. Nid gymaint oherwydd yr adeilad, ond tu mewn i'r adeilad oedd y gwasanaethau newydd yma wedi cael eu lansio, eu datblygu, a phobl yn cael eu meithrin.

"Roedd lot fawr o dalent yn yr adeilad yma bryd hynny ac wrth gwrs yn y blynyddoedd wedyn."

Clirio Llandaf

Fe aeth Menna Richards i weithio i HTV yn yr 80au, ac roedd hi dan yr argraff bod ei chyfnod yn Llandaf wedi dirwyn i ben. Ond yn y flwyddyn 2000 daeth hi'n ôl fel pennaeth holl wasanaethau BBC Cymru.

"O'n i ddim yn disgwyl fydde hynny yn digwydd i fi byth, achos pan es i o yma tua 20 mlynedd cyn hynny fe ddwedodd un o fosys y BBC na fyddwn i byth yn dod 'nôl i'r BBC achos o'n i'n bradychu'r gorfforaeth. Ond dyna fe!

"Roedd dod 'nôl i'r adeilad yma yn arwydd o bwysigrwydd y BBC, a'r ffaith bod gymaint o bobl yma o'n i eisiau cydweithio gyda nhw. Ac roedd yr anrhydedd o gael arwain sefydliad fel hyn yn gyffrous iawn."

O ddydd Llun 28 Medi mi fydd rhaglenni newyddion teledu BBC Cymru yn cael eu darlledu o'r pencadlys newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Mae'r gwaith o glirio Llandaf wedi cychwyn, gyda'r bwriad o gau'r drysau am byth ganol mis Ionawr 2021.