Trefn gwrth-fwlio'r Gwasanaeth Iechyd yn 'anaddas'

  • Cyhoeddwyd
Meddygon y Gwasanaeth IechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canran uchel o feddygon y Gwasanaeth Iechyd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi addo gweithredu yn dilyn pryderon am drefniadau gwrth-fwlio yn y Gwasanaeth Iechyd.

Daeth grŵp oedd yn edrych ar effaith Covid-19 ar bobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig i'r casgliad y gallai pobl bryderu am ganlyniadau negyddol defnyddio'r polisïau presennol.

Dywed eu hadroddiad nad oedd y polisïau yn addas ar gyfer eu pwrpas.

"Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol," meddai Mr Drakeford wrth ymateb.

Ychwanegodd y byddai'n cymryd camau "ar draws GIG Cymru i weithredu'r awgrymiadau - oedd wedi eu creu i daclo'r profiadau hyn".

Galwodd y prif weinidog ar arweinyddion ym mhob maes yng Nghymru "i hel hiliaeth allan o'n gwlad", gan addunedu i greu "etifeddiaeth barhaol i Gymru lle'r oedd tegwch a chyfle i bawb ddatblygu".

Dywedodd adroddiad y grŵp fod "diffyg gweithredu" wedi bod ar gydraddoldeb hil.

Mae pobl ddu, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig ddwywaith yn fwy tebygol o farw o coronafeirws na phobl wyn yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ystadegau gafodd eu casglu dros yr haf.