Y Democratiaid Rhyddfrydol 'i ennill mwy o seddi'
- Cyhoeddwyd
Dywed Syr Ed Davey, arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y bydd ei blaid yn ennill mwy o seddi yn etholiadau Senedd Cymru.
Ar hyn o bryd does gan y Democratiaid Rhyddfrydol yr un AS Cymreig yn San Steffan a dim ond un aelod sydd ganddynt yn y Senedd - sef Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Mae Syr Ed yn credu y bydd ei "chyfraniad ardderchog i'r swydd" yn rhoi hwb i'r blaid fis Mai nesaf.
Daw ei sylwadau wrth i'w blaid gynnal ei chynhadledd hydref rithiol.
Fe ddaeth Ed Davey yn arweinydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol fis diwethaf wedi iddo drechu ei gyd AS Layla Moran.
Roedd yn enillydd clir ar ôl sicrhau 63.5% o'r bleidlais.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales dywedodd y bydd ei blaid yn gwrando ar yr etholwyr yng Nghymru wedi perfformiadau siomedig yn ddiweddar.
"Rwy'n credu bod pleidleiswyr wedi bod yn anfon negeseuon i ni," meddai.
"Mae'n ddyddiau cynnar ond rwyf eisoes wedi bod yng Nghymru a byddaf yn gwrando ar lais y bobl."
Dywedodd bod yn rhaid i'r blaid ddeall beth yw gofynion gwahanol gymunedau yng Nghymru.
"Rwy am sicrhau bod polisïau a blaenoriaethau'r Democratiaid Rhyddfrydol yr un fath â rhai pobl Cymru, ein bod yn berthnasol i'w problemau a'u pryderon ac i'w gobeithion a'u breuddwydion," meddai.
"Rwy'n credu bod yn rhaid dychwelyd at yr hyn yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn arfer ei wneud a'r hyn yr ydym yn gallu ei wneud yn dda iawn ar lefel leol, sef deall anghenion cymunedau unigol a sicrhau ein bod yn cymhwyso ein gwerthoedd i'w pryderon fel bod gennym atebion i'w problemau."
'Gallwn wneud yn well'
Doedd Syr Ed ddim am ragweld faint o seddi y byddai'r blaid yn eu hennill yn yr etholiadau flwyddyn nesaf ond dywed ei fod yn hyderus y byddai "record wych" Kirsty Williams fel gweinidog addysg yn cynyddu cynrychiolaeth y blaid yn y Senedd.
"Mae hi wedi cyflwyno gwerthoedd a blaenoriaethau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei swydd ac wrth i bobl glywed mwy am hynny a chlywed mai ni yw plaid addysg yng Nghymru, rwy'n siŵr y gallwn ni wneud llawer iawn yn well."
Politics Wales ar BBC1 Cymru10:00 ddydd Sul, Medi 27 ac yna ar iPlayer
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020